'Gwrthod offer gwarchod personol' i gartrefi gofal o Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog cartrefi gofal wedi dweud wrth BBC Cymru bod dau gwmni offer gwarchod personol (PPE) wedi gwrthod gwerthu iddi - gan fod y deunydd wedi ei gadw ar gyfer cwsmeriaid yn Lloegr.
Mae Ceri Roberts yn rhedeg dau gartref gofal ym Mhorthmadog a Chricieth, gyda 78 o breswylwyr rhyngddyn nhw.
Yn ôl perchennog Cartrefi Gofal Cariad, fe wrthododd y cwmnïau, o Loegr, werthu menig a ffedogau iddi roi i'w staff - gan ddweud mai cyfarwyddyd Iechyd Cyhoeddus Lloegr oedd gwerthu'r nwyddau i gwsmeriaid o Loegr yn unig.
Mae'n dweud mai dim ond gwerth deuddydd o offer PPE sydd ar ôl ganddi.
Awgrymu paratoi bagiau sbwriel du os bydd prinder
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y gall cartrefi gofal gael gafael ar offer PPE trwy eu cynghorau os ydyn nhw'n cael trafferthion, ond mae'r staff wedi awgrymu paratoi bagiau sbwriel du rhag ofn na chawn nhw afael ar gyfarpar cymwys mewn pryd.
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionydd, Liz Saville Roberts wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddweud "ar frys" beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod y sector gofal yn gallu cael "mynediad ar unwaith i PPE".
Dywedodd un o'r cwmnïau, sy'n gyflenwyr cyson i Ceri Roberts, eu bod nhw'n gwerthu'r stoc "ar ran Iechyd Cyhoeddus Lloegr."
Fe ddaeth Ms Roberts yn ymwybodol o'r broblem am y tro cyntaf fore Mercher.
"Wnes i drio prynu pethau ond dim ond cwsmeriaid yn Lloegr oedd yn cael eu prynu nhw," meddai.
Yn ôl Ceri Roberts mae'r offer yma'n allweddol a'i angen yn ddyddiol o fewn ei chartrefi gofal, sydd â 78 preswylydd a dau aelod o staff yn edrych ar ôl bob un.
"Mae angen y ffedogau yma bob dydd - nid yn unig adeg pandemig. Ma' rhain yn basic PPE - menig, ffedogau - 'da ni'n defnyddio nhw bob dydd."
Ond wrth eu harchebu nhw fore Mercher gan gwmni Gombels HealthCare Ltd, fe dderbyniodd neges yn dweud: "We notice that your order includes products which we are selling on behalf of Public Health England, and we can only deliver these products for people who operate in England.
"Different schemes exist for Scotland and Wales."
'Ddim yn deg ar bobl Cymru'
Dywedodd cwmni arall wrthi fod yn rhaid i'r offer fynd i gwsmeriaid yn Lloegr, ond petai rhywbeth dros ben y byddai hawl ganddi ei brynu.
Mae bellach wedi llwyddo i gael gafael ar ddau becyn o 100 o ffedogau plastig o siop leol - "ond wneith rheiny ddim para'n hir, dau ddiwrnod o bosib".
Mae aelodau o staff bellach wedi awgrymu paratoi bagiau sbwriel du yn eu lle os fydd prinder.
"Dydy o ddim yn deg ar bobl Cymru," ychwanegodd Ms Roberts.
Does dim achosion o Covid-19 yn ei chartrefi ar hyn o bryd, ond mae hi'n poeni am ddiffyg masgiau ar gyfer staff petai hynny'n codi ac yn dweud ei bod wedi gorfod dal y stoc masgiau sydd ganddyn nhw yn ôl am y tro.
"Dwi'n ofni rhoi nhw allan yn rhy fuan rhag rhedeg allan ac na fydd stocks ar gael i roi i staff os gawn ni achosion yma."
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Yn ôl Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru Dros Ddwyfor Meirionydd, mae'r broblem yn un sy'n gwaethygu o fewn y sector gofal iechyd yng Nghymru.
"Rydyn ni wedi gweld hyn yn yr Alban yn barod, gydag 14 preswylydd yn marw mewn cartref gofal yn Glasgow oherwydd Covid-19 a diffyg offer gofal personol," meddai.
"Rwy'n ofni y bydd yr un peth yn digwydd yng Nghymru os nad ydyn ni'n mynd i'r afael â hyn nawr."
'Cynlluniau wrth gefn'
Fe ofynnodd BBC Cymru i Gompels HealthCare am ymateb, ond cyfeirio'r mater at Iechyd Cyhoeddus Lloegr wnaeth y cwmni, a gyfeiriodd y cwestiwn ymlaen at Adran Iechyd Lloegr yn San Steffan.
Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb yr Adran Iechyd yn San Steffan.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw "wedi darparu mynediad at offer PPE i awdurdodau lleol trwy rwydwaith o storfeydd offer cyd-gymunedol llywodraeth leol ar draws Cymru".
"Mae Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cael cais i reoli a chydlynu'r stoc i ddarparwyr gofal yn eu hardaloedd", meddai.
"Os yw cartrefi gofal yn cael problemau wrth gael mynediad i'r stoc trwy eu darparwyr arferol, rydyn ni wedi creu cynlluniau wrth gefn er mwyn iddyn nhw gael mynediad i PPE trwy eu hawdurdodau lleol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2020