Sŵ Môr Môn yn codi arian ar adeg 'argyfyngus'

  • Cyhoeddwyd
Sw Mor Mon

Mae Sŵ Môr Môn wedi lansio cronfa apêl argyfwng i geisio codi arian er mwyn sicrhau y bydd modd i'r cwmni barhau yn ystod y pandemig coronafeirws.

Mae'r atynfa, ger Brynsiencyn ar Ynys Môn, ar gau felly does dim incwm ar hyn o bryd.

Yn ôl y perchennog, Frankie Hobro, mae'r sefyllfa yn argyfyngus.

"Mae hi'n greisis arnom ni oherwydd does gennym ni ddim llif arian ar y funud ac mae'r argyfwng llif arian yn bodoli oherwydd nad oes 'na arian yn dod i mewn ar adeg pan fydden ni fel arfer yn gwneud 40% o'n helw blynyddol," meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod wedi ysgrifennu at y pob sŵ yn crybwyll y cynlluniau sy'n bodoli y gallan nhw fod yn gymwys amdanynt i'w hariannu.

Disgrifiad o’r llun,

Frankie Hobro, Perchennog Sŵ Môr Môn

Mae angen rhyw £15,000 i £20,000 y mis ar Sŵ Môr Môn i dalu costau rhedeg sylfaenol.

Mae'r costau hynny'n cynnwys rhedeg pympiau dŵr a rheoli tymheredd tanciau sy'n gartref i greaduriaid prin fel ceffylau môr yn ogystal â chostau bwydo'r anifeiliaid.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod busnesau yn "disgyn drwy'r tyllau"

Dywedodd aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, bod angen pecyn cymorth arbennig i'r sŵ gan y llywodraeth.

"Mae 'na lawer o becynnau cymorth da wedi dod i fusnesau gan lywodraethau Prydain a Chymru, ond 'dan ni wedi darganfod dros yr wythnosau diwethaf 'ma bod 'na dyllau a bod 'na bobl sy'n disgyn drwy'r tyllau rheiny," meddai.

"Efo'r Sŵ Môr mae gennym ni fusnes sydd efo costau sylweddol yn gysylltiedig efo cadw dŵr yn oer a glan a chadw creaduriaid yn fyw.

"Felly be dwi'n gredu ydy bod angen pecyn cymorth sydd yn cymryd i ystyriaeth ofynion arbennig busnes o'r fath fel bod nhw'n gallu dod trwy'r adeg anodd yma."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ysgrifennu at y sŵau yng Nghymru gyda manylion y cynlluniau sy'n bodoli eisoes y gallent fod yn gymwys i'w hariannu, yn ogystal â chyhoeddi holiadur i nodi pryderon allweddol ynglŷn â lles anifeiliaid ac a oes unrhyw fylchau yn y cyllid yn bodoli."