Hud siopau llyfrau yn rhoi gwên ar wyneb plant

  • Cyhoeddwyd
Eirian
Disgrifiad o’r llun,

Eirian James o Palas Print, Caernarfon

O ddydd Llun ymlaen bydd siopau llyfrau ar draws Cymru yn medru gweld eu cwsmeriaid wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers dechrau'r cyfnod clo.

Cymru Fyw sydd wedi clywed sut mae perchnogion siopau llyfrau wedi gwneud llawer mwy na symud ar-lein i helpu cynnal eu cymunedau drwy'r misoedd anodd diwethaf.

Er bod drysau Siop a Galeri Penrallt ym Machynlleth wedi bod ar gau oherwydd y cyfyngiadau, mae'r perchnogion Diane Bailey a'i gŵr Geoff Young, wedi bod yn gweithio'n galetach nag erioed.

Fe sylweddolodd Diane bod ganddi nifer o lyfrau plant hyfryd ac na fyddai'r rhain mor newydd erbyn y cyfnod pan fyddai'r siop yn ailagor.

Fe benderfynodd ar gynllun sydd wedi bod yn llwyddiant.

'Siop lyfrau hud'

Gwnaeth arddangosfa o'r llyfrau yn y ffenest a'u cynnig am ddim i'r gymuned. Roedd plant yn gallu dewis llyfr o'r ffenestr unwaith yr wythnos a threfnu amser i ddod i'w gasglu.

"Mae wedi bod yn wych i weld y plant yn troi fyny, hyd yn oed yn rhedeg lawr y ffordd i'r siop lyfrau ac yn trafod y llyfr hwn neu'r llall neu'r awdur yma," meddai Diane.

Roedden nhw'n lapio'r llyfr mewn papur lliwgar wedi ei ailgylchu a'u gadael ar y stepen drws ac mae'n dweud fod y plant yn ei gweld hi bron fel siop lyfrau hud.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Y nodiadau mae'r plant wedi postio trwy ddrws Siop a Galeri Penrallt yn gofyn am un o'r llyfrau sydd yn y ffenestr siop

"'Da ni'n gwybod o'r adborth 'da ni wedi derbyn bod hyn wedi cydio gyda phlant sydd hyd yn oed ychydig yn gyndyn i ddarllen," meddai.

"Mae hynny wedi'n cadw ni'n hapus. Yn aml dydyn nhw ddim yn ein gweld ni am fod y drws ar gau pan maen nhw'n cyrraedd."

Ers cychwyn y cynllun ym mis Mai mae'r perchnogion wedi ymateb i 350 o geisiadau am lyfrau gan blant.

Profiad 'gwahanol'

Yn ôl Diane mae hi wedi bod yn brofiad gwahanol iawn i'r dyddiau pan oedd cwsmeriaid yn dod mewn i'r siop ac yn byseddu ambell lyfr ar y silffoedd cyn gwneud y dewis a dod at y til.

Rŵan cysylltiad amhersonol ar y we neu ar y ffôn ydy hi.

"Dydyn ni ddim yn rhy hoff o'r ffordd yma am nad oes ganddo ni gymaint o gysylltiad gyda'n cwsmeriaid," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweld bod plant y dref wedi bod yn mwynhau darllen y llyfrau wedi gwneud i Diane Bailey deimlo yn siriol

"Mae wedi bod yn ddiddorol ond mae wedi golygu llawer mwy o oriau er mwyn parhau i gynnig y gwasanaeth," medd Diane gan egluro eu bod wedi bod yn gweithio chwe diwrnod yr wythnos.

Gwerthiant draean yn is

Dywed fod gwerthiant wedi gostwng i ryw draean yr hyn oedd ond eu bod nhw'n llwyddo i ddal eu pen uwchben y dŵr a hynny'n rhannol am eu bod nhw'n byw uwchben y siop sy'n golygu bod ganddyn nhw lai o gostau cyffredinol.

Am nad yw'r siop ar stryd fawr Machynlleth mae'n dweud nad oedd rhai pobl yn mentro lawr i'w stryd nhw.

Er hynny maen nhw wedi denu cwsmeriaid newydd.

