Diffyg offer diogelwch yn bryder i'r sector gofal

  • Cyhoeddwyd
Glyn Williams, Cartref Gofal GwyddforFfynhonnell y llun, Ceidiog PR
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Glyn Williams nad yw am beryglu staff a phreswylwyr y cartref y mae'n berchen arno

Mae penaethiaid gofal cymdeithasol yn rhybuddio y gallai'r system gofal iechyd ddod i stop oni bai fod gofalwyr yn cael offer diogelwch personol angenrheidiol.

Dywed rheolwyr eu bod yn ceisio cael unrhyw fath o fasgiau a phenwisgoedd gan fod staff yn ofni gwneud eu gwaith bob dydd.

Pe byddai gofalwyr ddim yn gallu gwneud eu gwaith, byddai rhyddhau rhai cleifion o'r ysbytai yn amhosib.

Mae un perchennog cartref yn y gogledd wedi dweud y byddai'n well ganddo gau na rhoi ei staff a phreswylwyr mewn perygl.

Mae Glyn a Mary Williams, sy'n rhedeg Cartref Gofal Gwyddfor ym Modedern, Ynys Môn, yn erfyn ar yr awdurdodau am help i ddelio â'r argyfwng Covid-19.

Ac yn sgil eu pryderon, maen nhw wedi prynu a gosod dwy babell filwrol fel bod staff yn gallu diheintio'n drylwyr cyn mynd i mewn i'r cartref.

Diogelu preswylwyr

"Ro'n i gyda'r Awyrlu am 25 mlynedd," meddai Mr Williams, a gafodd hyfforddiant delio â bygythiadau niwclear, biolegol a chemegol.

"Roedd yr adnoddau wastad gen i, i gadw pobl yn ddiogel.

"Dydw i ddim yn siŵr fedra'i neud hynny rŵan. Dyna'r gwir plaen.

"Os na alla'i ddiogelu'r preswylwyr sydd yma, a bod yn onest 'dwi jest am gau."

Disgrifiad o’r llun,

Glyn a Mary Williams o flaen un o'r pebyll milwrol yng Nghartref Gofal Gwyddfor, Bodedern

Dywed Wendy Harvey, dirprwy reolwr gwmni gofal All-Care sydd â phencadlys yn Y Barri fod ei staff yn teimlo ofn ond yn troi pob carreg i wneud eu gwaith.

"Rydym yn cael ein hystyried yn weithwyr unskilled," meddai.

"Sut 'dach chi'n meddwl 'da ni'n bod yn teimlo pan 'dan ni'n mynd allan ac yn peryglu ein bywydau?"

"Mae gyda ni gyd deuluoedd i ofalu amdanyn nhw hefyd. Mae gen i fam sydd eisoes yn byw gyda salwch, ond rwy'n dal i fynd i weithio.

"Rydyn ni'n fedrus iawn, rydyn ni'n gwneud ein gwaith yn dda, ac mae'n ein digalonni weithiau."

"Mae'r staff ond wedi bod yn gwisgo'r masgiau am ychydig ddiwrnodau ac mae 'na farciau ar eu pennau a dolur trwy wisgo'r visors.

"Ry'ch chi'n cerdded i dŷ rhywun ac yn codi ofn arnyn nhw.

"Rydyn ni'n trio rhybuddio nhw ein bod yn gwisgo PPE, fel arfer yn cerdded i mewn gyda gwên fawr ar ein hwynebau ond nawr ni'n cerdded i mewn yn edrych fel Darth Vader!"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru wedi apelio ar fusnesau i helpu cynhyrchu offer diogelwch personol

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, yr AC Rhun ap Iorwerth, fod angen mwy o adnoddau ar frys ar gyfer y sector.

"Mae'n glir fod y GIG yn cael pa bynnag anodau sydd angen ar hyn o bryd.... ond mae pwysau'n cynyddu yn y sector gofal hefyd," meddai.

"Beth sydd angen gan y llywodraeth yw pecyn clir o adnoddau ychwanegol fel gall y sector gofal hefyd deimlo ei fod wedi paratoi."

Ddydd Llun fe ddywedodd y prif weinidog, Mark Drakeford fod 5m o eitemau diogelwch wedi eu dosbarthu yng Nghymru, gan gydnabod bod yna drafferthion yn sgil graddfa'r argyfwng coronafeirws.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod offer "wedi ei ddosbarthu i'r awdurdodau lleol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen sy'n delio ag achosion posib o Covid-19".

Maen nhw hefyd wedi rhoi canllawiau i'r staff ar wneud eu gwaith bob dydd yn ddiogel, ac wedi apelio ar fusnesau Cymru i help cynhyrchu offer diogelwch ar gyfer staff iechyd a gofal rheng flaen."