Cymunedau'n uno yn ystod corona
- Cyhoeddwyd
O Grangetown i Gaernarfon, mae cymunedau ar draws Cymru wedi uno i helpu ei gilydd ac i ymateb i'r pandemig coronafeirws a'r locdown.
Gofynnodd BBC Cymru Fyw am brofiad pobl ar draws Cymru o sut mae cyfnod y coronafierws wedi dod â phobl at ei gilydd yn eu cymuned nhw.
Calon Lân, Ramadan a Spiderman
Dafydd Trystan yw un o gydlynwyr Gwirfoddolwyr Grangetown. Mae'n gweithio fel cofrestrydd i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol - o adref erbyn hyn - ac yn aelod o Fwrdd Chwaraeon Cymru.
Beth tybed yw'r cysylltiad rhwng y tri yma? Nid cwis Cymru Fyw mo hyn, ond cyfle i drafod ychydig ar ymateb cymuned Grangetown yng Nghaerdydd i argyfwng COVID - sy'n mynd â ni ar daith sy'n cynnwys Calon Lân, Ramadan a Spiderman!
Pan ddaeth hi'n amlwg fod cyfyngiadau sylweddol yn mynd i orfod cael eu cyflwyno yng Nghymru daeth criw o gyfeillion at ei gilydd yn Grangetown i gynllunio ein hymateb.
Mae'n anodd dirnad nawr ond roedd hyn mewn adeg cyn cyfyngiadau, ac mi wnaeth 20 ohonom gyfarfod (nifer gyda'u hoffer di-heintio eu hunain) i gynllunio'r ymateb.
Bu'r cynghorydd lleol Ash Lister yn allweddol wrth gydlynu ymdrechion ac wedi'r cyfarfod cyntaf roedd gennym wirfoddolwyr parod i arwain 'sectorau' - ac i gynnig cymorth i gymdogion gyda siopa a/neu casglu presgripsiwn neu neges arall.
Helpu
Fy nghyfrifoldeb i oedd y 'Sector Coch', a buan iawn roedd gen i dîm o 25 o wirfoddolwyr yn barod i helpu. Cynhyrchwyd posteri lliwgar amlieithog, darparwyd canllawiau manwl i wirfoddolwyr ac argraffwyd 5,000 o bamffledi i'w dosbarthu i dai a thrwy'r fferyllfeydd. Erbyn i'r cyfyngiadau ddod i rym roedd y rhan fwyaf o dai wedi cael pamffled a nifer o siopau yn arddangos y posteri.
Ac fe ddechreuodd bobl gysylltu. Nifer i gynnig helpu, sawl un i ddweud cymaint oedden nhw'n gwerthfawrogi gwybod fod rhywun yno pe bai angen, a rhai yn gofyn am help.
Erbyn hyn mae dros 150 o bobl wedi eu helpu, a rhai o'r rheiny yn wythnosol, ond ry'n ni dal gyda mwy o wirfoddolwyr (tua 175) na phobl sydd angen help!
Ar un olwg mae hynny yn broblem, ond ar y llaw arall roedd hi'n golygu fod modd i finnau ac eraill sy'n cydlynu'r gwaith ddweud yn glir wrth y gymuned - mae gyda ni y drefn a'r capasiti i'ch helpu be' bynnag a ddaw.
Ac mae modd dweud hynny heddiw - os ddaw ail don, mae gwirfoddolwyr Grangetown yn barod i ymateb.
Adlonni
Daeth hi'n amlwg yn fuan i mi hefyd fod angen i ni gael bach o hwyl yn ogystal â'r gwaith beunyddiol. Mi sgwennais bwt i'r tîm yn cyfeirio at y gân brotest Bread and Roses gan bwysleisio yr angen i gynnig cynhaliaeth eang i'n cymuned.
Roeddwn i'n falch iawn felly fod archarwr nodedig wedi ateb yr alwad - Spiderman - sydd wedi bod ers wythnosau yn diddanu plant (ifanc ac hen) Grangetown ac yn dod â gwên i'r wyneb.
Stryd arall sydd wedi rhagori ar gelfyddyd yn ystod y cyfnod heriol yma yw Dorset St, ble mae dau ganwr proffesiynol sy'n byw ar yr un stryd ond ychydig o bellter o'i gilydd, yn diddannu eu cymdogion gydag arlwy a gychwynodd gyda Calon Lân ac sy'n esblygu o wythnos i wythnos - cymaint felly fod camerâu teledu i'w gweld o dro i dro yn Grangetown yn rhyfeddu at y perfformiad.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Agwedd arall ar yr ymateb yw'r angen i sicrhau bwyd i'r sawl sydd ei angen ac heb o reidrwydd y modd i dalu amdano. Does dim arian gan wirfoddolwyr Grangetown ond mae dau brosiect lleol - Ramadan Relief a bwyd cymunedol Wild Thing - wedi darparu cannoedd o brydau bwyd i bobl lleol sydd mewn angen.
