Profion coronafeirws yn achos ffrae rhwng llywodraethau

  • Cyhoeddwyd
Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Vaughan Gething wedi rhoi'r gorau i dargedau profion yng Nghymru

Mae yna ffrae rhwng llywodraethau Cymru a'r DU ar ôl beirniadaeth o weinidogion Bae Caerdydd am roi'r gorau i dargedau ar gyfer profion coronafeirws.

Wrth siarad yn San Steffan ddydd Mercher dywedodd Ysgrifennydd Tramor y DU, Dominic Raab y dylai'r holl lywodraethau weithio gyda'i gilydd gan feirniadu Cymru am roi'r gorau i dargedau.

Yn ôl Mr Raab roedd hi'n "bwysig cael targed ac i yrru tuag at y targed hwnnw".

Ond gwrthod y feirniadaeth mae Llywodraeth Cymru.

Mewn ymateb dywedodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates, nad oedd Mr Raab "yn iawn i fod yn feirniadol o Lywodraeth Cymru ac enwi gweinidogion Cymru... mewn modd mor gyhoeddus".

Methu targedau

Ddydd Llun fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, gadarnhau na fyddai targedau newydd ar gyfer profion Covid-19 yn cael eu gosod.

Daeth hynny wedi i'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething adolygu'r targed gwreiddiol o 5,000 o brofion y dydd erbyn canol mis Ebrill.

Y capasiti dyddiol ar hyn o bryd yng Nghymru yw 1,300 o brofion y diwrnod.

Ond mae Llywodraeth y DU hefyd wedi methu eu targed hwythau o 100,000 o brofion y dydd erbyn diwedd y mis.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dominic Raab yn llenwi esgidiau Boris Johnson yn sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog ddydd Mercher

Yn ôl Mr Raab maen nhw wedi llwyddo i gyrraedd 40,000 y dydd, ond mae Llafur yn dweud fod y ffigwr yn agosach at 20,000.

Yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog, ble roedd Mr Raab yn ateb cwestiynau yn absenoldeb Boris Johnson, dywedodd: "Dwi'n meddwl y dylai [Keir Starmer, yr arweinydd Llafur] ymuno â fi, wrth i ni ymroi i'r ymdrech genedlaethol yma, o ddweud wrth Weinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething - sydd wedi gollwng y targed yng Nghymru, dan arweiniad Llafur, o 5,000 o brofion - fod angen i ni weithio gyda'n gilydd, ym mhob cornel o'r Deyrnas Unedig, i wneud yn siŵr bod pob cornel o'r Deyrnas Unedig yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod ni'n gwireddu'r ymdrech genedlaethol."

Wrth daro nôl yn erbyn beirniadaeth Dominic Raab, dywedodd Ken Skates mai bwriad strategaeth Llywodraeth Cymru oedd "blaenoriaethu cynnal profion ar y rheng flaen".

Ychwanegodd Mr Skates nad oedd gan Mr Raab "hawl i fod yn feirniadol o Lywodraeth Cymru, i enwi gweinidogion".

"Dydw i ddim yn gwybod am unrhyw wleidydd, o unrhyw blaid, nad y'n nhw'n rhoi eu holl ymdrech i'r frwydr o daclo'r coronafeirws," meddai.

"Mae bai arno am feirniadu, mae bai arno am wneud hynny mewn ffordd mor gyhoeddus."

Tai haf

Yn ystod y gynhadledd fe wnaeth Mr Skates hefyd ddweud y byddai Llywodraeth Cymru yn "fwy na pharod" i ystyried rhoi pwerau ychwanegol i'r heddlu i allu atal pobl rhag teithio i'w hail gartrefi yn ystod y pandemig.

Roedd Mr Skates yn ymateb i lythyr gan grŵp o uwch feddygon yn galw ar Mark Drakeford i wneud y defnydd o ail gartref yn anghyfreithlon yn ystod argyfwng Covid-19.

Ychwanegodd Mr Skates ei bod hi'n "gamgymeriad" i'r DU beidio â chymryd rhan mewn cynllun gan yr Undeb Ewropeaidd i brynu offer meddygol.

Dywedodd na fyddai'n "efelychu Dominic Raab a beirniadu unigolion" ond y dylai Llywodraeth y DU wedi "manteisio ar y cyfle i weithio gyda llywodraethau eraill i oresgyn yr her rydyn ni i gyd yn ei wynebu".

Ffynhonnell y llun, zetat/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae targedau wedi profion wedi profi'n anodd i'w cyrraedd yng Nghymru a Lloegr

Yn y cyfamser, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau 15 marwolaeth arall o Covid-19 gan ddod â'r cyfanswm swyddogol i 624.

Nid yw'r ffigwr yma o reidrwydd yn cynnwys marwolaethau coronafeirws yn y gymuned neu mewn cartrefi gofal.

Maen nhw hefyd wedi cadarnhau 274 o achosion newydd o'r haint, gan ddod â'r cyfanswm i 8,124 - er bod y gwir nifer yn debygol o fod yn llawer uwch.