Ateb y Galw: Y gantores Katie Hall
- Cyhoeddwyd

Y gantores Katie Hall sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Steffan Dafydd yr wythnos diwethaf.
Katie yw prif leisydd y band amgen o Bontypridd, Chroma. Mae'r band wedi profi llwyddiant yn y blynyddoedd diwethaf, gan ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2016, ac ennill lle yn nghynllun Gorwelion y BBC i artistiaid newydd yn 2018, ynghyd â pherfformio mewn gigs a gwyliau ledled Cymru a thu hwnt.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dwi'n cofio beicio am y tro gyntaf heb stablisers. Fi'n meddwl o'n i'n rili ifanc, ond fi'n bach o thrill seeker felly fi'n cofio gyrru'r beic o top grisiau y tŷ.
Fi hefyd yn cofio'r beic yn cael ei gymryd i ffwrdd...
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Roedd gen i crush uffernol ar Leonardo DiCaprio. Yn enwedig pan oedd e'n actio yn Titanic a Romeo + Juliet.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Fi ddim rili yn cofio'r digwyddiad. Ond pan o'n i'n iau wnaeth brawd fi drio stopio fi rhag rhoi air freshener yn llygad fi. A wnes i ei gnoi fe, sprayo llyged fe gyda'r air freshener, wedyn sprayo fy llyged fy hun.

Katie gyda'i chyd-aelodau o'r band Chroma, Zac a Liam
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Fi'n crïo o hyd. Ges i good cry yn ystod gig Georgia Ruth dros y we. Oedd e ar gychwyn y lockdown, ac o'n i'n teimlo'n rili isel. Mae cerddoriaeth hi mor lysh, wnaeth e 'neud i fi deimlo'n rili gobeithiol.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Lot! Dwi o hyd yn anghofio allweddi'r tŷ felly dwi wastad yn cloi fy hun mas. Fi hefyd yn colli stwff - fi wedi bod trwy tua pedwar ffôn yn y 12 mis dwethaf.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Dwi'n caru ardal Bannau Brycheiniog. Wnes i dyfu lan yn Aberdâr, felly oedden ni 20 munud o Ben y Fan. Hefyd, mae'n hoff ŵyl i, sef Gŵyl y Dyn Gwyrdd, yna hefyd.

Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi cael ei chynnal ger Crughywel ers 2003 - ond yn anffodus, mae wedi cael ei chanslo eleni
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Blwyddyn dwethaf wnes i a'n ffrindiau gorau fi rannu hot-tub yn Green Man. Yna aethon ni mas a bwyta bwyd neis a gwrando ar gerddoriaeth neis.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Neis. Byrlumus. Marmite
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Fi wedi bod yn gwylio lot o stwff Studio Ghibli ar Netflix yn diweddar, a fi'n meddwl mai Spirited Away yw un o hoff ffilmiau fi. Jest achos mae'n uffernol o bert yn weledol.
Fi hefyd wedi gwylio Paris Texas am y tro cyntaf dros y cyfnod rhyfedd yma, a fi'n meddwl bod hwnna yn un o'n hoff ffilmiau fi nawr hefyd. Fi'n mwynhau'r ffilm yn weledol, a pherthynas Travis gyda'i blentyn ar ôl mynd ar goll am flynyddoedd.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Patti Smith - dwi'n dwli ac ei cherddoriaeth, barddoniaeth a'i hagwedd hi tuag at fywyd.

O archif Ateb y Galw:

Beth yw dy hoff gân?
Nes i adael y cwestiwn yma am hir achos fi'n ffeindio fe'n rili anodd... Say Yes gan Elliot Smith.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Cwrs cyntaf - Parseli crwst filo gyda butternut squash a chaws gafr.
Prif cwrs - Enchiladas llysieuol gyda salad.
Pwdin - Pei pecan a maple syrup gyda hufen.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi wedi stryglo gyda dyslecsia trwy gydol fy mywyd. Sai'n meddwl byse gen i angerdd creadigol os nad oedd gen i dyslecsia.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Jest chillio ar draeth rili braf, dwi'n meddwl.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Meddwl bysa fe'n grêt cael bod yn Michelle Obama am y diwrnod. Dwi'n meddwl bod hi'n anhygoel. Hefyd byddwn i'n cael gweld sut mae e i fod yn briod â Barack!

Mae Michelle Obama yn ysbrydoliaeth i nifer
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Heledd Watkins