Bu Mosseem Suleman (Mos i'w ffrindiau) yn trafod y prosiect ac ymateb rhyfeddol pobl i'r codi arian ar S4C - ei gyfweliad cyntaf yn Gymraeg! Da iawn Mos.
Drwyddi draw mae 'na waith rhyfeddol wedi ei gyflawni - ond yn hytrach na'r fersiwn dystopaidd a geir mewn ffilmiau fel Contagion - dod at ei gilydd mae pobl Grangetown wedi ei wneud, a hynny mewn ffordd gydweithredol hwyliog a fydd yn gosod seiliau ar gyfer gweithgarwch cymunedol am flynyddoedd i ddod. Diolch iddynt oll!
Cymdogion Cymraeg
Mae Bethan Harrington yn byw yng Ngilwern ger Y Fenni gyda'i phlant a'i gŵr ac wedi gweld y gymuned Gymraeg yn ffynnu yno yn y cyfnod diweddar.
Nos Lun, 13 Ebrill camais allan at flaen y tŷ i ganu'r anthem i'r awyr iach. Wrth ffidlan gyda'r ffôn i wneud fideo o'r achlysur cês i sioc braidd i glywed lleisiau'n cario tuag atom ar yr awel - wedi dechrau canu Hen Wlad fy Nhadau eiliadau o'm blaen!
Yn gyflym dyma ni'n cyfri i dri ac yn dechrau ein perfformiad, gan chwilio am ffynhonnell y lleisiau arall, rhywle cyfagos. Hanner ffordd drwy'r frawddeg "Eu gwrol ryfelwyr" yr ysbϊais i berchnogion posib y lleisiau yn ymlwybro nôl adref.
Da iawn Helen a Nikki. A diolch am fod yn gwmni yn ein cȃn.
Sgwrs yn Gymraeg
Symudon ni i ymgartrefu yng Ngilwern yn 2012. Ar y pryd dim ond un cymydog arall oedd yn medru unrhyw math o Gymraeg, ond roedd hi wedi byw yn Sir Fynwy cyhyd fel bod ei gallu i gynnal sgwrs yn gyfyng iawn.
A fel 'na bu hi am sawl blwyddyn gyda'n teulu bach yn gorfod mentro allan o'n stryd ac i fewn i'r pentref neu lawr i'r parc er mwyn ffeindio Cymry Cymraeg am sgwrs. Ond yn ara' deg dyma'r rhod yn dechrau troi.
Prynodd Bleddyn a Michaela dŷ oedd tafliad carreg i ffwrdd ohonom. Gŵr ifanc lleol yw Bleddyn, wedi ei addysgu yn Ysgol Y Bannau ac yn briod i Michaela o Gastell-nedd sy' bellach yn swyddog Cymraeg i Blant Sir Fynwy. Dechrau da yn wir.
Nesaf daeth Rhiannon a James. Symud lawr o'r gogledd wnaethon nhw, gyda James yn gyfarwydd ȃ siarad Cymraeg gyda'i deulu yn Llanystumdwy a Rhiannon (o Lanelli'n wreiddiol) wedi dysgu'r iaith trwy ei gwaith yng Nghaerfyrddin a Bangor. Ail ddatblygiad addawol iawn.
Yna y llynedd daeth Helen a Nikki. A dyma'r eisin ar y deisen i fi achos mae Helen yn dod o Gwm Tawe hefyd.
Clonc o bellter
Erbyn hyn felly mae 'na bedwar cartref ar ein stryd ble mae siawns am sgwrs yn y Gymraeg, ac mae'n rhaid cyfaddef, dw i'n cymryd pob cyfle. Mor hyfryd yw hi i fynd am dro dyddiol a chael clonc (o bellter diogel wrth gwrs) am hyn neu'r llall ar y ffordd.
Y tywydd, y Gofid Mawr, garddio, gweithio o gartref, addysgu gartref, y Gymraeg: dyma yw ein pynciau.
Yn gynnar iawn, cyn y locdown, 'nath menyw lleol symud yn gyflym i sefydlu grŵp cymunedol i gefnogi pobl bregus yn y gymuned neu unrhyw un oedd yn cael yr haint. Nes i a ffrind arall sy'n siarad Cymraeg helpu dosbarthu'r flyers.
O ran cymdogion, mae pob cymydog yn helpu'r rhai sy' drws nesa. Mae ambell i berson hen iawn ar y stryd felly ni'n helpu ein gilydd.
