Cynnal Tafwyl 2020 yn ddigidol o Gastell Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
TafwylFfynhonnell y llun, Tafwyl
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr ŵyl i fod i symud o Gastell Caerdydd i Barc Biwt ar gyfer 2020

Bydd gŵyl Tafwyl, dathliad blynyddol Caerdydd o gelfyddydau a diwylliant Cymreig, yn cael ei chynnal yn ddigidol eleni.

Y bwriad yw ffrydio rhaglen o ddigwyddiadau yn fyw ar 20 Mehefin.

Yn rhan o'r ŵyl fe fydd cyfuniad o gerddoriaeth fyw, llenyddiaeth, trafodaethau a gweithgareddau i blant.

Bydd y gerddoriaeth yn dod yn fyw o gartref diweddaraf y digwyddiad, Castell Caerdydd, gan fod ymysg y cyntaf o wyliau'r DU i ffrydio o leoliad yr ŵyl.

'Cynhyrchiad o safon'

Dywedodd Manon Rees O'Brien, Prif Weithredwr Menter Caerdydd, trefnwyr yr ŵyl: "Mae'r gigs ystafell wely a welwyd yn ddiweddar gan wyliau poblogaidd eraill wedi bod yn wych wrth gwrs wrth lenwi'r bwlch diwylliannol dros yr wythnosau diwethaf.

"Ond roedd y tîm ym Menter Caerdydd yn teimlo y byddai'n anhygoel gallu cynnig cynhyrchiad o safon i artistiaid a gwylwyr gartref, a hynny o leoliad eiconig, gan ddathlu popeth sy'n wych am ein hiaith a'n diwylliant.

"Wrth gwrs, trwy gydol y cyfnod cynllunio, diogelwch sydd wedi bod yn flaenoriaeth, ac rydym wedi cydymffurfio'n llawn â rheolau a chyfyngiadau'r Llywodraeth."

Ffynhonnell y llun, Tafwyl

Ag hithau'n gyfnod pryderus i'r celfyddydau, artistiaid, a'r diwydiant digwyddiadau byw, bydd yr ŵyl yn darparu platfform diwylliannol hanfodol a chefnogaeth i'r diwydiant ar adeg pan mae ei angen fwyaf, meddai'r fenter.

Dywedodd Antwn Owen-Hicks o Gyngor Celfyddydau Cymru: "Erbyn hyn, Tafwyl yw'r prif ddigwyddiad celfyddydol Cymraeg yng Nghaerdydd, ac yn ŵyl sy'n denu cynulleidfa o bob rhan o Gymru, a thu hwnt.

"Rydym mor falch bod Tafwyl wedi penderfynu cadw mewn cyswllt â'u cynulleidfa a sicrhau gŵyl ddigidol eleni.

"Mae'n dda eu gweld yn barod i ddychmygu ac ystyried sut y gallant oroesi yn ystod y cyfnod anodd yma, a pharhau i gynnig llwyfan i'n hartistiaid- a hynny'n hollol ddigidol am y tro cyntaf."

Cerddoriaeth, llenyddiaeth, bwyd a diod

Clwb Ifor Bach sydd yng ngofal curadu'r gerddoriaeth, ac fe fydd 10 artist yn perfformio o Gastell Caerdydd, gan gynnwys setiau byw gan y canwr poblogaidd Al Lewis, y grŵp roc-amgen HMS Morris a'r berfformwraig electro-pop Hana.

Ymysg y setiau acwstig bydd perfformiadau gan yr artist synthpop, Casi, y cerddor gwerin Gareth Bonello a'r artist ffync-pop Alun Gaffey.

Yn ogystal â'r gerddoriaeth fyw, bydd nifer o elfennau arferol Tafwyl yn cael eu darparu, gan gynnwys sgyrsiau, sesiynau llenyddol a gweithdai i blant.

Ymhlith yr uchafbwyntiau mae sesiwn holi-ac-ateb gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, gweithdy syrcas i blant gyda Nofit State a sesiwn lenyddol gyda chriw Y Stamp.

Bydd rhai o'r arlwywyr a oedd i fod i fasnachu yn y digwyddiad hefyd yn danfon bwyd at ddrws y gynulleidfa.

Mae Menter Caerdydd wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Celfyddydau & Busnes Cymru, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg i gynnal Tafwyl.

Bydd Tafwyl yn cyd-weithio â Gŵyl Fach y Fro, gŵyl flynyddol ar Ynys y Barri a drefnir gan Menter Iaith Bro Morgannwg, gan gyfuno adnoddau er mwyn apelio at ddilynwyr a chynulleidfa'r ddwy ŵyl.

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, fod y cyhoeddiad yn "newyddion cyffrous iawn y cawn ychydig bach o brofiad Tafwyl o'n cartrefi".

Bydd yr ŵyl yn cael ei ffrydio ar blatfform ar-lein AM, dolen allanol.