Ail don y feirws yn 'ddigon i ddinistrio economi Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Roger Jones

Mae cyn-gadeirydd Awdurdod Datblygu Cymru a sefydlydd un o gwmnïau fferyllol mwyaf Cymru, Syr Roger Jones, wedi dweud y byddai ail don o'r pandemig coronafeirws yn "ddigon i ddinistrio economi Cymru".

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C dywedodd y byddai'n cymryd blynyddoedd i adfer yr economi.

Ond rhybuddiodd fod yn rhaid cadw "pethau'n dynn" gan na allai Cymru fforddio ail don o'r haint.

Daw sylwadau Syr Roger wrth i Lywodraeth Cymru gynnal eu hadolygiad tair wythnosol o'r cyfyngiadau sydd mewn grym i geisio atal ymweliad y feirws.

Disgrifiad,

Syr Roger Jones: "Byddai ail don yn dinistrio economi Cymru"

Mae siopau a busnesau yn y sector twristiaeth yng Nghymru wedi bod yn rhoi pwysau ar Mark Drakeford i lacio rhywfaint ar y mesurau, fel sydd eisoes wedi digwydd yn Lloegr.

Mae Mr Drakeford wedi dweud ei fod yn awyddus i'r economi aildanio, ond bod yn rhaid iddo roi blaenoriaeth i iechyd y cyhoedd.

Dywedodd Syr Roger fod yr economi yn dioddef ond bod yn rhaid bod yn ofalus neu gall llacio yn rhy gynnar wneud pethau'n waeth.

"Mae hyn yn mynd i gostio i ni," meddai.

"Os ni ddim yn cael dod ag ymwelwyr i Gymru mae hynny yn mynd i greu trafferthion i ni.

"Ond beth allai ddigwydd os nad ydym ni yn cadw pethau yn dynn?

"Y peth gwaetha allwn ni wneud yw cael second peak. Byddai hynny'n dinistrio economi Cymru.

"Mae'n mynd i wneud o mor hir, hirach fyth i ddod allan ohono fo yn y dyfodol."

Mae Syr Roger, sefydlydd cwmni Penn Pharmaceuticals yn y 1980au, hefyd o'r farn fod yna ormod o bwyslais wedi bod ar geisio dod o hyd i frechlyn, yn hytrach na thriniaethau eraill hefyd.

"Os nad oes yna vaccine yn mynd i ddod, be 'da ni'n mynd i wneud? Oedd 'na ddim Plan B.

"A dwi'n credu dyla fod Plan B i rwystro'r feirws 'ma symud."

Wrth sôn am y posibilrwydd o ddod o hyd i frechlyn yn fuan dywedodd "welwn ni ddim o 'leni - hwyrach welwn ni ddim o am flwyddyn eto."