Drama feicro: Enfys gan Melangell Dolma

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cynhyrchiad BBC Cymru Fyw a Theatr Genedlaethol Cymru

Mae Cymru Fyw a Theatr Genedlaethol Cymru wedi bod yn cydweithio ar gynhyrchu cyfres o ddramâu meicro.

Y gyntaf yn y gyfres yw Enfys sy'n gweld Nick, sy'n dysgu Cymraeg, yn ceisio cwblhau ei dasg gwaith cartref.

Melangell Dolma yw awdur y ddrama feicro. Meddai:

"Ynghanol y cyfnod anodd yma roeddwn i eisiau ysgrifennu darn gobeithiol sydd yn codi calon. Mae'n ymwneud â'r cysur rydym ni'n ei gael o fod mewn cyswllt efo pobl er gwaetha'r pellter sydd rhyngom ar hyn o bryd.

"Roeddwn i hefyd wedi fy ysbrydoli gan yr holl enghreifftiau o bobl yn defnyddio'r amser yma i ddechrau dysgu ieithoedd newydd, ac yn benodol y twf sydd wedi bod yn y galw am wersi Cymraeg digidol."

Mae'r dramodwyr a'r cyfarwyddwyr ynghlwm â'r prosiect yn rhan o gynllun arbennig Theatr Genedlaethol Cymru.

Dyweddodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, "Mae'r prosiect wedi rhoi cyfle i ddramodwyr newydd i arbrofi gyda drama ar blatfform digidol.

Ffynhonnell y llun, Theatr Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Melangell Dolma (Awdur), Richard Nicholls (Nick) a Rhian Blythe (Cyfarwyddwr)

"Mae wedi bod yn gyfle i ni gynnig cyflogaeth hefyd i actorion a chyfarwyddwyr llawrydd mewn cyfnod pan mae gweithwyr theatr hunangyflogedig wedi gweld eu bywoliaeth yn diflannu dros nos, tra bod ein theatrau ar gau, a holl gynlluniau creu theatr byw wedi eu canslo.

"Mae'r syniadau sydd wedi dod i law a'r cynnwys sydd wedi'i greu yn cynrychioli agweddau amrywiol ac amserol iawn sy'n adlewyrchu'r cyfnod chwithig hwn yr ydym ar ei ganol."

Hefyd o ddiddordeb: