Y gwyddonydd Syr John Houghton wedi marw yn 88 oed

  • Cyhoeddwyd
Syr John Houghton

Mae'r academydd blaenllaw ar newid hinsawdd, ac enillydd gwobr Nobel, Syr John Houghton, wedi marw yn 88 oed ar ôl iddo gael coronafeirws.

Roedd fwyaf adnabyddus am ei waith yn tynnu sylw llunwyr polisi a'r cyhoedd at newid hinsawdd, yn ogystal â bod yn brif gyfarwyddwr ar y Swyddfa Dywydd.

Ar ôl ymddeol fe symudodd gyda'i wraig i Dywyn i fyw.

Yn fwy diweddar cafodd ei wneud yn gymrawd Prifysgol Cymru Aberystwyth.

'Cyfraniad enfawr'

Wrth dalu teyrnged iddo dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, ei fod yn "ffrind gwych i'r brifysgol".

"Roedd ei gyfraniad i'n dealltwriaeth ni o faterion amgylcheddol yn enfawr, ac yn parhau i gynorthwyo'n ymchwil ni yma yn Aberystwyth a thu hwnt," meddai.

"Bydd colled fawr ar ei ôl yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac o fewn y gymuned wyddonol yn ehangach ble y gwnaeth gyfraniad mor amlwg a gwerthfawr."

Cafodd Syr John Houghton ei eni yn Nyserth yng ngogledd Cymru a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Y Rhyl, cyn cwblhau gradd a doethuriaeth mewn Ffiseg yng Ngholeg yr Iesu Rhydychen.

Ffynhonnell y llun, Kaihsu Tai
Disgrifiad o’r llun,

Syr John Houghton yn cyflwyno darlith mewn cynhadledd newid hinsawdd yn ne Lloegr yn 2005

Fe weithiodd fel rhan o dîm o wyddonwyr eraill ar systemau i nodi dosbarthiad tymheredd, pwysedd a chyfansoddiad cemegol yn yr atmosffer, ac yn sgil hynny roedd modd creu mapiau tri dimensiwn byd-eang o dymheredd, gwasgedd ac, yn y pen draw, dwyseddau osôn, carbon deuocsid ac anwedd dŵr.

Yn 1983 cafodd ei benodi yn brif gyfarwyddwr y Swyddfa Dywydd, ac yna'n brif weithredwr arni.

Yn ystod ei gyfnod fel pennaeth fe gafodd e a'r cyflwynydd tywydd Michael Fish eu beirniadu yn 1987 am fethu â darogan y storm fawr a darodd de-orllewin Lloegr.

Yn 1988 pan gafodd y Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd ei sefydlu cafodd yr Athro Houghton ei benodi'n gadeirydd y grŵp gweithiol gwyddonol.

Pan gafodd gwaith y panel ei gydnabod gyda Gwobr Nobel yn 2007, ef oedd yn derbyn y wobr ochr yn ochr ag Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Al Gore.