'Teimlad o ryddhad mawr' i'r diwydiant twristiaeth
- Cyhoeddwyd
Yn ôl un o benaethiaid y sector twristiaeth roedd yna yna "deimlad o ryddhad mawr" o fewn y diwydiant yng Nghymru i'r awgrym y gallai'r rhai busnesau ailagor ym mis Gorffennaf.
Dywedodd Andrew Campbell o Gynghrair Twristiaeth Cymru y bydd yn rhaid i'r sector gymryd pob mantais i wneud arian wrth i'r rheolau yma gael eu llacio.
Ddydd Gwener fe wnaeth Mark Drakeford ddweud y dylai busnesau yn y sector fynd ati i baratoi ar gyfer ailagor.
Dywedodd Mr Campbell fod 97% o fusnesau twristiaeth wedi cau o ganlyniad i'r pandemig, gyda 80% o staff ar gynlluniau furlough.
"Mae pobl yn dioddef," meddai.
Fe fydd siopau, sy'n gwerthu nwyddau ar wahân i nwyddau hanfodol, yn cael ailagor yng Nghymru dydd Llun.
Ond mae'r canllawiau i beidio teithio mwy na phum milltir yn parhau yn eu lle.
Mae disgwyl, maes o law, y bydd yna lacio pellach fydd yn rhoi'r hawl i bobl ymweld ag atyniadau twristiaeth, ac i deithio i wahanol fath o lety fel tai gwyliau neu garafanau.
Ond fe fydd yn rhaid i newidiadau gael eu cadarnhau pan fydd yr adolygiad nesa i'r canllawiau ar 9 Gorffennaf.
Dywedodd Mr Campbell: "Rydym wedi colli lot fawr....fe gollom ni'r Pasg a dwy Ŵyl y Banc.
"Roedd hyn wedi dechrau brifo cyn y cyfnod clo oherwydd bod pobl wedi dechrau gweithio o'u cartrefi.
"Roedd yna leihad yn ymwelwyr rhyngwladol, felly fe gafodd y diwydiant ei daro yn gynnar.
"Mae pobl yn dioddef. Mae'n sefyllfa hynod o anodd felly roedd yna deimlad ryddhad mawr ddydd Gwener."
Cyfnod anodd
Yn 2018 fe wnaeth y sector gyfrannu £6.2bn i'r economi, gan gyflogi 132,000.
Mae'r prif weinidog Mark Drakeford yn cydnabod fod y diwydiant wedi cael nifer o fisoedd hynod anodd
Dywedodd wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales ei fod yn awyddus iawn i wneud yr hyn sy'n bosib er mwyn "achub be sy'n weddill o dymor yr haf ac y byddai yna groeso mawr i hynny.
"Ond fe ddaw hyn ar ôl beth sydd wedi bod yn gyfnod ofnadwy o anodd i'r diwydiant."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020