Rheolau rhoi gwaed yn 'creu stigma' am ddynion hoyw

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Covid-19: 'Dylai pwy bynnag all roi gwaed gael cyfrannu'

Mae yna alwadau dros newid y rheolau ynglŷn â gallu dynion hoyw i roi gwaed a phlasma gwaed yn sgil yr argyfwng coronafeirws.

Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i ddynion hoyw neu ddeurywiol aros am gyfnod o dri mis, ar ôl cael rhyw gyda dyn arall, cyn medru rhoi gwaed neu blasma.

Mewn arbrofion yn ystod yr argyfwng coronafeirws, mae plasma gwaed o bobl sydd wedi gwella o'r feirws wedi ei roi i ddioddefwyr eraill, er mwyn gweld a ydy'r gwrthgyrff yn y plasma yn fodd o drin yr haint.

Dyw hi ddim yn bosib i ddynion hoyw fod yn rhan o'r arbrawf, oni bai eu bod nhw'n cydymffurfio â'r rheolau presennol.

Dywedodd llefarydd bod Llywodraeth Cymru "am i gynifer o bobl â phosibl gael y cyfle i roi gwaed os gallant wneud hynny'n ddiogel".

Tan 2011, doedd hi ddim yn bosib i ddynion hoyw roi gwaed o gwbl yn sgil pryder am heintiau fel HIV.

Ar hyn o bryd, mae grŵp arbenigol yn asesu a fyddai modd llacio'r rheolau yn seiliedig ar asesiad risg unigol neu beidio.

Mae gwasanaethau gwaed Prydain ynghyd â grwpiau LGBT+ yn cyfrannu at y gwaith. Mae disgwyl i'r astudiaeth (FAIR) gyflwyno casgliadau erbyn diwedd y flwyddyn.

'Dod 'nôl â'r stigma'

Yn ôl Llyr Williams, 26 oed o Sir Benfro, mae'r rheolau presennol yn annheg ac mae angen cyflymu'r adolygiad yn sgil argyfwng Covid-19.

"Mae hyn yn rhoi cwplau priod a chwplau eraill dan anfantais, a gyda nifer o gategorïau eraill mae'r gwasanaeth gwaed wedi mudo i asesu risg unigol ac er bod nhw'n edrych mewn i hwn nawr o dan y cwestiwn o bobl hoyw a deurywiol yn rhoi gwaed, fydd yna ddim darganfyddiadau nes diwedd y flwyddyn.

"Gyda'r pwyslais o ran gwaed gyda'r argyfwng sydd ohoni, a nawr fod y profion plasma 'ma wedi dod 'nôl a'r cwestiwn yma unwaith eto, mae'n amser i ddod mlaen â'r darganfyddiadau 'ma ac edrych mewn i asesiadau risg unigol.

"Mae'n dod 'nôl â'r stigma sydd erioed wedi bodoli bod gwaed pobl hoyw yn frwnt, ac mae'n dod â phethau [oedd] yn bodoli yn Section 28.

"Er bod y ban wedi cael ei dynnu nôl, dyw e dal ddim yn ddigon os ydyn nhw yn gallu mudo i'r asesiad risg unigol. Mae angen cyflymu'r gwaith ar frys."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cai Wilshaw bod y risg o dderbyn gwaed heintiedig yn isel iawn

Yn ôl sylwebydd ar faterion LGBT+, Cai Wilshaw, mae angen ystyried achosion yn unigol.

"Mae'n llawer mwy synhwyrol i fod yn cymryd barn unigol yn edrych ar ymddygiad pobl... yn hytrach na sail rhywioldeb rhywun a stopio grŵp enfawr o bobl rhag rhoi gwaed.

"Mae profi gwaed, sy'n cael ei roi gan y system iechyd, yn llawer mwy effeithiol nag oedd e, felly mae'r risg i bobl o gael gwaed heintiedig yn llwyr, llwyr isel."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "cymhwysedd ar gyfer rhoi gwaed a phlasma'r un fath ar gyfer holl wasanaethau gwaed y DU", a'u bod "am i gynifer o bobl â phosibl gael y cyfle i roi gwaed os gallant wneud hynny'n ddiogel".

"Ar hyn o bryd mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn cymryd rhan mewn adolygiad fel rhan o astudiaeth FAIR (For the Assessment of Individualised Risk) ac mae i fod i adrodd yn ddiweddarach eleni."