Rhybudd llifogydd a stormydd mellt a tharanau
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd melyn o stormydd mellt a tharanau mewn grym i Gymru gyfan dros y dyddiau nesaf.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud y gallai stormydd daro rhannau o'r gorllewin yn ystod prynhawn dydd Iau, gan achosi llifogydd a phroblemau teithio mewn rhai mannau.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd gall rhai ardaloedd ddioddef cawodydd trymion gyda 30-40mm o law yn disgyn mewn llai na dwy awr.
Gall mellt a chenllysg achosi trafferthion pellach.
Mae disgwyl i'r storm symud tua'r gogledd ddwyrain o tua 16:00 ddydd Iau, gan daro ardal fwy eang rhwng nos Iau a 09:00 fore Gwener.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd: "Mae siawns fechan y gall rhai cartrefi a busnesau ddioddef llifogydd sydyn, gyda difrod i adeiladau gan ddŵr, mellt, cenllysg a gwyntoedd cryfion."
Ychwanegodd fod toriadau i'r cyflenwad trydan yn bosib ac y gall gwasanaethau trenau a bysiau gael eu canslo, a lonydd gael eu cau dros dro yn yr ardaloedd sy'n cael eu taro waethaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2020