Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-0 Leeds
- Cyhoeddwyd
Cafodd gobeithion Caerdydd o esgyn i'r Uwchgynghrair hwb sylweddol wrth iddyn nhw guro Leeds o 2-0 yn y brifddinas.
Ymdrech wych gan Junior Hoilett ar ôl i Kalvin Phillips golli'r bêl roddodd y tîm cartref ar y blaen.
Roedd y dathliadau yn dilyn y gôl yn cynnwys terynged i gyn chwaraewr Caerdydd Peter Whittingham, fu farw ym mis Mawrth.
Bu'n rhaid aros tan 71 munud, ac ergyd gref Robert Glatzel yn sicrhau'r tri phwynt.
Roedd Leeds wedi cystadlu'n gryf drwy'r gêm, a bydden nhw wedi sgorio oni bai am arbedion gwych Alex Smithies.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Caerdydd yn codi i'r seithfed safle, gyda Leeds yn aros yn yr ail safle.
Mae'r Adar Gleision nawr ar yr un nifer o bwyntiau a Preston gyda'r ddau dîm yn cwrdd ddydd Sadwrn 27 Mehefin.
Dywedodd rheolwr Caerdydd, Neil Harris, ar ôl y gêm ei fod yn hynod o falch o'r chwaraewyr a'r perfformiad.
"Rwyf wrth fy modd ein bod wedi sgorio dwy gôl o safon i roi teyrnged Peter Whittingham.
"Roedd o'n anrhydedd i fod yn rhan o'r peth heddiw, a dwi mor falch i ni chwarae'r gorau y gallwn ni."