Galw am ailystyried y gadwyn gyflenwi bwyd i'r dyfodol

  • Cyhoeddwyd
FfermwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gweithwyr yn casglu cnydau yn Sbaen

Mae academydd yn galw am ailystyried y ffordd yr ydym yn prynu a gwerthu bwyd er mwyn cryfhau'r cadwyni cyflenwi i'r dyfodol.

Mae Dr Ludivine Petetin o Brifysgol Caerdydd wedi canmol ffermwyr a chynhyrchwyr o Gymru am eu hymdrechion i ddarparu bwyd i'r cyhoedd dros yr wythnosau diwethaf.

Mae hi'n credu fod yr argyfwng presennol yn gyfle i ailgynllunio'r ffordd y mae bwyd yn cael ei dyfu a'i ddosbarthu, gan ddweud fod angen gweithredu rhag ofn fod newidiadau mewn marchnadoedd byd-eang yn effeithio ar gyflenwadau o dramor.

Yr wythnos ddiwethaf fe ddywedodd Undeb Amaethwyr Cymru fod angen brys i sicrhau diogelwch y gadwyn fwyd ddomestig.

Mewn llythyr at Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, galwodd llywydd yr undeb, Glyn Roberts ar y broses brynu bwydydd i gyd-redeg gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

'Gwendid' y gadwyn fwyd

Dywedodd Dr Petetin fod yr argyfwng presennol yn dangos pa mor agos yw cysylltiadau unigol y gadwyn cynhyrchu bwyd ac mae wedi tanlinellu gwendid y gadwyn honno hefyd.

Ffynhonnell y llun, Andrew Aitchison

Un o brif nodweddion y drefn bresennol, meddai, yw'r angen i fwyd gael ei gynhyrchu yn agos at yr amser cywir er mwyn cael cynnyrch ffres a lleihau gwastraff.

"Y broblem yw, cyn gynted ag y byddwch yn cael toriad yn y gadwyn gyflenwi mae hyn yn cael effaith ar argaeledd bwyd ar y silffoedd."

Atal allforion

Dywedodd fod ei hymchwil yn dangos fod rhai gwledydd fel Cambodia a Fietnam, sy'n cynhyrchu reis, wedi atal allforio yn eu dulliau arferol.

"Mae'r gwledydd hyn wedi gwneud hyn i sicrhau sefydlogrwydd yn eu gwledydd fel bod pobl yn ddiogel o ran bwyd, ond yn y tymor byr i ganolig fe allai hyn arwain at brinder bwyd i ni ac argyfwng bwyd byd-eang," meddai Dr Petetin.

"Mater arall y gall hyn ei achosi ydi cynnydd mewn prisiau. A'r mwyaf bregus fydd mewn mwyaf o berygl."

Dywedodd Dr Petetin y byddai'n hoffi gweld ymdrechion ffermydd bychain a busnesau yng Nghymru yn derbyn cefnogaeth fel y gall cadwyni cynhyrchu bwydydd lleol ffynnu.

"Mae prynu'n lleol yn ffordd wych ymlaen ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn parhau unwaith y byddwn allan o'r cyfyngiadau cymdeithasol," meddai.

"Mae prynu'n lleol yn holl bwysig, mae'n gostwng milltiroedd bwyd ac effaith ar yr amgylchedd, mae hefyd yn golygu llai o brosesu felly mae bwyd yn fwy maethlon, a hefyd yn aml iawn llai o becynnu felly mae'n well i'r amgylchedd.

"Beth mae'r argyfwng yn ei ddangos ydi pa mor wydn yw siopau bach, ffermydd bach ac rwy'n credu fod hyn yn rhywbeth y dylai'r gymuned amaethyddol fod yn falch ohono.

"Maen nhw'n gwneud gwaith gwych ac rwy'n credu fod yr argyfwng yn gyfle i ganolbwyntio ar gadwyni cyflenwi lleol a pha mor bwysig yw'r gymuned amaethyddol yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Silffoedd gwag mewn archfarchnad ar ddechrau'r pandemig

Mae hi am i'r rhai sy'n llunio polisïau i adlewyrchu'r newid yma yn y dyfodol.

Dywedodd y byddai cyfuno cynhyrchu bwyd yn lleol gyda'r cadwyni bwyd pellach i ffwrdd sy'n cael eu darparu gan yr archfarchnadoedd yn helpu i gynnal amrywiaeth yn y math o fwyd sydd ar gael.

Mae modd clywed mwy am y stori hon ar bodlediad rhaglen Country Focus gan BBC Radio Wales.