Trywanu: Dyn wedi marw, menyw wedi'i harestio

  • Cyhoeddwyd
penygraigFfynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd llygad dystion eu bod wedi gweld pobl yn rhedeg o'r Co-op

Mae dyn oedrannus wedi marw yn dilyn adroddiadau o drywanu mewn siop yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i archfarchnad Co-op ym Mhen-y-graig am tua 13:50 ddydd Mawrth.

Dywedodd yr heddlu bod menyw 29 oed o ardal Porth wedi cael ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae'n cael ei chadw yn y ddalfa.

Mae dyn arall mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty ac mae dau berson arall wedi cael anafiadau sydd ddim yn peryglu bywyd.

Dywed un llygad dyst fod ei gŵr wedi cael gwybod fod menyw y tu fewn i'r siop yn "trywanu pobl".

"Aeth fy ngŵr i mewn i'r Co-op ond cafodd ei rwystro gan bobl a ddywedodd wrtho fod menyw y tu mewn gyda chyllell yn trywanu pobl," meddai.

Ffynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi cau Ffordd Tylacelyn, Pen-y-graig

Dywed Ravi Raj, rheolwr y swyddfa bost leol, ei fod wedi gweld dyn yn cael ei drin gan barafeddygon y tu allan i'r Co-op.

Dywedodd ei fod wedi gweld "gwaed ym mhob man".

"Gwelais un dyn yn gwaedu'n drwm o gefn ei wddf," meddai. "Roedd menyw hefyd yn gwaedu o'i gwddf."

Dywedodd yr heddlu y byddai'n cyfeirio'r digwyddiad at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.

Byddan nhw'n ei asesu cyn penderfynu a ddylid lansio ymchwiliad.

Ffynhonnell y llun, Wales news service

Dywedodd Aelod Seneddol y Rhondda, Chris Bryant, ei fod wedi cael gwybod am y "digwyddiadau erchyll".

Dywedodd Leanne Wood, Aelod Cynulliad y Rhondda ei fod yn "ddigwyddiad ofnadwy".

Dywedodd arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan: "Mae fy meddyliau gyda theuluoedd a ffrindiau'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad ofnadwy hwn.

"Bydd yr heddlu'n cyhoeddi mwy o fanylion maes o law, ond mae gwasanaethau'r cyngor yn barod, gan weithio ochr yn ochr â Heddlu De Cymru, i roi sicrwydd a chefnogaeth i'r gymuned ar yr adeg anodd iawn hon."

Dywedodd Joshua Davies, cynghorydd sy'n cynrychioli ward Pen-y-graig, wrth raglen Gareth Lewis ar BBC Radio Wales fod ei feddyliau gyda theuluoedd dioddefwyr y digwyddiad.

"Mae'n amser erchyll, ac yn amser trist. Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau pawb sydd wedi bod yn rhan o'r achosion heddiw."

Fe ddiolchodd hefyd i ymateb "arwyddocaol" a "chyflym" y gwasanaethau brys.