Ymgeisydd Senedd Cymru ymhob rhanbarth i blaid newydd

  • Cyhoeddwyd
Neil McEvoy
Disgrifiad o’r llun,

Neil McEvoy, cyn-AS Plaid Cymru, yw arweinydd y 'Welsh National Party'

Mae cyn-Aelod Senedd Plaid Cymru, Neil McEvoy, wedi dweud ei fod yn gobeithio cael ymgeisydd o'i blaid newydd i sefyll ymhob rhanbarth o Gymru yn etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf.

Ychwanegodd y bydd ei blaid yn herio'r "cartél yng ngwleidyddiaeth Cymru" ac yn cynnig newid i'r rhai sydd wedi eu dadrithio gyda datganoli.

Mae Mr McEvoy, AS presennol Canol De Cymru, am alw'r blaid yn 'Plaid Genedlaethol Cymru' - 'Welsh National Party' yn Saesneg - ond mae'r Comisiwn Etholiadol yn ystyried ei gais i gofrestru'r enw wedi i Blaid Cymru fygwth camau cyfreithiol.

Disgrifiodd hyn fel "difrodi gwleidyddol" ond dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru ar y pryd y byddan nhw "wastad yn gwarchod ein henw hanesyddol, ac rydym yn hyderus y bydd y mater yma'n cael ei ddatrys mewn modd sy'n caniatáu i ni barhau i wneud hynny".

Yn ôl ei harweinydd, mae'r ansicrwydd yma dros frandio wedi "llesteirio" ymdrechion y blaid newydd.

Ond ychwanegodd Mr McEvoy: "Os na chawn ni'r enw y gwnaethon ni gofrestru yn y dechrau, yn amlwg fe fydd camau cyfreithiol gennym."

Ffynhonnell y llun, Barcroft Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Neil McEvoy ei ddiarddel o Blaid Cymru am 18 mis yn 2018

Yn ogystal â gosod ymgeiswyr yn y rhestrau rhanbarthol, dywedodd Neil McEvoy y bydd y blaid yn sefyll mewn rhai etholaethau "oherwydd ry'n ni'n gwybod lle y gallwn ni ennill".

"Yng Ngorllewin Caerdydd ry'n ni'n gwneud yn dda a ni yw'r her i'r prif weinidog [Mark Drakeford].

"Bydd pobl yn gweld y gwahaniaeth mawr rhwng y ffordd y byddwn ni'n gweithredu a'r ffordd y mae'r pleidiau eraill i gyd yn cyfaddawdu ac eisiau bod yn rhan o glwb."

'Dweud eu dweud go iawn'

Doedd Mr McEvoy ddim am fanylu faint o seddi y mae'n gobeithio eu hennill, ac mae polisïau'n dal i gael eu datblygu cyn etholiad y flwyddyn nesaf.

"Ry'n ni am i bobl fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain ac i fod yn sofran yn eu bywydau," meddai.

"Fel yn y Swistir, ry'n ni am weld system o refferenda fel y gall pobl gael dweud eu dweud go iawn.

"Felly fe fydd yr hyn y byddwn yn rhoi gerbron y cyhoedd y flwyddyn nesaf yn wahanol iawn i'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd."