Ofnau y bydd cartrefi gofal yn cau yn sgil coronafeirws
- Cyhoeddwyd

Mae cartrefi gofal yn wynebu costau pellach oherwydd haint coronafeirws
Gallai Cymru golli hanner eu cartrefi gofal o fewn blwyddyn oherwydd haint coronafeirws oni bai bod gweithredu buan yn digwydd - dyna neges darparwyr cartrefi gofal.
Mae Fforwm Gofal Cymru wedi dweud wrth raglen Politics Wales, BBC Cymru bod costau uwch a refeniw is yn golygu bod nifer o gartrefi yn gorfod cael benthyciadau dros dro a bod nifer yn ystyried cau wrth i effeithiau'r haint barhau.
Mae ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn nodi bod 643 cartref gofal , dolen allanolyng Nghymru i bobl dros 65 oed.
Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cymhorthdal o £40m i ddarparu gofal cymdeithasol i oedolion - arian sy'n cael ei ddosbarthu gan yr awdurdodau lleol ond mae perchnogion cartrefi gofal yn dweud bod angen i'r arian yna gael ei ddefnyddio i atal cartrefi rhag cau yn y dyfodol agos.
Maent hefyd yn galw am strategaeth tymor hir os yw effeithiau'r feirws yn mynd i barhau am rai misoedd.
Dywed gweinidogion y bydd mwy o wybodaeth ar gael yn ystod yr wythnos a dywed cynghorau eu bod yn awyddus i sicrhau bod yna gefnogaeth ar gael i bob darparwr gofal cymdeithasol.
'Rhai yn cau wythnos nesaf'
Yn ôl Mario Kreft o Fforwm Gofal Cymru - sy'n cynrychioli 450 o gartefi gofal, cartrefi nyrsio a darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol annibynnol ar draws Cymru - mae'r feirws wedi peryglu sector a oedd eisoes yn fregus.
"Mae gennym ni aelodau sy'n gorfod cynyddu eu costau staffio ac mae prynu cyfarpar PPE yn gost bellach i nifer.
"Yn ogystal mae niferoedd y preswylwyr yn gostwng wrth i rai farw ac wrth i rai gartrefi ddewis peidio cymryd preswylwyr newydd yn sgil haint coronafeirws."

Mae nifer o gartrefi gofal wedi gorfod prynu offer gwarchod personol (PPE)
Mae cartrefi gofal yn cael eu talu fesul diwrnod gyda'r arian yn dod naill ai o'r wladwriaeth, y preswylwyr eu hunain neu rhywun sy'n talu ar eu rhan. Mae'r incwm felly yn seiliedig ar y nifer o bobl sydd yn y cartref.
Yn ôl Mr Kreft mae'n ofynnol i gartref gofal fod yn 90% llawn i dalu ffordd a dyw bod yn llai na 85% llawn ddim yn gynaliadwy - ond ar hyn o bryd dim ond 25 neu 30% llawn yw rhai cartrefi.
"Mae rhai cartrefi wedi cysylltu â Fforwm Gofal Cymru yr wythnos hon i ddweud eu bod yn cau wythnos nesaf," meddai.
"Os yw hyn yn parhau am 12 neu 18 mis pellach sut y gall pobl wynebu'r dyfodol gyda hyder?
"Rhaid cael cynllun strategol i ddiogelu'r dyfodol - ni erioed wedi gorfod delio â rhywbeth fel hyn yn hanes y sector ofal yng Nghymru a'r DU."

CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees

Sefydlu apêl codi arian ym Modedern
Mae Glyn Williams, sy'n rheoli cartref gofal Gwyddfor ym Modedern ar Ynys Môn wedi sefydlu apêl GoFundMe er mwyn codi £33,000 tuag at y costau ychwanegol sydd wedi dod yn sgil y feirws ac mae e'n poeni y bydd yn rhaid iddo gau o fewn mis.

Dywed Glyn Williams ei fod yn poeni y bydd rhaid iddo gau cartref Gwyddfor ym Modedern
Mae un cartref gofal i bobl sydd â dementia yn ne Cymru ar golled o £10,000 yr wythnos o ganlyniad i'r haint wrth i nifer y preswylwyr ostwng ac wrth i arian gael ei wario ar adnoddau ychwanegol yn sgil yr haint.
Mae'r cartref yn rhan o Grŵp Caron a dywed Sanjiv Joshir, y rheolwr gyfarwyddwr, ei fod yn defnyddio cronfeydd wrth gefn cartrefi eraill er mwyn cynnal y cartref - mae e hefyd yn trafod cael benthyciad gan y banc ond dyw e ddim yn credu bod hynny yn ateb cynaliadwy.
Dywed Fforwm Gofal Cymru bod yna addewid o gymorth ond hyd yma does yna ddim cymorth wedi'i gynnig.
"'Dyn ni chwaith," medd y rheolwr gyfarwyddwr, "ddim yn gwybod o le mae'r cymorth yna fod i ddod ac am ba hir y bydd e'n para.
"Felly yn ystod y misoedd nesaf ry'n yn ofni y gallwn golli hanner ein cartrefi gofal - dyna raddfa pethau ar hyn o bryd."
Mwy o fanylion i ddod
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n yn darparu £40m i ddechrau i helpu'r sector gofal cymdeithasol i ddelio gyda chostau ychwanegol Covid-19.
"Mae hwn yn cael ei ddarparu drwy'r awdurdodau lleol a bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi yr wythnos hon."

Mae nifer o berchnogion cartrefi gofal yn gorfod ystyried cael benthyciadau ariannol
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Mae llywodraeth leol yn gwerthfawrogi yr arian ychwanegol i helpu y sector gofal cymdeithasol fel bod modd cefnogi ac amddiffyn ein preswylwyr mwyaf bregus.
"Ond gallwn ond sicrhau hyn drwy weithio mewn partneriaeth ag eraill sy'n cynnwys darparwyr preifat a Fforwm Gofal Cymru a rhaid sicrhau bod y rhai sy'n darparu gwasanaethau pwysig yn cael eu cefnogi a'u hamddiffyn yn yr un ffordd.
"Ymhob trafodaeth mae awdurdodau lleol wedi dadlau yn gyson am yr angen i gael cynaliadwyedd ariannol i'n gwasanaethau hanfodol - ry'n hefyd wedi dymuno i bob darparwr gofal cymdeithasol gael cymaint o gefnogaeth â phosib.
"Ry'n wedi ymrwymo i amddiffyn pobl a theuluoedd rhag coronafeirws ac wedi galw am gyflenwad cyson o gyfarpar PPE i'r sector ac i weithwyr llywodraeth leol allweddol."
Mae Politics Wales ar BBC 1 Cymru am 10:30 fore Sul, 26 Ebrill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2020