Cwrs dysgu Cymraeg dros y we yn profi'n boblogaidd

  • Cyhoeddwyd
DysguFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r cyfnod presennol o gyfyngiadau cymdeithasol ac hunan ynysu yn golygu fod llawer o bobl yn chwilio am rhywbeth newydd i'w wneud tra bod digonedd o amser ganddyn nhw.

Mae eraill wedi dewis dysgu rhywbeth newydd yn ystod y cyfnod yma.

Canlyniad hyn yw twf aruthrol yn y galw am gyrsiau'r Brifysgol Agored medd y sefydliad - gyda phedair gwaith yn fwy nag arfer yn cofrestru i ddilyn cyrsiau ar-lein gyda'r brifysgol yn ystod y pum wythnos diwethaf.

A'r cwrs mwyaf poblogaidd ohonynt i gyd ydi Cymraeg i ddechreuwyr medd y brifysgol.

Cynnydd defnyddwyr

Ym mis Chwefror roedd 14,750 o ymweliadau i wefan OpenLearn y brifysgol - gwefan sy'n darparu cyrsiau am ddim dros y we. Yna fe welwyd cynnydd o 59,500 o ymweliadau yn y cyfnod o bedair wythnos hyd at 19 Ebrill.

Dywedodd cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, Louise Casella: "Mae aros gartref dros y cyfnod estynedig hwn yn gallu bod yn sialens i lawer ohono ni, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i ni ddysgu rhywbeth newydd.

"Gall dysgu ar-lein ein help i wella ein cyfleoedd cyflogaeth, ennill sgiliau newydd a hefyd rhoi hwb i'n iechyd."

Dysgu Cymraeg

Ymysg y deg cwrs mwyaf poblogaidd ar wefan OpenLearn y brifysgol, Cymraeg i ddechreuwyr oedd y mwyaf poblogaidd, gyda chyrsiau am ddatblygiad plant yn y blynyddoedd cynnar, cyflwyniad i seicoleg plant, deall awtistiaeth a dyslecsia a seicoleg fforensig hefyd yn gyrsiau poblogaidd gyda defnyddwyr.

Mae dros 11,000 o fyfyrwyr ledled Cymru yn astudio gyda'r Brifysgol Agored ar hyn o bryd.

Mae mwy na saith o bob deg o fyfyrwyr mewn cyflogaeth tra'u bod yn astudio, gyda dros bedwar o bob deg myfyriwr israddedig yn cofrestru heb gymwysterau lefel mynediad addysg uwch.