Mae'r grŵp wedi bod yn wych - ar un adeg oedd rhaid i ni ynysu fel teulu am bythefnos ac 'oedd y grŵp 'na wedi helpu ni gyda siopa.
Dyna sut mae'r gymuned wedi ymateb fan hyn.
Cyhoeddwyd y stori yma'n wreiddiol ym mhapur bro digidol Pobl y Fenni.
Diolch i'r arwyr diddiolch
A hithau'n wythnos diolch i wirfoddolwyr, dyma gipolwg gan Mari Elen Jones ar waith ambell i unigolyn yn ardal Arfon sy'n helpu eu cymunedau yn ystod y cyfnod clo.
Yng Nghaernarfon, mae'r cogydd lleol Chris Summers wedi sefydlu gwasanaeth dosbarthu prydau poeth i unigolion bregus y gymuned yn ystod cyfnod y pandemig. Dechreuodd Chris Porthi Pawb yn meddwl y byddai 20 o bobl yn defnyddio'r gwasanaeth.
Deufis yn ddiweddarach ac mae Porthi Pawb yn dosbarthu dros 500 o brydau poeth yn wythnosol i drigolion y dref.
Fel sawl un yn ystod y cyfnod yma, tydi Chris methu mynd i'w waith. Ei hiraeth am y diwydiant bwyd a'i edmygedd tuag at ei bartner - sy'n gweithio shifftiau nos fel gweithiwr GIG - ysbrydolodd y cogydd i sefydlu'r gwasanaeth: "O'n i'n teimlo'n useless, be' alla i wneud i helpu?"
Daeth Chris ynghyd â dau ffigwr adnabyddus i gymunedau Caernarfon, Eleri Lovgreen a Kenny Richards. Gyda phrofiad helaeth y ddau mewn trefnu a chynnal digwyddiadau cymunedol, maent wedi sicrhau bod Chris wedi gallu gwireddu ei weledigaeth: "Hebddyn nhw, byswn i heb allu dechrau yn y lle cyntaf."
Erbyn hyn mae 30 o wirfoddolwyr yn helpu Chris i goginio, darparu a threfnu, a Phlaid Cymru yn ganolog i'r gwaith ymgysylltu cymunedol.
Yn ôl Chris: "Mae lot o bobl yn deud pa mor dda dwi 'di gneud, ond dwi'n rhan o dîm."
Mae Porthi Pawb yn brawf ar sut mae grŵp o bobl sy' eisiau helpu yn gallu dod ynghyd a gwneud gwahaniaeth: "Bysa Porthi Pawb heb 'di llwyddo heb yr holl bobl sy'n gneud y gwaith ma' nhw'n gneud."
Cwm-y-Glo
Pythefnos wedi i'r cyfnod clo ddechrau, lledaenodd dân o ardd un o drigolion pentref Cwm yn sydyn drwy'r coed. Roedd un ddynes yn ei chanol hi yn sicrhau bod pawb yn iawn, ei phibell dŵr yn ymestyn trwy'r stryd yn ceisio rheoli'r tân cyn i'r frigâd gyrraedd a'i ddifodd - Hayley Griffiths.
Gwarchodwr plant ydy Hayley, sy' ar goll heb ei chynffon o blant bach hapus: "Wrth fy mod i ddim yn gweithio rŵan mae gen i dipyn o amser ar fy nwylo."
Ond buan iawn mae Hayley wedi llenwi ei horiau wrth iddi dreulio ei hamser yn gofalu am unigolion bregus y pentref.
Gofynnodd neb wrth Hayley am help ar ddechrau'r cyfnod clo: "Wrth bo fi'n siarad hefo gymaint o bobl on i'n dod i ddallt bod unigolion/cyplau ddim yn medru mynd allan a dyma fi'n gofyn, be fedra i neud i chi?"
Rownd bapur, pigo presgripsiwn, mynd i siopa a danfon neges i'r rheiny sydd yn hunan-ynysu - dyma rai o'r pethau mae'n gwneud o'i gwirfodd i'r bobl yn ei chymuned.
Dywedodd Hayley: "Dwi jest yn teimlo bo f'isio rhoi i'r gymuned am fod o'n adeg mor anodd... ma'n gneud i mi deimlo'n dda, mod i'n gallu rhoi fy amser i helpu."
Mae'r cyfnod heriol yma wedi amlygu pwysigrwydd pobl fel Hayley a Chris. Unigolion sydd yn gwneud amser sydd mor anodd ac ansicr fymryn yn well trwy weithredoedd hael a charedig.
Hefyd o ddiddordeb