"'Da ni wedi denu pobl oedd a) ddim yn gwybod ein bod ni yma neu b) efallai ddim yn gwybod ein bod ni yn gwerthu llyfrau plant.

"'Da ni wedi sefydlu perthynas hyfryd iawn mewn nifer o achosion gyda'r oedolion a'r plant...

"Dwi'n teimlo bydd y siop a'r ffenestr yn cael ei gofio beth bynnag ac mae'n siŵr y bydd yn gwneud gwahaniaeth."

Ffynhonnell y llun, Siop lyfrau Browsers
Disgrifiad o’r llun,

Pryderu am ddyfodol y siop oedd Sian Cowper i ddechrau ond ers hynny mae wedi bod yn brysur yn helpu'r gymuned

"Dyna ddiwedd ar ein siop lyfrau bach ni!"

Dyna oedd ymateb cyntaf Sian Cowper o Borthmadog, wrth glywed bod rhaid cau pob busnes oni bai am rai hanfodol.

Ond, wedi dyddiau o glywed am effeithiau'r pandemig ar deuluoedd a'r gymuned leol penderfynodd "wneud be fedrwn ni ynglŷn â phethau."

Ers hynny, ar ôl cael cyngor meddygol am ba hyd y gall haint aros ar nwyddau gwahanol, mae'n gadael bagiau elusen o lyfrau a nwyddau crefft wrth ddrws siop Browsers yng nghanol Porthmadog i bobl leol eu casglu am ddim wrth fynd heibio.

'Codi calon'

Yna mae wedi mynd ati i rannu bagiau trwy fanciau bwyd, ysgolion a theuluoedd maeth lleol. Mae dros 400 wedi'u rhannu erbyn hyn.

"Dydy'r bagiau ddim yn rhywbeth wneith newid bywyd neb ond o'n i'n gobeithio buasen nhw'n codi gwên, codi calon, neu rhoi ugain munud i mam neu dad cael panad ddistaw tra oedd y plant yn lliwio, darllen, chwythu swigod ac yn y blaen," meddai.

Mae Sian hefyd wedi dechrau cynllun enwebu plant ac oedolion unigolion sy'n gwneud gwahaniaeth i'r gymuned ers dechrau'r pandemig, gan roi hamper llawn rhoddion busnesau lleol iddyn nhw fel arwydd o ddiolchgarwch - cam sydd hefyd yn hybu'r busnesau mewn cyfnod heriol.

"Rwy'n ymwybodol o lawer o bobol ifanc sydd wedi bod yn edrych ar ôl brodyr a chwiorydd, siopa i bobol leol ac yn y blaen ac mae'n bwysig iddynt gael cydnabyddiaeth hefyd."

Ffynhonnell y llun, Browsers, Porthmadog

Daw cefnogaeth i'r siop o Brydain i gyd a hyd yn oed o America, meddai.

"Mae llawer iawn o'n cwsmeriaid, yn enwedig y rhai hŷn sy'n byw ar ben eu hunain wedi gwerthfawrogi gallu archebu llyfrau ar-lein yn enwedig y cyfle i siarad â rhywun," meddai.

Mae Sian yn cydnabod nad ydy'r camau hyn "i gyd yn hollol anhunanol," yn y gobaith "fydd pobl yn cofio Browsers Bookshop wedi i hyn i gyd orffen ac yn ein cefnogi ni'n fawr."

Fe benderfynodd Eirian James o Palas Print gau cyn y cyhoeddiad swyddogol am y cyfnod clo, a felly hefyd siopau annibynnol eraill sydd ar yr un stryd yng Nghaernarfon.

Roedd hi wedi darogan yn gywir y byddai prysurdeb am wythnos neu ddwy wrth i bobl holi am lyfrau roedden nhw eisiau eu casglu.

Ond mae wedi synnu fod y prysurdeb wedi para. Reit ar y cychwyn roedd llawer iawn o rieni yn cysylltu eisiau adnoddau i ddysgu eu plant gartre.

"O'dd y ffôn yn canu yn y tŷ, o'dd yna archebion yn dod i mewn ar-lein.

