Teulu'n flin wedi anwybodaeth ysbyty am brawf Covid-19
- Cyhoeddwyd

Aed â Denis Jenkins i'r ysbyty ym mis Mai am fod ganddo symptomau Covid-19 ond cafodd brawf negyddol
Dyw'r newid ym mholisïau Llywodraeth Cymru ddim wastad wedi'i drosglwyddo i staff rheng flaen, medd Mario Kreft, cadeirydd Fforwm Gofal Cymru sy'n cynrychioli cannoedd o ddarparwyr gofal.
Daw ei sylwadau wedi i deulu ddweud iddynt wynebu "brwydr drawmatig" i gael y prawf coronafeirws iawn ar gyfer trosglwyddo eu tad 90 oed o Ysbyty Brenhinol Gwent i gartref gofal.
Dywed Llywodraeth Cymru: "Mae ein polisi ar gyfer profi mewn cartrefi gofal wedi'i addasu wrth i dystiolaeth wyddonol newid. Mae cyfathrebu wedi bod yn hanfodol mewn sefyllfa sydd wedi newid yn gyflym."
Aeth Denis Jenkins i Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd ym mis Mai am fod ganddo symptomau Covid-19 ond gan fod y prawf yn negyddol cafodd ei ryddhau o'r ysbyty.
Dywed ei ddwy ferch eu bod wedi gorfod gwneud tri chais am brawf "olrhain cyflym" i gwrdd â gofynion y cartref gofal yr oedd yn mynd iddo.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ei bod yn "ddrwg gennym glywed am y pryderon hyn a godwyd gan deulu Mr Jenkins" a'u bod yn bwriadu cynnal ymchwiliad.

Dywed dwy ferch Mr Jenkins, Christine Rusby (chwith) ac Elaine Thomas (dde) nad oedd staff rheng flaen yn ymwybodol o'r rheolau profi
Dywed merched Mr Jenkins - Elaine Thomas a Christine Rusby - eu bod wedi gorfod egluro polisïau profi y Gwasanaeth Iechyd i staff ysbyty - a oedd yn dweud nad oeddynt yn mynd i roi prawf i Mr Jenkins ar y diwrnod yr oedd i fod i adael yr ysbyty.
Roedd Mr Jenkins o Gwmbrân wedi cael prawf 48 awr cyn iddo gael caniatâd i adael ond mae canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi y gallai cleifion gael eu heintio wedi'r prawf a bod sawl cartref gofal yn mynnu bod cleifion yn cael prawf ar y diwrnod y maent yn gadael yr ysbyty.
'Staff ddim yn deall y rheolau'
Dywed Ms Thomas a Ms Rusby eu bod wedi cwyno'n swyddogol dair gwaith ac wedi treulio oriau ar y ffôn yn sicrhau bod eu tad yn cael y prawf "olrhain cyflym" - prawf a oedd yn dangos y canlyniad mewn dwy i bedair awr, ac un yr oedd yn cartref yn mynnu ei gael.
Yn ôl Ms Thomas doedd y nyrs gyntaf y siaradodd â hi ddim i weld yn deall y canllawiau profi.
"Dywedodd wrthyf fod yr ysbyty wedi stopio gwneud y prawf bythefnos yn ôl", meddai Ms Thomas.
"Yr ail dro i fi ffonio bu'n rhaid i fi ddweud wrthi fy mod wedi siecio ar-lein bod y prawf yn bodoli a bod angen ei gynnal. Ro'n i wedi dychryn.
"Ro'n ni mor lwcus bod y cartref nyrsio yn dal eu tir ynghylch cael y prawf ond roedd yr ysbyty yn gwneud popeth i fynd yn groes i'r polisi."

Roedd Mr Jenkins yn glaf "ym mharth coch" yr ysbyty ond fe wellodd o'i salwch
Dywedodd Ms Rusby: "Fe wnes i siarad â nifer o bobl - meddygon, nyrsys ac roedd pawb yn dweud wrthai nad oedd e angen prawf olrhain cyflym. Mae'r peth yn anghredadwy.
"Roedden nhw'n benderfynol mai eu polisi newydd oedd prawf 48 awr.
"Roedden nhw'n fodlon iddo fynd allan heb y prawf 48 awr."
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod canlyniadau 62% o brofion coronafeirws mewn ysbytai yn cyrraedd o fewn 24 awr.


Dywed Mario Kreft, cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, nad yw staff rheng flaen wastad yn ymwybodol o'r newid mewn polisi.
"Mae cyfathrebu yn gallu bod yn broblem," meddai. "Wrth i ganllaw newid a dehongliadau unigol gael eu gwneud ar draws Cymru, does yna ddim cysondeb ac yn naturiol mae pobl yn ddryslyd.
"Ac mae'r dryswch yn gallu arwain at oedi a phob math o broblemau eraill."
Dywed Llywodraeth Cymru bod eu polisi profi wedi newid wrth i gyngor gwyddonol newid a bod cyfathrebu wedi bod yn hanfodol mewn sefyllfa a oedd yn newid yn gyflym.
Dywedodd llefarydd: "Ry'n yn gweithio gyda phartneriaid cyn cyhoeddi unrhyw newid mewn polisi ac yn sicrhau fod pawb yn cael gwybodaeth gywir, amserol a chyfredol."
Rhannu gwybodaeth â staff
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi estyn ymddiheuriad i deulu Mr Jenkins: "Mae'n ddrwg gennym glywed am y pryderon hyn a godwyd gan deulu Mr Jenkins a byddem yn eu hannog i gysylltu â ni'n uniongyrchol fel y gallwn ymchwilio i'r mater hwn.
"Rydym wedi gweithio gyda'n pum Awdurdod Lleol yng Ngwent i ddatblygu Gweithdrefn Weithredu Safonol i gefnogi gollyngiadau amserol, diogel o'r ysbyty i gartrefi gofal. Mae'r weithdrefn hon yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
"Mae'r Bwrdd Iechyd wrthi'n gweithio i sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o gynnwys a disgwyliadau'r weithdrefn hon, gan gydnabod bod canllawiau newydd yn cael eu diweddaru yn gyflym."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2020
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2020