Sylwadau profi Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 'syndod'

  • Cyhoeddwyd
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Dydyn ni ddim wedi tynnu'r ffigwr yna o'r awyr", meddai Mark Drakeford

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud ei fod yn "syndod" bod prif weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud nad oedd hi'n "gyfarwydd" gyda'r targed gwreiddiol i gael 9,000 o brofion dyddiol erbyn diwedd Ebrill.

Fe wnaeth Dr Tracey Cooper synnu gwleidyddion ar y pwyllgor iechyd gyda'r sylwadau ddydd Iau.

"Rwy'n cytuno ei fod yn ateb oedd yn syndod," meddai Mark Drakeford ddydd Sul.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cwestiynu a ydy Iechyd Cyhoeddus Cymru "wir â'r gallu" i ddarparu rhaglen brofi coronafeirws.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud yn wreiddiol eu bod yn gobeithio gallu cynnal 9,000 o brofion pob dydd erbyn diwedd Ebrill, cyn iddyn nhw gefnu ar y targed hwnnw.

Mae'r llywodraeth yn dweud bod modd gwneud 2,100 o brofion dyddiol yng Nghymru ar hyn o bryd, ond yn ôl ffigyrau iechyd Cyhoeddus Cymru 1,096 gafodd eu cynnal ddydd Gwener.

Tracey CooperFfynhonnell y llun, Senedd TV
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Tracey Cooper, yn y canol ar y rhes waelod, ei holi gan y pwyllgor iechyd ddydd Iau

Dywedodd Mr Drakeford wrth raglen Politics Wales ei fod wedi siarad â chadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru am yr angen i roi hyder bod y cyngor sy'n cael ei ddarparu ganddynt yn ddibynadwy.

Yn cael ei holi am y targed o 9,000 o brofion gan y pwyllgor iechyd ddydd Iau, dywedodd Dr Cooper nad oedd hi'n "gyfarwydd" gyda'r ffigwr hwnnw.

Dywedodd Mr Drakeford ddydd Sul y byddai'r targed wedi'i seilio ar gyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

'Gwneud gwaith pwysig iawn'

Gofynnwyd i Mr Drakeford deirgwaith ar Politics Wales os oedd yn credu bod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru'r gallu i wneud yr hyn sy'n cael ei ofyn gan y corff.

Ar y trydydd tro, dywedodd: "Maen nhw wedi bod â'r gallu - maen nhw wedi gwneud gwaith pwysig iawn hyd yn hyn.

"Mae'n rhaid i ni sicrhau eu bod yn parhau â'r gallu i wneud eu gwaith gydag eraill yn y dyfodol."

Ychwanegodd: "Os ydy gweinidogion yn darparu ffigwr yng Nghymru, dydyn ni ddim wedi tynnu'r ffigwr yna o'r awyr - pan gafodd y ffigwr ei ddefnyddio gan y gweinidog iechyd roedd hynny am ei fod wedi cael ei gynghori mai dyna'r ffigwr ar y pryd."

Angela Burns
Disgrifiad o’r llun,

Mae Angela Burns wedi cwestiynu a ydy Iechyd Cyhoeddus Cymru "wir â'r gallu" i ddarparu rhaglen brofi coronafeirws

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns bod tystiolaeth Dr Cooper i'r pwyllgor iechyd yn "bryder mawr".

"Iechyd Cyhoeddus Cymru yw fy mhryder i - roedd hi [Dr Cooper] yn glir iawn nad oedd hi'n gwybod am y targed o 9,000," meddai wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales.

"A bod yn onest, roedd yn rhaid i chi fyw o dan garreg i beidio gwybod ein bod wedi anelu am darged o 9,000 erbyn diwedd Ebrill."

Dywedodd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod nad oedd 4,000 o brofion ychwanegol yn darged am brofi yng Nghymru, ond mai adlewyrchu trefniadau'r DU ar y pryd oedd hynny.

"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, gan gynnwys eu cynghori am gapasiti profi, ond mae'r llywodraeth hefyd yn cynnal ei hymchwil ei hun."