Dim lle yn rhai o ysgolion cynradd Cymraeg Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
lila a'i brawd
Disgrifiad o’r llun,

Lila, sy'n bedair oed, a'i brawd Noa yn chwarae yn yr ardd

Mae angen i Gyngor Caerdydd weithredu ar frys yn ôl mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg er mwyn ymateb i brinder lleoedd mewn ysgolion yng ngogledd y brifddinas.

Dyw 15 o blant heb gael lle mewn un ysgol, ac mae o leiaf un teulu nawr yn ystyried troi at addysg Saesneg.

Yn ôl Cyngor Caerdydd mae digon o ddarpariaeth ar draws y ddinas.

Ym mis Medi, roedd rhieni Lila, sy'n bedair oed, yn gobeithio gweld hi'n dilyn ei brodyr a dechrau yn Ysgol Mynydd Bychan. Ond maen nhw wedi cael gwybod yn ddiweddar nad oes lle iddi yn yr ysgol.

"Mae hi wedi bod yn y feithrin am flwyddyn a hanner," meddai Tracey Rees, mam Lila a'i brodyr, Jac a Noa.

"Buodd Jac fy mab hynaf i, sy'n 14 oed, buodd e yn yr ysgol hefyd, ac mae Noa ym mlwyddyn 6, mae e yna ar hyn o bryd. Felly yn amlwg, oeddwn i eisiau Lila fynd i Ysgol Mynydd Bychan achos hwnna yw ysgol ein hardal ni... ac ry'n ni wedi methu cael lle.

"Ni wedi trio apelio, pwy a ŵyr beth sy'n mynd i ddigwydd. Mae'r ysgolion yn yr ardal o amgylch ni fel Melin Gruffydd, Y Wern, Berllan Deg, maen nhw hefyd yn llawn."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Tracey Rees wybod nad oedd lle i'w merch Lila i fynd i'r un ysgol a'i brodyr

Dywedodd teulu arall wrth raglen Newyddion S4C, oedd am aros yn anhysbys, bod nhw heb gael lle i'w plentyn mewn tair ysgol yn yr un dalgylch.

Mae'r rhieni yn mynd trwy apêl ac os nad yw hynny'n llwyddiannus, maen nhw'n dweud eu bod yn wynebu dewis anodd - rhwng gorfod symud tŷ neu ystyried anfon eu plentyn i ysgol ddi-Gymraeg.

Yn Ysgol Mynydd Bychan, mae pymtheg o blant sy'n byw yn y dalgylch wedi eu gwrthod eleni.

Mae angen gwneud rhywbeth ar frys yn ôl Rhieni dros Addysg Gymraeg, sy'n galw am greu dosbarth ychwanegol mewn ysgol Saesneg gerllaw Ysgol Mynydd Bychan.

"Dwi wedi cael rhieni, yn bennaf yn byw ar y ffin rhwng dalgylch Mynydd Bychan a dalgylch Y Wern yn dweud bod nhw wedi methu â chael lle, bod nhw wedi trio ymhob ysgol posib sydd mewn cyrraedd rhesymol ac wedi methu ymhob un ohonyn nhw, meddai Michael Jones o fudiad RhAG.

"Dydyn nhw ddim yn gwybod i ble i droi. Maen nhw'n gwybod bod 'na lefydd gwag ond dydyn nhw ddim yn fodlon bod plentyn pedair blwydd oed yn gorfod teithio mor bell â hynny.

"Yr unig obaith yw i ni ddwyn perswâd ar y sir i wneud beth maen nhw wedi gwneud cymaint o weithiau o'r blaen. Mae eisiau gwneud yr un peth, dyw e ddim yn beth newydd, sef agor dosbarth mewn argyfwng."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd bod digon o lefydd ar gael ar draws y ddinas er bod dwy ysgol gynradd yn llawn

Mae Cyngor Caerdydd yn gwrthod yr honiad bod diffyg darpariaeth addysg Gymraeg yn y brifddinas.

"Mae 'na gapasiti yn ein hysgolion Cymraeg ni ar draws y ddinas, rhyw 85 o lefydd gwag ar draws y ddinas," meddai'r Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd.

"Dim ond dwy ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerdydd, nad oedd ganddyn nhw le o fewn eu dalgylch ac eto, dwi'n gwybod bod 'na le mewn ysgolion Cymraeg o fewn dwy filltir ar gyfer y disgyblion hynny."