Maethu: Y gallu i wneud gwahaniaeth i fywyd person
- Cyhoeddwyd
Mae'n bythefnos codi ymwybyddiaeth o faethu plant, ac yn ôl un sy'n maethu ers pum mlynedd, mae'r teimlad o allu rhoi cariad a chartref dros dro i blentyn bregus yn brofiad 'hollol wych'.
Yma mae Angharad Clwyd yn sôn am brofiad ei theulu hi o groesawu plant i'w cartref.
Mae Angharad, ei gŵr Llŷr Edwards a'u meibion Tomos sy'n 17, Cadog sy'n 13, Guto sy'n 11 a Brychan sy'n naw oed yn byw yn Llanuwchllyn ac wedi bod yn maethu plant ers pum mlynedd.
"Nid fi a Llŷr sy'n maethu, ond ni'n maethu fel teulu. Ni'n teimlo fel tîm yn 'neud hyn."
Er bod gan Angharad Clwyd bedwar o blant, doedd hynny ddim am ei rhwystro rhag agor ei chartref i blant eraill, meddai'r fam sydd yn dod o deulu o saith o blant ei hun ac sy'n gyfarwydd â chartref prysur.
"Mae maethu yn rhywbeth oedd gen i ddiddordeb ynddo fe ers blynyddoedd mawr. Dwi wrth fy modd gyda phlant.
"Ar y dechre o'n ni'n meddwl bod dim modd i ni faethu, gan bod gyda ni bedwar o blant ein hunain.
"Roedden nhw yn eitha' bach ar y pryd, roedd Brychan ond yn bedair oed, ac oedd Llŷr yn credu bydde fe'n anodd i roi sylw i blentyn maeth llawn amser, gan ein bod angen rhoi sylw i'n plant ein hunain hefyd.
"Wedyn darllenais lyfr gan elusen Cristnogol Home for Good, sy'n annog a chefnogi pobl i faethu a mabwysiadu. Fe ddechreuon ni feddwl am gefnogi teuluoedd sydd yn maethu, fel eu bod nhw yn gallu cael break, felly tra bod ein plant ni dal yn fach, penderfynon ni fynd ati i faethu ysbaid.
"Mae llawer o bobl o'r farn bod rhaid i'w hamgylchiadau fod yn berffaith i faethu, ond beth mae'r plant angen ydy sefydlogrwydd a chariad, 'sdim rhaid cael sefyllfa hollol berffaith. Y prif beth sydd angen arnoch chi ydy stafell sbâr i'r plentyn gysgu," meddai.
Pan mae teuluoedd maeth am fynd ar wyliau, neu i rieni maeth hŷn gael tipyn o seibiant, mae pobl fel Angharad a'i theulu yn cymryd gofal o'r plant am gyfnodau byr. Gall hyn amrywio o benwythnosau i ddwy neu dair wythnos ar y tro, meddai.
"Ni wedi cael plant o bob oed yn dod yma. Mae rhai yn dod nôl sawl gwaith y flwyddyn, ni'n cael brodyr yn dod gyda'i gilydd, ni wedi cael teenagers a phlant bach. Mae'n waith hollol wych, ni wrth ein boddau."
Er bod y teulu wedi cymryd at y profiad gyda breichiau agored, mae hefyd yn gallu bod yn heriol ac mae angen i bawb aberthu rhywfaint.
"Os yw brawd a chwaer yn dod a bod angen dwy lofft, wedyn bydd ein bois ni yn symud allan o'u stafell, ac yn mynd at ei gilydd. Mae'n anodd iddyn nhw chware teg, ond mae'n nhw'n hapus i 'neud hynny er mwyn bod y plant yn gallu dod yma.
"Maen nhw'n rhannu eu pethe gyda'r plant. Mae wedi bod yn fendith mawr ac yn ddysgeidiaeth iddyn nhw i rannu a rhoi yn hael.
"Mae'n gallu bod yn heriol wrth gwrs. Y math o bethau ti'n gweld gyda'r plant yn aml ydy problemau gyda defnyddio cyllell a fforc, problemau gyda'u dannedd, ac mae llawer o'r plant yn gallu bod yn flin.
"Os wyt ti'n rhianta plant maeth, mae'n wahanol i rianta plant sy'n dod o gefndir sefydlog.
"Ti ddim yn cosbi yn yr un ffordd, achos eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw wedi cael eu gwrthod yn barod ti ddim eisiau annog teimladau pellach fel yna. Mae'n fwy o positive parenting, lle ti'n cynnwys y plant."
Ac yng nghanol y pandemig hwn ar hyn o bryd, mae'r angen am rieni maeth yr un mor fawr ag erioed yn ôl adrannau maethu y cynghorau sir.
"Mae angen enfawr i fwy o bobl faethu. Mae cyn lleied o rieni maeth, mae brodyr a chwiorydd weithiau yn cael eu gwahanu, plant siaradwyr Cymraeg yn mynd at deuluoedd di-Gymraeg. Yn y lockdown, mae 'na rieni maeth hŷn sy'n gorfod hunan ynysu, ac mae gwir angen fwy.
"Mae'r cynghorau sir yn annog pobl i gysylltu gyda nhw gyda chwestiynau am faethu, mae'r broses yn gallu digwydd nawr er gwaetha'r lockdown.
"Mae'n waith caled a blinedig iawn, ond beth sy'n ffantastig wrth weld y plant yn dod nôl dro ar ôl tro, ydy ein bod ni'n gweld y newid ynddyn nhw wrth iddyn nhw dderbyn sefydlogrwydd a chariad a'r pethau sylfaenol fel bwyd maethlon ac ymarfer corff.
"Mae'n brifo pan mae'r plant yn symud 'mlaen, ti'n dod i garu pob un plentyn sydd wedi bod 'ma. Ond ni'n canolbwyntio ar y ffaith ein bod ni yn gallu neud gwahaniaeth i fywyd person, mae'n werth e hyd yn oed os allwn ni newid bywyd un plentyn. Mae'n fendith i ni."
Hefyd o ddiddordeb: