Covid-19: Canmol cyfraniad 'ffantastig' grwpiau lleol yn ystod argyfwng

  • Cyhoeddwyd
Y Groes Goch
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Groeso Goch wedi bod yn estyn cymorth mewn sawl ffordd yn ystod argyfwng coronafeirws

Wrth i elusen y Groes Goch fynd trwy un o'i chyfnodau prysuraf erioed, mae rhai sy'n gwirfoddoli gyda hi'n dweud bod gwaith grwpiau cymunedol lleol wedi bod yn gymorth mawr iddynt.

Ers dechrau'r argyfwng coronofeirws mae tasgau'r Groes Goch wedi amrywio o ddanfon bwyd a gwneud negeseuon siopa i bobl, i gasglu presgripsiynau, danfon cadeiriau olwyn a helpu pobl sydd newydd ddod adref o'r ysbyty.

Mae hynny'n cynnwys i bobl oedrannus, pobl fregus sy'n hunan-ynysu a phobl sydd â chyflwr iechyd meddwl neu sydd â thrafferthion ariannol.

Ond yn ôl un o'r gwirfoddolwyr mae cyfraniad grwpiau mwy lleol sydd wedi dod at ei gilydd mewn ymateb i'r argyfwng wedi bod yn bwysig iawn.

"Dyna'r peth da efo social media," medd Scott Jones, wrth ddadlwytho car yn llawn rhoddion bwyd gan archfarchnad leol yn Abergele.

"Mae 'na gymunedau weithiau mewn pentref, mewn tref, hyd yn oed stryd wrth stryd, mae'r grwpiau yma wedi cychwyn jyst i helpu pobl yn eu cymunedau nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Scott Jones o'r Groes Goch bod y cyfryngau cymdeithasol wedi bod o fudd mawr yn ystod yr argyfwng coronafeirws

"Mae hwnna wedi bod yn rili defnyddiol i ni oherwydd mae nhw'n gadael i ni wybod pwy mae nhw'n gwybod sydd angen help yn eu cymuned."

"Maen nhw'n gallu helpu pobl eu hunain. Mae nhw'n cyfathrebu efo ni. Os 'den ni angen mynd i nôl meddyginiaeth neu siopa mae nhw'n cysylltu efo. 'Den ni'n gallu helpu nhw efo gwaith nhw, rhoi syniadau iddyn nhw."

"'Den ni jyst angen cydweithio. 'Den ni jyst angen gwneud ein rhan."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae pobl mor ddiolchgar bod y gymuned yn dod at ei gilydd," medd Sally Lloyd Davies

Draw yn Nghorwen, roedd rhaid i dros 70% o'r 40 gwirfoddolwyr gyda phrosiect cymunedol Canolfan Ni hunan-ynysu.

Ond o fewn ychydig wythnosau maen nhw wedi llwyddo i hel 40 o wirfoddolwyr newydd.

Mae'r rhain yn mynd â phecynnau pryd ar glud i'r henoed, nôl presgripsiynau a sgwrsio gyda phobl sy'n hunan-ynysu ar y ffôn.

"Mae'n absolutely ffantastig bod nhw wedi stepio i fyny," medd Sally Lloyd Davies o Bartneriaeth De Sir Ddinbych.

"'Den ni ddim yn defnyddio nhw i gyd ar hyn o bryd. Mae rhai'n mynd drwy'r checks rŵan."

"Mae pobl mor ddiolchgar bod y gymuned yn dod at ei gilydd. Mae'n lleihau unigrwydd mewn un ffordd achos mae 'na rywun yna iddyn nhw siarad efo nhw. Mae 'n wasanaeth i delifro siopa iddyn, presgripsiwn."

"Mae hynny'n golygu lot i bobl."