Vaughan Gething yn ymddiheuro ar ôl rhegi am gyd-AC Llafur

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd modd gweld sawl aelod yn ymateb mewn syndod yn dilyn sylwadau Mr Gething

Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi ymddiheuro i gyd-Aelod Cynulliad Llafur am regi wrth gyfeirio ati yn ystod cyfarfod o'r Senedd oedd yn cael ei gynnal dros y we.

Fe wnaeth y sylwadau am AC Canol Caerdydd, Jenny Rathbone ar ôl iddo adael ei feicroffon ymlaen mewn camgymeriad.

Roedd hi wedi bod yn gofyn cwestiynau am ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig coronafeirws.

Yn dilyn y digwyddiad galwodd arweinwyr y gwrthbleidiau ar y Prif Weinidog Mark Drakeford i ddiswyddo Mr Gething.

Galw am ei ddiswyddo

Roedd Mr Gething wedi cwblhau ei ymateb i fusnes y Senedd pan glywodd aelodau eraill ei sylw oddi ar gamera yn siarad am Ms Rathbone.

Dywedodd wrth rywun cyfagos: "Beth **** sydd yn bod arni hi?"

Roedd modd gweld sawl AC oedd yn rhan o'r cyfarfod Zoom yn ymateb mewn syndod yn dilyn y digwyddiad, ac roedd Jenny Rathbone ei hun hefyd i'w gweld ar gamera, cyn iddi gerdded i ffwrdd o'i sgrin.

Dywedodd y Llywydd Elin Jones wrth Mr Gething am droi ei feicroffon i ffwrdd.

Yn fuan wedyn cafwyd toriad byr yn y drafodaeth.

Ffynhonnell y llun, National Assembly for Wales
Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Gething, ychydig cyn iddo regi wrth gyfeirio at Ms Rathbone

Roedd Ms Rathbone wedi bod yn trafod pryderon y gwyddonydd Syr Martin Evans yn ystod y drafodaeth, gan ddweud "na ddylid saethu'r negesydd".

Roedd hi hefyd wedi arddangos mwgwd diogelwch oedd wedi ei greu gan geiswyr lloches, cyn galw ar fwy o gwmnïau Cymreig i gynhyrchu offer diogelwch PPE.

Roedd hi hefyd wedi trafod enghreifftiau o weithwyr gofal yn cael trafferth mynychu canolfannau profi Covid-19 gan nad oedd cerbydau ganddyn nhw.

Ymateb i gwestiynau

Mewn ymateb roedd Mr Gething wedi dweud fod cwmnïau Cymreig wedi ateb yr alwad i gynhyrchu offer PPE, ac roedd modd ail-ddefnyddio rhai darnau o offer PPE ar sail y dystiolaeth oedd yn dangos beth oedd yn ddiogel.

Dywedodd hefyd nad dim ond canolfannau gyrru-i-mewn oedd y canolfannau profi Covid-19.

Ond wedi'r ymateb hwnnw, fe wnaeth Mr Gething y sylwadau pellach dan ei anadl gafodd eu clywed gan weddill y cyfarfod - gan ennyn beirniadaeth gref oddi wrth y gwrthbleidiau.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price fod Mr Gething "nid yn unig wedi methu sawl gwaith dros y misoedd diwethaf, mae wedi methu â chydnabod ei fod wedi methu ac mae'n ymosodol hyd yn oed tuag at y rhai hynny o fewn ei blaid sydd yn ei gwestiynu".

"Nid oes ganddo'r agwedd, sgiliau na'r anian i arwain ymateb y llywodraeth i'r pandemig coronafeirws," meddai.

"Er mwyn cadw hyder y cyhoedd mae angen i'r prif weinidog ei ryddhau o'i gyfrifoldebau yn syth."

'Cywilydd'

Ychwanegodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad, Paul Davies: "Mae gan wleidyddion hawl i ofyn cwestiynau difrifol a heriol i weinidogion ac mae'n hanfodol fod modd iddyn nhw fedru gwneud hyn yn ystod pandemig.

"Mae'n gwbl annerbyniol i weinidog i ddangos y fath ddirmyg ag amhroffesiynoldeb ar adeg fel hyn ac fe ddylai gael ei ddiswyddo."

Yn dilyn hynny fe wnaeth Vaughan Gething gyhoeddi neges ar Twitter, gan ddweud: "Yn amlwg mae gen i gywilydd am fy sylwadau ar ddiwedd y cwestiynau heddiw.

"Rydw i wedi anfon neges yn ymddiheuro ac wedi cynnig siarad â Jenny Rathbone os yw hi'n dymuno. Fe allen ni fod wedi gwneud heb hyn ar adeg heriol mor ddigynsail."