Taith Cymru i Seland Newydd yn debyg o gael ei gohirio
- Cyhoeddwyd
Mae'n annhebygol iawn y bydd taith tîm rygbi Cymru i Japan a Seland Newydd yn digwydd ddiwedd Mehefin, er nad yw'r cynlluniau wedi cael eu gohirio'n swyddogol eto.
Dyna awgrym Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies, mewn cyfweliad gyda'r BBC.
Roedd Cymru i fod i chwarae gemau prawf yn erbyn Japan ar 27 Mehefin a Seland Newydd ar 4 a 11 Gorffennaf.
Mae holl weithgareddau rygbi wedi eu hatal am y tro oherwydd yr argyfwng coronafeirws, ond bydd rygbi yn Seland Newydd yn ail ddechrau ar 13 Mehefin wedi i'r llywodraeth yno gadarnhau y bydd lefel rhybudd coronafeirws yn cael ei israddio ddydd Iau.
Edrych yn 'hynod amheus'
"Yn amlwg mae e'n dibynnu ar Seland Newydd, ac rydym yn aros am ateb terfynol ganddyn nhw," meddai Mr Davies.
"Ond mae'n rhaid i ninnau ddilyn polisi ein llywodraeth ni, p'un ai ydyn ni'n cael teithio ai peidio felly mae'n edrych yn hynod amheus, ond nid ni sydd i ddweud.
"Mae Seland Newydd wedi bod yn gadarn iawn yn y ffordd y maen nhw wedi delio â'r pandemig. Ydyn nhw'n mynd i fod eisiau agor y llifddorau i bobl o'r ochr arall i'r byd? Dwi'n amau hynny'n fawr iawn."
Cadarnhaodd hefyd y bydd cyfarfod cyn diwedd yr wythnos i drafod dyfodol yr ysbyty dros dro sydd wedi cael ei sefydlu yn Stadiwm Principality.
"Mae'r trefniant presennol a'r cytundeb yn mynd tan 10 Gorffennaf, felly mae trafodaethau'n mynd ymlaen ar y funud i weld beth mae'r GIG a'r llywodraeth eisiau ei wneud."
Dywedodd Mr Davies fod pobl yn ymwybodol iawn o'r perygl y gallai achosion coronafeirws gynyddu eto pe bai'r cyfyngiadau'n cael eu codi'n rhy fuan, ac efallai y bydd angen yr ysbyty ychwanegol arnom eto.
"Felly mae'n bosib y bydden nhw am ymestyn y trefniant presennol," meddai.
Gemau rhyngwladol yr hydref
Pe byddai hynny'n digwydd, mae'n codi cwestiwn ynglŷn â gemau rhyngwladol yr hydref, a dywedodd Mr Davies bod gweithgor arbennig yn edrych yn fanwl ar y calendr rygbi yn fyd-eang.
"Maen nhw'n ceisio blaenoriaethu beth sydd ei angen yn y tymor byr gyda gemau rhyngwladol yr hydref, ac ymhellach na hynny hefyd i weld sut y gallai calendr rygbi'r byd edrych yn y dyfodol."
Ond pwysleisiodd bod Undeb Rygbi Cymru yn awyddus iawn i chwarae gemau'r hydref.
"Dwi'n meddwl bod pob gwlad yn awyddus iawn i'w chwarae nhw. Dy'n ni ddim wedi cael unrhyw incwm i'r busnes ers mis Chwefror, ac nid yw'n mynd i edrych yn dda i'r dyfodol os ydym yn mynd trwy weddill y flwyddyn heb incwm.
"Rydym yn awyddus iawn i'w chwarae nhw, ac rydym hefyd yn cynllunio ar gyfer sefyllfa pe na byddai'r gemau hyn yn cael eu chwarae."