Colli 57 o swyddi wrth i ffatri Laura Ashley gau

  • Cyhoeddwyd
Safle Laura AshleyFfynhonnell y llun, LDRS
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd prif weithredwr Laura Ashley bod "amser a digwyddiadau wedi mynd yn ein herbyn"

Bydd ffatri Laura Ashley yng nghanolbarth Cymru yn cau fis nesaf, gyda 57 o swyddi'n cael eu colli.

Mae staff y warws a'r ganolfan alwadau yn Y Drenewydd wedi cael gwybod nad yw'r cwmni wedi canfod prynwr mewn pryd i achub y busnes.

Fe aeth y cwmni dodrefn a dillad i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Mawrth.

"Mae hi mor drist ac mor anodd i'r gweithlu a'u teuluoedd - bydd yn cael effaith enfawr ar yr ardal," meddai'r cynghorydd lleol, Joy Jones.

Dywedodd prif weithredwr y cwmni, Katherine Poulter bod "amser a digwyddiadau wedi mynd yn ein herbyn" o ran ceisio canfod prynwr ar gyfer y stoc a'r safle.

Ym mis Ebrill fe wnaeth 25 o staff y ffatri ddychwelyd i'w gwaith i greu dillad i'r gwasanaeth iechyd fel rhan o'r ymdrech i ddelio â coronafeirws.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae bron i hanner y 147 o siopau Laura Ashley ar draws y DU wedi cau yn barhaol

Dywedodd gweinyddwyr y cwmni, PricewaterhouseCoopers bod y newyddion yn "siomedig dros ben".

"Rydym yn edifar bod rhaid i ni gyhoeddi diswyddiadau ar gyfnod sydd eisoes yn un heriol," meddai llefarydd.

Ychwanegodd eu bod yn parhau'n obeithiol o ganfod prynwr ar gyfer nifer o siopau'r cwmni.

Mae rhai o'r 147 o siopau Laura Ashley wedi ailagor yn sgil llacio cyfyngiadau coronafeirws, ond mae 70 wedi cau yn barhaol.

Dywedodd yr Aelod Senedd Ceidwadol lleol, Russell George, fod y newyddion yn "ergyd ysgytwol na fyddai wedi gallu dod ar amser gwaeth wrth inni wynebu caledi o ganlyniad i'r pandemig.

"Rwyf hefyd yn bryderus fod y pandemig Coronafeirws yn tynnu oddi ar beth fyddai wedi bod yn stori sylweddol mewn cyfnod arferol."