Plaid Cymru'n galw am ddiswyddo'r Gweinidog Iechyd

  • Cyhoeddwyd
Vaughan GethingFfynhonnell y llun, National Assembly for Wales
Disgrifiad o’r llun,

Mae Plaid Cymru'n honni fod Vaughan Gething "ddim yn gallu derbyn beirniadaeth"

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn galw arno i ddiswyddo'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

Dywed Adam Mr Price fod Mr Gething wedi torri'r cod ymddygiad trwy regi wrth gyfeirio at gyd-Aelod Cynulliad Llafur ar ôl gadael ei feicroffon ymlaen yn ystod cyfarfod ar-lein o'r Senedd ddydd Mercher.

Mae Mr Gething wedi ymddiheuro i Jenny Rathbone, oedd wedi ei holi ynghylch perfformiad Llywodraeth Cymru o ran trefnu profion coronafeirws a sicrhau offer diogelwch personol.

Yn y llythyr, dywed Mr Price bod angen ei ddiswyddo er mwyn "adfer ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd" yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig Covid-19.

'Tôn ymosodol'

Awgrymodd Mr Price fod y rheg, "o bosib" yn arwydd fod Mr Gething "dan bwysau aruthrol". Ond dywedodd fod "tôn ymosodol" at aelod o'i blaid ei hun "yn codi pryderon cwbl ddilys" ac yn enghraifft o'i "amharodrwydd yn gyffredinol i fod yn atebol a chael ei herio".

Mewn cyfweliad ar BBC 5Live ddydd Iau, dywedodd Helen Mary Jones, AC Plaid Cymru yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru fod angen arweinwyr "cydweithredol" yn ystod argyfwng fel yr un presennol.

"Ar un lefel, mae'r [rheg] yn ddoniol ac mae'r lluniau ohonon ni gyd yn ymateb yn eitha' doniol," meddai.

"Ond mae ei agwedd at gael ei holi ynghylch beth mae'n ei wneud yn... wirioneddol broblematig, ac roedd hynny'n wir cyn yr argyfwng hwn.

"Ond yn yr argyfwng yma rydyn ni angen i'n prif arweinwyr fod yn gydweithredol."

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

ACau'n ymateb yn dilyn y rheg wrth i'r Llywydd, Elin Jones ddweud wrth Mr Gething i ddiffodd ei feicroffôn

Dywedodd Ms Jones fod ymateb Mr Gething yn cyferbynnu â'r ffordd y gwnaeth y Gweinidog Economi, Ken Skates "ddiolch holl wleidyddion y gwrthbleidiau oedd wedi dod ag achosion i'w sylw, a dangos iddo ble mae'r problemau".

Ychwanegodd: "Dydy Vaughan Gething ddim yn ymateb yn yr un modd wrth gael ei graffu.

"Dyna pam rydym yn galw arno i fynd, nid oherwydd y rheg ond oherwydd yr hyn mae'r rheg yn ei amlygu am y person - rhywun na all dderbyn beirniadaeth."

Mwy am coronafeirws
Mwy am coronafeirws

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Paul Davies ddydd Mercher y dylid diswyddo Mr Gething gan fod hi'n "gwbl annerbyniol i weinidog i ddangos y fath ddirmyg ag amhroffesiynoldeb ar adeg fel hyn".

Fe gyhoeddodd Mr Gething neges ar Twitter yn ymddiheuro i Ms Rathbone, gan ddweud: "Yn amlwg mae gen i gywilydd am fy sylwadau ar ddiwedd y cwestiynau heddiw."

Ychwanegodd: "Fe allen ni fod wedi gwneud heb hyn ar adeg heriol mor ddigynsail."

'Pwysau aruthrol'

Mae un o gyd-aelodau Llafur Mr Gething wedi dweud ei bod hi'n bryd "symud ymlaen" wedi'r ymddiheuriad.

Dywedodd AC Caerffili, Hefin David: "Dwi'n meddwl bod ei ymateb yn un dynol i'r pwysau aruthrol sydd arno ar hyn o bryd."

Ychwanegodd bod Ms Rathbone yn "gwbl gywir i ofyn y cwestiynau anodd" gan mai dyna yw ei gwaith fel aelod ar y meinciau cefn.