Ateb y Galw: Yr actor Gwion Tegid
- Cyhoeddwyd
Yr actor Gwion Tegid, sy'n portreadu Barry ar Rownd a Rownd, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Barri Griffiths yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Ma' ngho' fi'n ofnadwy. Dw i 'mond yn meddwl bo' fi'n cofio pethau o pan o'n i'n ifanc achos mod i 'di gweld nhw mewn fideos a llunia'!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
O'n i'n disgyn mewn cariad chwech neu saith gwaith y diwrnod pan o'n i'n iau!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Sesiwn Fawr Dolgellau tua 10 mlynedd yn ôl - nes i feddwl bo' fi 'di gweld Rhian Blythe felly es i draw ati i roi sioc iddi. 'Nath hi droi rownd, a Lisa Gwilym oedd hi! Yn lle just esbonio be' o'n i 'di neud, nes i jest deud "Lisa! Ti'n iawn?" a smalio bo' fi'n 'nabod hi!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Clywed Alys Williams yn canu Pan Fo'r Nos am y tro cynta'. Y gwreiddiol odd cân angladd fi digwydd bod - dw i'n ama' bod fersiwn Alys 'di cymryd drosodd 'wan.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Mynd i'r tŷ tafarn, ac aros yno'n rhy hir.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Aberdaron. Ges i dreulio chwe mis yno'n ffilmio Porthpenwaig yn ystod y gaeaf. Erbyn hyn mi fydda i'n mynd yno'n aml ar ddiwrnodau braf efo nghariad i gerdded, byta ac yfed ar y traeth yn ogystal â champio.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Lot fawr o nosweithia' i ddewis ohonyn nhw! Fues i'n Sicily dair mlynedd yn ôl - ac ma' un noson yn sefyll allan yn fwy 'na'r lleill. Yn Modica, lle oedden ni'n aros mewn AirBnB od, felly isio treulio gymaint o amser ag oedd yn bosib i ffwrdd o'r llety rhyfadd! Fuon ni'n treipsio o gwmpas enotecas ac osterias yn yfad gwin da wedi eu matchio efo cynnyrch o'r un ardal.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Dw i'n ffan o Hunter S Thompson, felly 'na i ateb y ddau gwestiwn efo un ateb - Fear and Loathing in Las Vegas. Er dwi 'di dechra' gweithio'n ffordd drwy'r Penguin Classics dros y flwyddyn dwytha' a ma' 'na ambell i ffefryn yn fan'no.
Ma' na ddegau o lyfra' Cymraeg 'fyd - Llyfr Glas Nebo oedd y diwetha' i mi ddarllen a wir mwynhau. Mi ydw i'n ffan o hen ffilmia' gangsters 'fyd... O dw'n 'im, ma'n gwestiwn rhy anodd - rhywbeth i'w drafod dros beint.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Nick Cave. Dw i'n meddwl bod o'n rili cŵl. Eitha' sicr 'sa fo'n sgwrs ddiddorol ar y dechra' cyn troi'n hwyl! Ma'n siŵr bod o'n gwbod sut i bartïo dydi?
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Coginio ydi un o fy hoff betha' i 'neud.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Cael teulu a ffrindia' draw am fwyd, gwneud gwledd ac yfad gwin fedrwn ni'm ei fforddio!
O archif Ateb y Galw:
Beth yw dy hoff gân a pham?
Dw'n 'im. Ma' cerddoriaeth wastad 'di bod yn bwysig yn fy mywyd. Motown Mam pan o'n i'n fabi, Elvis 'mlaen gan Dad. Gwylia' o gwmpas UDA, yn gwrando ar blues a roc a rôl. Cerddoriaeth Gymraeg yn yr holl gigs fues i ynddyn nhw'n ystod fy arddegau. Gwyliau cerddoriaeth wedyn yn gwrando ar Radiohead, Stevie Wonder, Flaming Lips, Willie Nelson, Primal Scream, N.E.R.D. Yn ddiweddar 'dw i di bod yn gwrando ar fwy o gerddoriaeth glasurol. Cwestiwn amhosib i mi ateb - dibynnu sut 'dw i'n teimlo.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Dwi'n di bod yn fegan am y flwyddyn a hannar dwytha'. Felly 'na i ddau fersiwn - realistig a pe taswn i'n cal cheat day! Hefyd, 'dw i'm yn malio am bwdin. Ma' well gen i cwrs cyntaf, prif gwrs, cwrs cyntaf. Mi ydw i 'di gneud hyn mewn amball i fwyty, rhai llefydd yn deall, rhai llefydd yn edrych yn rhyfadd arna fi!
Fegan
Spaghettata, Dhansak llysia', reis madarch a roti, Cauliflower buffalo wings
Cheatmeal
Ribs BBQ, Spaghetti meatballs, Scallops
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Rhywun sydd yn rhagori yn eu maes chwaraeon - Messi, Thor Björnsson, Rich Froning neu Usain Bolt.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Catherine Ayers
Hefyd o ddiddordeb: