Mwy eisiau bocsys ffrwythau a llysiau yn ystod y pandemig

  • Cyhoeddwyd
Siop fferm HootonFfynhonnell y llun, Hooton's

Mae ffermydd ffrwythau a llysiau yn ffynnu yn ystod yr argyfwng coronafeirws wrth i nifer o gwsmeriaid benderfynu peidio siopa mewn archfarchnadoedd.

Mae Tyfu Cymru yn cefnogi tyfwyr masnachol yng Nghymru.

Yn ôl y prosiect mae camau dyfeisgar gan ffermwyr bach a chanolig wedi cwrdd â'r galw.

Dangosodd arolwg diweddar fod y mwyafrif o'r rhai sy'n tyfu bwyd wedi gweld "cynnydd cyflym a dramatig yn y galw am eu cynnyrch".

Mae gwasanaeth wedi ei lansio i ddod o hyd i weithwyr sydd ar hyn o bryd wedi gorfod cymryd saib o'u gwaith er mwyn cwrdd â'r galw.

Addasu'r busnes

Yn ôl yr arolwg gafodd ei lunio gan Peas Please, Tyfu Cymru a Phrifysgol Caerdydd roedd cynhyrchwyr ar draws Cymru wedi ymateb yn gyflym er mwyn dod o hyd i ffyrdd eraill o werthu eu bwyd.

Dywedodd yr arolwg fod nifer wedi newid o fod yn masnachu i'r diwydiant arlwyo i ddosbarthu bwyd i bobl ar stepen eu drws.

Roedd 73% wedi newid cynlluniau neu'n bwriadu gwneud wrth ymateb i'r pandemig.

Ffynhonnell y llun, Hooton's
Disgrifiad o’r llun,

Mae James Hooton yn bwriadu gadael i bobl ddewis pa lysiau maen nhw eisiau yn eu bocsys

Dywedodd James Hooton o Fferm Hooton's yn Sir Fôn: "Mae gyda ni dair siop a chaffi.

"Mae'r caffi wedi gorfod cau ac roedd yn rhaid i ni hepgor y syniad o ddosbarthu bwyd i bobl a gwneud cludfwyd. Cafodd y staff eu rhoi ar y cynllun saib o'r gwaith.

"Bydden ni wedi disgwyl i gyfnod y Pasg fod yn brysur gydag ymwelwyr ond yn amlwg doedd neb yn cael dod yma.

"Yr hyn ni wedi gwneud - ac fe wnaethon ni ddechrau hyn yn reit fuan - ydy cymryd archebion trwy e-bost a dros y ffôn.

"Mae pobl yn talu dros y ffôn, yn dreifio aton ni ac rydyn ni yn rhoi'r bwyd yn y car. Mae hynny wedi bod yn reit llwyddiannus."

'Dechrau gwaith am 03:00!'

Mae Alan Huson o Fferm Huson ym Mhenarlâg yn Sir y Fflint wedi gweld mwy o alw am eu cynnyrch ers gwneud newidiadau i'r busnes.

"'Dan ni fel arfer yn cyflenwi ar gyfer tafarndai, bwytai ac ysgolion, felly o'n i yn meddwl y byddai popeth yn drychineb achos fe wnaeth popeth gau bron a bod dros nos," meddai.

"Ond mae ein cynllun bocs llysiau wedi cydio gyda llawer o gwsmeriaid newydd, ac mae galw mawr wedi bod am y math yma o wasanaeth.

"Bydden ni yn dweud bod yna 500% o gynnydd wedi bod gan gynnwys popeth. Dydy hi ddim yn anghyffredin i fi ddechrau gwaith am 03:00 a gorffen am 21:00!"

Ffynhonnell y llun, Ffarm Huson
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Fferm Huson mae mwy o alw wedi bod am eu cynnyrch

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd nifer o gwsmeriaid yn penderfynu archebu eto gan ei fferm ar ôl i'r argyfwng fod drosodd.

"Mae'n ofnadwy fod pethau wedi gorfod bod fel hyn, ond efallai y bydd pobl yn sylweddoli beth maen nhw yn gallu cael, yr amrywiaeth a'r ansawdd," meddai.

Mae Lantra, mudiad hyfforddi ar gyfer diwydiannau ar dir sych wedi lansio gwasanaeth i briodi sgiliau gweithwyr yn sgil pryderon y gallai'r diwydiant amaeth a garddwriaeth wynebu prinder gweithwyr yng Nghymru.

Dywedodd Alice Coleman o Tyfu Cymru eu bod wedi gweld twf yn y nifer sydd yn dewis cael bocsys llysiau a'r galw am ffrwythau a llysiau lleol.

"Mae'r galw yma yn rhannol am fod rhai yn hunan ynysu neu mewn ymgais i osgoi torfeydd a geir mewn archfarchnadoedd mawr," meddai.