Rhybudd am 'ddinistr' posib i dwristiaeth yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio y gallai'r diwydiant twristiaeth gael ei "ddinistrio" gan y pandemig coronafeirws os nad yw'r llywodraeth yn gwneud mwy i'w helpu.
Dywedodd Helen Mary Jones AS y dylai'r Canghellor ymestyn ei gynllun saib-o'r-gwaith (furlough) y tu hwnt i fis Hydref er mwyn gwarchod gweithwyr mewn sector sy'n "hanfodol" i economi Cymru.
Mae San Steffan yn dweud eu bod eisoes wedi cynnig cymorth "digynsail" i'r diwydiant, a'u bod am annog pobl i fynd ar wyliau yn y DU "unwaith mae'n saff i wneud hynny".
Ychwanegodd Llywodraeth Cymru eu bod yn siarad â chynrychiolwyr o'r sector bob wythnos, a'u bod nhw hefyd yn paratoi rhagor o gefnogaeth ariannol.
'Ergyd i'r economi leol'
Gyda chyfyngiadau teithio'n parhau yng Nghymru - a safleoedd twristiaeth a llecynnau harddwch ar gau beth bynnag - mae'r diwydiant ymhlith y rheiny sydd wedi'u heffeithio fwyaf gan y pandemig.
Yr wythnos diwethaf fe gyfaddefodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates y gallai fod yn Basg 2021 cyn i'r diwydiant ddechrau masnachu'n iawn unwaith yn rhagor.
Os yw hynny'n wir, meddai Plaid Cymru, mae angen i lywodraethau Cymru a'r DU baratoi "cefnogaeth hir dymor" er mwyn sicrhau bod y diwydiant yn gallu goroesi nes hynny.
"Rydyn ni eisoes wedi gweld effaith ariannol y cyfnod clo ar gymunedau gwledig, ble mae canran uchel o weithwyr tymhorol," meddai Ms Jones, llefarydd y blaid ar yr economi.
Dywedodd un perchennog busnes ym Machynlleth fod y gefnogaeth yr oedd wedi'i dderbyn "ddim yn ddigon i wneud yn iawn am y colledion" ac nad oedd yn gallu fforddio gwneud y newidiadau angenrheidiol er mwyn sicrhau bod modd ymbellhau'n gymdeithasol.
"Dwi'n cadw staff drwy gydol y flwyddyn heb eu diswyddo yn y tymhorau mwy distaw," meddai Charles Dark, sy'n rhedeg gwesty'r Wynnstay yn y dref.
"Dwi hefyd yn prynu'r rhan fwyaf o'n cynnyrch yn lleol, felly os nad yw'r gwesty ar agor mae'r economi leol yn colli'r oddeutu £1.5m 'dyn ni'n cyfrannu iddo bob blwyddyn."
Furlough 'ddim digon hyblyg'
Er bod y cynllun saib-o'r-gwaith yno er mwyn helpu busnesau i gadw eu staff, drwy dalu 80% o'u cyflogau yn ystod y cyfnod, dydy hynny ddim yn ddigon yn ôl perchennog cwmni Vale Holiday Parks.
"Pan mae'n brysur 'dan ni'n cyflogi tua 200 yn y parciau, ond dydy'r cynllun furlough ddim digon hyblyg i ni allu rhoi'n gweithwyr i gyd arno," meddai Thomas Scarrott.
"Mae hynny'n cynnwys pobl gyda sgiliau arbenigol i gynnal a chadw pethau fel y nwy, trydan, gwastraff a chyflenwad dŵr."
Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn cefnogaeth eu Cronfa Cadernid Economaidd, ac ar Lywodraeth y DU i ymestyn y cynllun saib-o'r-gwaith ar gyfer sectorau bregus.
"'Dyn ni angen hyblygrwydd yn y cynllun furlough er mwyn i rai gweithwyr allu mynd yn ôl rhan amser i weithio ar bethau fel cynnal a chadw hanfodol ac addasiadau ar gyfer ymbellhau cymdeithasol," meddai Helen Mary Jones.
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "hynod ymwybodol o'r problemau sy'n wynebu'r economi ymwelwyr".
"Ar hyn o bryd rydyn ni'n llunio manylion terfynol am gam nesaf y Gronfa Cadernid Economaidd, yr ydyn ni'n disgwyl y bydd ar agor erbyn diwedd mis Mehefin," meddai llefarydd.
"Rydyn ni'n parhau i godi gyda Llywodraeth y DU yr angen am gefnogaeth ychwanegol i bob busnes yn y sector hwn."
Dywedodd Llywodraeth y DU fod eu cefnogaeth i'r sector yn cynnwys "pecyn digynsail i amddiffyn swyddi a busnesau yng Nghymru", gan gynnwys £2.2bn i Lywodraeth Cymru.
"Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda'r diwydiant twristiaeth i gynllunio at y dyfodol ac unwaith bydd hi'n saff i wneud, byddwn yn annog pobl i archebu gwyliau yn y DU," meddai llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2020
- Cyhoeddwyd23 Mai 2020
- Cyhoeddwyd16 Mai 2020