Pwyllgor i adolygu 'priodoldeb cerfluniau' Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd un o bwyllgorau Senedd Cymru yn arolygu "priodoldeb cerfluniau a henebion mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru" yn sgil y protestiadau Black Lives Matter diweddar.
Bydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu "yn edrych ar bwy sy'n cael ei anrhydeddu mewn mannau cyhoeddus" gan ystyried "a oes angen canllawiau ar gyrff cyhoeddus i sicrhau ein bod ni'n parchu ein hanes heb hepgor cyd-destun hanfodol".
Mae hefyd yn fwriad i ystyried "pobl sydd heb gael eu hanrhydeddu", gan gynnwys mynd i'r afael â diffyg cofebau'n anrhydeddu merched sydd wedi gwneud cyfraniad i fywyd cyhoeddus Cymru.
Ond fel "man cychwyn", mae'r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio rhestr o'r cerfluniau sydd eisoes ar draws y wlad.
Dywed y pwyllgor fod angen "sefydlu rhai egwyddorion arweiniol ynghylch pwy neu beth y dylid ei goffáu a sut i benderfynu mewn ffordd gytbwys a yw'n briodol parhau i ddangos rhai ffigyrau".
Mae'r ymateb byd-eang i farwolaeth George Floyd yn America wrth gael ei arestio gan blismon gwyn, wedi aildanio'r ymgyrchu dros gydraddoldeb i bobl o gefndir du, Asiaidd neu leiafrif ethnig (BAME).
Mae hefyd wedi atgyfodi dadleuon ynghylch cerfluniau sy'n anrhydeddu unigolion â chysylltiadau â chaethwasiaeth, gan ysgogi trafodaethau mewn sawl sir i drafod enghreifftiau yng Nghymru.
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal trafodaeth yr wythnos nesaf i ystyried beth ddylai ddigwydd i gerfluniau a chofebion yn y sir, gan gynnwys obelisg amlwg yng Nghaerfyrddin er cof am Syr Thomas Picton.
Er bod Picton yn cael ei gofio fel un o arwyr rhyfeloedd Napoleon, cafodd hefyd i gyhuddo o ladd caethweision. Ac er na chafodd ddedfryd, fe wnaeth llys hefyd ei gael yn euog o arteithio merch ifanc pan roedd yn Llywodraethwr Trinidad.
Mae cynghorwyr yng Nghaerdydd hefyd yn ystyried y posibilrwydd o symud penddelw marmor ohono o Neuadd y Ddinas.
Hefyd yr wythnos nesaf bydd cynghorwyr lleol yn trafod galwadau i gael gwared ar gerflun o'r anturiaethwr HM Stanley yng Nghanol Dinbych a cherflun arall yn nodi ei orchestion yn Affrica yn Llanelwy.
Mae Esgob Llanelwy, Gregory Cameron, ymhlith y rhai sydd wedi galw am gael gwared ar y ddau gerflun yn Sir Ddinbych.
Casglu safbwyntiau
"Mae'r angen am ddadl ynglŷn â phwy sy'n cael ei gynrychioli yn ein lleoedd cyffredin yn cynyddu o ran brys," meddai Helen Mary Jones AS, Cadeirydd dros dro Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
"Mae'r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn taflu goleuni ar y caswir ac ni allwn ei anwybyddu mwyach.
"Bydd y Pwyllgor hwn yn edrych ar briodoldeb cerfluniau a henebion ledled Cymru, ac yn erbyn pa feini prawf y dylid eu barnu.
"Hoffem gasglu cymaint o safbwyntiau ag y gallwn ni ar y mater hwn a byddwn yn cynnal cyfres o gyfarfodydd i glywed yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud."
Mae'n bosib i'r cyhoedd gyfrannu i ymchwiliad y pwyllgor (rhagor o fanylion am waith Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ar wefan Senedd Cymru, neu trwy ddilyn @SeneddDGCh ar Twitter.)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2020