"O'dd yna e-byst yn dod i mewn yn gofyn tybed ydy hi yn bosib i ni gael y llyfrau yma, a gyda phob un ymholiad o'n i yn mynd, reit nawr te ydw i yn gallu gwneud hyn mewn ffordd ddiogel, ydy e yn briodol mod i yn gwneud hyn, ydy o yn iawn mod i yn gwneud hyn?"

Roedd trafod gyda siopau eraill a chael cyngor gyda'r Booksellers Association o gymorth mawr, meddai.

Hanfodol i rhai

Roedd clywed gan rai yn y gymdeithas pa mor bwysig oedd y siop hefyd yn ei hargyhoeddi ei bod hi'n iawn i gynnig gwasanaeth i bobl sydd ei angen.

"Mi wnaeth cwpl o gwsmeriaid, er enghraifft nyrs sydd yn gweithio yn intensive care yn Ysbyty Gwynedd, ac un o staff y cyngor ddweud bod y ffaith bod ni yn gallu cynnig y gwasanaeth yna yn essential iddyn nhw allu cario ymlaen efo'u gwaith."

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae wedi defnyddio'r cyfnod roedd y llywodraeth yn caniatáu i bobl wneud ymarfer corff er mwyn dosbarthu llyfrau ar droed neu ar ei beic i'w chwsmeriaid.

"'Da ni hefyd, unwaith yr wythnos, yn mynd am drip yn y car yn dosbarthu i bentrefi cyfagos o fewn pum milltir i bobl sydd eisiau dosbarthiad i'r cartref."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae clwb gwnïo a chrosio wedi creu enfys i 'w rhoi yn ffenestr siop Palas Print

Wrth ddweud ei bod wedi cael cwsmeriaid newydd a rhai tu hwnt i'r clawdd Offa, mae'n sylweddoli bod rhai yno "dros dro" am fod eu siopau llyfrau lleol nhw ar gau.

"Dwi yn awyddus bod y bobl yna yn mynd yn ôl i'w siopau llyfrau lleol nhw pan mae'r siopau yna'n gallu agor, achos mae'r rhwydwaith siopau llyfrau yn holl bwysig i Gaernarfon, i Gymru.

"Hynny yw, s'dim pwynt cael un siop lyfrau mewn un lle a ddim yn unlle arall," meddai.

Mae ei gwerthiant ar lein wedi cynyddu ond mae cwsmeriaid hefyd yn gwerthfawrogi'r angen i gefnogi'r siop.

Pwysigrwydd y siop lyfrau

"Mae 'na bobl yn d'eud o'ddan ni wastad yn dod mewn i'r siop i brynu llyfrau gennoch chi ond weithiau bydden ni yn prynu nhw ar-lein o rywle arall.

"Ond wedyn nawr maen nhw yn sylweddoli galla i brynu fo ar-lein gen ti ac mae o yn bwysig mod i yn gwneud hynna achos dwi isio bod y siop yna ar ôl hwn i gyd."

Mae Palas Print yn siop gymdeithasol iawn fel arfer efo llawer o gwsmeriaid yn dod yno i drafod llyfrau a hyd yn oed cymdeithasau fel criw Ar y Gweill sef clwb gwnïo a chrosio sydd yn cyfarfod yno ar nos Fercher.

Fe wnaeth y cylchoedd darllen i blant a'r criw gwnïo gario mlaen ar Zoom a gwau enfys anferth ar gyfer ffenest y siop.

'Araf deg'

Ar Zoom hefyd fydd digwyddiadau Wythnos y Siopau Llyfrau Annibynnol wythnos nesaf yn cynnwys sesiynau gyda'r awduron Jon Gower a Mike Parker, Bet Jones yn lansio cyfrol a Casi William efo rhywbeth i blant.

Fe ddaeth y clo mawr yn sydyn ond fe fydd y broses o ddod allan ohono "yn araf deg bach".

"Mi fyddwn ni cyn bo hir yn gadael i bobl ddod at y drws i gasglu," medd Eirian James, "ac wedyn falle i mewn i ffrynt y siop ond y cam nesaf yw hynny."