Theatrau'n colli £1.4m yr wythnos yn sgil pandemig

  • Cyhoeddwyd
Theatr ClwydFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae 2020 yn flwyddyn heriol i sefydliadau fel Theatr Clwyd

Mae theatrau Cymru yn dweud fod y cyfyngiadau yn sgil y coronafeirws eisoes wedi achosi colledion o filiynau o bunnoedd - a does dim argoel pryd y byd modd iddyn nhw ailagor.

Dywed Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) fod yr holl sefydliadau sy'n cael eu cefnogi ganddyn nhw yn colli cyfanswm o tua £1.4m yr wythnos, a'r ofn ydy y bydd theatrau ymysg y sefydliadau olaf i allu ailagor.

Mae CCC eisoes wedi clustnodi £7m i ddigolledu cwmnïau ac unigolion sydd wedi dioddef yn sgil y gwaharddiadau, ond mae'n amlwg y bydd angen llawer rhagor o arian.

Yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, er enghraifft, mae mwyafrif y perfformiadau rhwng hyn a diwedd y flwyddyn eisoes wedi eu canslo ac mae dros 70% o'r staff ar 'furlough'.

A'r pryder ydy y bydd y drefn honno yn dod i ben ymhell cyn y bydd modd i'r ganolfan ailagor.

Gwennan Mair
Disgrifiad o’r llun,

Gwennan Mair: Y theatr angen cymorth gan y ddwy lywodraeth

Mae Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug eisoes wedi colli £1m o drosiant, ac yn ôl y Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol, Gwennan Mair, mae'n gyfnod hynod o heriol.

"Ar hyn o bryd dwi'n meddwl bod ni angen cyngor a chymorth gan y llywodraeth yma yng Nghymru ac ym Mhrydain," meddai.

"Dwi'n meddwl ei bod yn saff i ddeud na allwn ni agor y theatr yn yr un ffordd heb y gofal a'r cymorth yna.

"Mae yna ffyrdd y gallen ni agor y theatr yn greadigol drwy ddefnyddio llefydd y tu allan o bosib, ond o ran ein prif sioeau ni ar ein prif lwyfannau ni, dwi'n meddwl fod hynny'n stori wahanol."

Haws i theatrau cymunedol?

Bu rhaid i Theatr Bara Caws ganslo eu teithiau hefyd. Ar hyn o bryd mae'r cwmni, sy'n cyflogi pum aelod o staff, yn llwyddo i ymdopi'n ariannol, ond mae meddwl am ffyrdd o ailddechrau perfformio yn her enfawr.

Dywed y Gyfarwyddwarig Artistig, Betsan Llwyd y bydd ail-ddechrau teithio yn broblem fawr.

"Mae'n mynd i fod yn anodd o ran pellter cymdeithasol o ran y gynulleidfa ac o ran y criw ar y llwyfan a'r criw technegol," meddai.

Betsan Llwyd
Disgrifiad o’r llun,

Gall natur sioeau cymunedol Theatr Bara Caws roi'r hyder i'r gynulleidfa eistedd â'i gilydd, medd Betsan Llwyd

"Mae rhai yn sôn efallai y bydd cwmnïau theatr cymunedol yn gallu dod allan o hyn fymryn yn haws, oherwydd pan ydan ni yn mynd i neuadd gymuned er enghraifft, fel arfer cynulleidfa gymunedol iawn sy'n dod i'n gweld ni a fydd pawb yn nabod ei gilydd.

"Mae yna dybiaeth efallai y bydd hynny yn fwy derbyniol gan y gynulleidfa, y byddan nhw yn teimlo yn fwy hyderus i eistedd gyda chymdogion yn hytrach na mynd i leoliad mwy ffurfiol.

Mwy am coronafeirws
Mwy am coronafeirws

"Fedrwn ni wneud dim byd nes cawn ni wybod be fydd y gofynion hefo'r llacio cymdeithasol.

"Fydd hi'n amhosib mynd yn ôl i sut oedd petha' oni bai bydd yna vaccine."

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru eu bod yn trafod y sefyllfa ariannol hefo Llywodraeth Cymru.

Bydd angen cyllid ychwanegol i gynnal y sefydliadau yn y tymor hir, meddai llefarydd, a heb y gefnogaeth honno, mae'n bosib na fydd rhai lleoliadau yn gallu ailagor.