Pryder am forfil mewn trafferth yn afon Dyfrdwy

  • Cyhoeddwyd
MorfilFfynhonnell y llun, Gem Simmons/British Divers Marine Life Rescue
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryderon na fydd y morfil yn goroesi'r profiad

Mae morfil aeth i drafferthion yn aber yr afon Dyfrdwy ddydd Gwener yn sownd yn yr un lleoliad unwaith eto.

Roedd na obaith fod y morfil 30 troedfedd o hyd wedi dychwelyd i'r môr pan welwyd o'n nofio yno bnawn ddoe.

Ond erbyn bore dydd Sadwrn roedd y morfil wedi dychwelyd i'r un lle oddi ar yr arfordir ger Maes-glas yn Sir y Fflint.

Y gred yw mai dim ond chwech neu saith mis oed yw'r llo morfil, ac mae swyddogion o elusen British Divers Marine Life Rescue (BDMLR) yn asesu ei gyflwr.

Dywedodd datganiad gan BDMLR ar eu tudalen Facebook: "Ein pryder mwyaf nawr yw nid yn unig fod yr anifail wedi dychwelyd i aber yr afon ar ôl gadael, ond erbyn i'r llanw ddod i mewn eto erbyn amser cinio heddiw fe fydd wedi treulio cyfnod sylweddol o amser allan o'r dŵr."

Ffynhonnell y llun, Graham Barber

Dywedodd llefarydd nad oes modd i forfilod gynnal eu pwysau eu hunain ar dir, ac felly mae perygl iddo "achosi difrod mewnol sylweddol iddo'i hun" yn y fath sefyllfa.

Gan fod y morfil wedi treulio amser sylweddol allan o'r dŵr mae na bryderon na fydd modd iddo oroesi.

"O achos maint a phwysau'r anifail a daearyddiaeth yr ardal, nid yw'n bosib symud yr anifail yn agosach at y dŵr er mwyn cynnig cymorth i ysgafnhau'r pwysau ar ei gorff", meddai'r llefarydd.

Ffynhonnell y llun, Graham Barber

"Byddai llusgo'r anifail gerfydd ei gynffon yn achosi anafiadau sylweddol ac nid yw'n opsiwn. Fe y gwnaethon ni sôn ddoe, byddai rhoi'r anifail i gysgu yn hynod o anodd o achos nifer o resymau sydd yn gysylltiedig a'i faint.

"Mae'n ein tristhau i ddweud fod y rhagolygon heddiw'n edrych yn llai gobeithiol."

Ffynhonnell y llun, Arall