Grwpiau risg uchel 'i gael ymarfer corff a gweld anwyliaid'

  • Cyhoeddwyd
rhedwyrFfynhonnell y llun, Reuters

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd pobl sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain (shielding) rhag coronafeirws yn cael ymarfer corff a chwrdd â phobl tu allan o ddydd Llun.

Ond maen nhw wedi pwysleisio bod yn rhaid iddyn nhw barhau i ddilyn y rheolau ar ymbellhau cymdeithasol wrth wneud hynny er mwyn atal lledaeniad y feirws - ac osgoi gwneud pethau fel siopa mynd i'r gwaith.

Ym mis Ebrill fe wnaeth Llywodraeth Cymru anfon llythyrau at filoedd o bobl oedd wedi'u hadnabod fel rhai oedd â risg uwch o niwed petawn nhw'n dal Covid-19, gan gynnwys pobl oedrannus a'i rheiny a chyflyrau meddygol.

Roedd y llythyr yn gofyn i'r bobl hynny aros adref am 12 wythnos - ond cafodd rhai eu hanfon i'r cyfeiriadau anghywir, ac ni wnaeth eraill dderbyn y llythyr tan fis Mai.

'Peidiwch mynd i siopa'

Er y disgwyliad gwreiddiol y byddai pobl wedi gorfod aros adref am hyd at dri mis, fe fyddan nhw nawr yn cael yr un rhyddid i ymarfer corff a chyfarfod ffrindiau â gweddill y boblogaeth o 1 Mehefin ymlaen.

Mae'r canllawiau diweddaraf i ddod i rym yn dweud bod pobl yn cael:

  • Ymarfer corff cymaint ag yr hoffen nhw, cyn belled â'u bod yn cadw pellter cymdeithasol ac yn dechrau a gorffen o adref;

  • Cwrdd â phobl o gartref arall y tu allan, gan ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol - ddylen nhw ddim mynd i'w tŷ, na rhannu bwyd gyda nhw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru'n dweud y dylai'r rheiny sy'n 'gwarchod' eu hunain barhau i ddilyn y cyngor roedden nhw wedi ei gael gynt.

Mae hynny'n cynnwys peidio mynd i siopa - a chael nwyddau wedi'u cludo i'w tai yn lle hynny - a pheidio mynd i'r gwaith os yw'n golygu gadael y cartref.

"Does dim posibl dileu'r risg yn llwyr fyth ond rydyn ni'n cynghori'r rhai sy'n gwarchod eu hunain i ymarfer ar amseroedd llai prysur, fel bod y risg o gyswllt ag eraill yn is," meddai Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton.         

"Rydyn ni wedi cynghori pawb yng Nghymru i gadw pellter cymdeithasol o ddau fetr a chadw at arferion hylendid da wrth gyfarfod yn yr awyr agored.

"I'r rhai sy'n gwarchod eu hunain, mae cadw'n llym at y rheolau yma'n hanfodol."

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething ei fod yn "cydnabod pa mor heriol mae'r misoedd diwethaf" o beidio bod mewn cyswllt ag eraill wedi bod, ond ei fod yn "falch bod cymaint wedi bod yn gwarchod eu hunain mor ofalus".

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig ei bod hi'n "syndod" na chafodd y cyhoeddiad ei wneud ddydd Gwener, pan gafodd y rhan fwyaf o bobl wybod am y llacio i'r rheolau ar gyfarfod anwyliaid.

"Gobeithio'r tro hwn y bydd y llythyr yn rhoi gwybod i bobl am y newid yn mynd i'r cyfeiriadau iawn y tro hwn," meddai Darren Millar AS.

Gofynnodd Delyth Jewell AS o Blaid Cymru fodd bynnag pam fod Llywodraeth Cymru'n newid eu cyngor i bobl yn y grwpiau risg uchel os nad oedd cyfradd lledaeniad y feirws wedi gostwng.

"Fe wnaeth y Prif Weinidog gadarnhau ddydd Gwener bod y Rhif R dal yn 0.8, sy'n beryglus o agos at 1," meddai.

"Pa gyngor mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael i wneud iddyn nhw newid y polisi yma? Allen nhw fod yn sicr y bydd y canllawiau newydd yn gwarchod y grŵp bregus yma o bobl?"

Pwy sydd â risg uchel?

  • pobl ag imiwnedd isel;

  • pobl sy'n dioddef o gyflyrau ar eu hysgyfaint, neu broblemau a'u calon;

  • cleifion sydd wedi cael trawsblaniad diweddar;

  • pobl sydd â mathau arbennig o ganser, fel canser y gwaed, fogfa ddifrifol;

  • pobl sydd â chyflwr ffibrosis systig;

  • cleifion sydd ag afiechyd yn un o'u horganau (afu, aren, neu galon ee);

  • rhai cyflyrau eraill anarferol a chleifion sy'n cael rhai therapïau cyffuriau;

  • menywod beichiog neu blant sydd ag afiechyd difrifol ar y galon.