Y cwmni bach o'r Canolbarth ddaeth yn frand byd-enwog

  • Cyhoeddwyd
Casgliad o ffrogiau Laura Ashley cafodd eu arddangos yn Amgueddfa Ceredigion yn 2017
Disgrifiad o’r llun,

Casgliad o ffrogiau Laura Ashley cafodd eu arddangos yn Amgueddfa Ceredigion yn 2017

Mae brand blodeuog Laura Ashley wedi bod yn gyfarwydd ar hyd a lled y byd ers degawdau. Bellach, mae'r cwmni - oedd yn cyflogi dros 800 o weithwyr yng Nghanolbarth Cymru ar un adeg - wedi mynd i ddwylo'r gweniyddwyr. Dyma Cymru Fyw yn cymryd cipolwg ar hanes y cwmni ac ar y ffasiwn wnaeth fynd â bryd cenhedlaeth gyfan - o gystadleuwyr cerdd dant a gwesteion priodas i Diana, Tywysoges Cymru.

(Lluniau o arddangosfa ffasiwn Laura Ashley yn Amgueddfa Ceredigion, 2017)

line

Pwy oedd Laura Ashley?

Laura Ashley oedd yn gyfrifol am liwio'r diwydiant ffasiwn yn ystod yn 1970au, yn ôl y steilydd Huw 'Fash' Rees.

"Roedd yn gynllunydd wnaeth ddylanwadu ar gymaint o gynllunwyr eraill," meddai. "Daeth â steil cefn gwlad i'r ddinas. Roedd ei ffrogiau diniwed, ffwrdd â hi yn cael eu gwisgo a'u casglu gan llu o ddilynwyr i gyd yn prynu fewn i'r ddelwedd Prydeinig."

Ganwyd Laura Mountney yn Nowlais, Merthyr Tudful. Cafodd ei haddysg yn Llundain ond daeth yn ôl i Gymru cyn yr Ail Ryfel Byd yn 1938 am flwyddyn cyn dychwelyd i'r ddinas lle cyfarfodd Bernard Ashley ac fe briododd y ddau yn 1949.

Yn 1953, dyma nhw'n sefydlu cwmni Laura Ashley gan ddylunio a phrintio defnydd yn eu cegin yn Llundain.

Laura Ashley: Y cynllunydd ifanc wrth ei gwaith
Disgrifiad o’r llun,

Llun o'r cynllunydd ifanc wrth ei gwaith

O'r cychwyn, roedd Laura'n defnyddio cynlluniau gwledig, rhamantaidd a blodeuog ar gyfer ei defnyddiau. Roedd yn bosib prynu'r sgarffiau drwy'r post i ddechrau ac yna fe'u gwerthwyd i siopau mawr Llundain fel John Lewis.

Cyswllt Cymreig

Ond roedd Laura yn awyddus iawn i ddychwelyd i Gymru, sef ysbrydoliaeth ei gwaith cynllunio. Sefydlodd bencadlys i'r busnes ym mhentref Carno ac agorwyd ffatrïoedd ar draws gogledd a chanolbarth Cymru i gyflenwi'r holl angen.

"Daliodd stori'r gynllunwraig oedd yn printio defnydd ar bwrdd y gegin a'r casgliadau yn cael ei creu yng Nghymru dychymyg y diwydiant ffasiwn," meddai Huw Rees.

"Ond heb os, delweddau ffotograffiaeth ei merch Jane or casgliadau wnaeth ychwanegu at lwyddiant cwmni ddaeth yn adnabyddus am safon a steil arbennig," ychwanegodd.

Agorodd y siop Laura Ashley gyntaf yn Kensington yn 1968. Erbyn 1981 roedd yna 5,000 o siopau yn gwerthu'r cynnyrch oedd yn cynnwys dodrefn a phapur wal yn ogystal â ffrogiau.

Roedd Diana, Tywysoges Cymru, yn un o ffans mwyaf enwog y brand ac ar ôl i lun ohoni'n gwisgo blows gan Laura Ashley gael ei gyhoeddi yn y wasg, bu'n rhaid i'r cwmni atal gynhyrchu am ychydig oherwydd y galw.

Ffrogiau Laura Ashley yn cael eu harddangos
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cwmni ar ei anterth yn y 1970au

Casgliad o ffrogiau Laura Ashley cafodd eu arddangos yn Amgueddfa Ceredigion yn 2017
Disgrifiad o’r llun,

Ydy rhai o'r rhain yn procio'r cof?

Bu farw Laura Ashley yn 1985, 10 niwrnod ar ôl cwympo lawr y grisiau yng nghartref ei merch ar ei phen-blwydd yn 60 oed.

Deufis yn ddiweddarach, fe roddwyd y cwmni ar y farchnad stoc ac amcangyfrifwyd gwerth y cwmni yn £200 miliwn.

Newid ffasiwn

Ond, roedd ffasiwn a chwaeth yn newid a gwneuthurwyr ym Mhrydain yn ddrud a chwmnïau cynhyrchu ar fin symud i'r Dwyrain pell.

Yn dilyn problemau ariannol, fe geisiwyd newid hynt y cwmni yn y 1990au ond heb fawr o lwyddiant.

Fe achubwyd y cwmni i bob pwrpas yn 1998 gan Malayan United Industries a brynodd 40% o werth y cwmni.

Cafodd staff diwethaf ffatri Laura Ashley eu diswyddo yn 2005. Ym mis Rhagfyr 2018 fe gyhoeddodd y cwmni golled ariannol flynyddol o dros £14m. Erbyn heddiw mae'r cwmni yn nwylo'r gweinyddwyr wedi i drafodaethau i geisio achub y cwmni fethu.

Roedd Laura Ashley yn enwog am ei chynlluniau gwledig, rhamantaidd a blodeuog
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Laura Ashley yn enwog am ei chynlluniau gwledig, rhamantaidd a blodeuog

ffrog Laura Ashley

Hefyd o ddiddordeb: