Trafod deddfu i ddiogelu enwau Cymraeg ar dai
- Cyhoeddwyd
Fe fydd un o Bwyllgorau Senedd Cymru'n trafod oes angen deddfu i gadw enwau Cymraeg ar dai - a hynny ar ôl i ddeiseb sy'n galw am hynny ddenu dros 7000 o lofnodion.
Gan i'r nifer groesi'r trothwy hollbwysig - 5,000 - mae'n ofynnol nawr i'r Pwyllgor Deisebau drafod yr alwad ac fe allai hynny arwain at drafodaeth yn y Senedd lawn.
Wythnos a hanner yn ôl fe gafodd yr enw ei newid ar un o dafarnau Brynaman. Y 'Tregib Arms' fu'r enw ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond erbyn hyn mae enw newydd - 'Pit Wheel'.
Dydy hynny ddim yn newid sydd wrth fodd y Cyn Brif Weinidog Carwyn Jones, sydd â chysylltiadau teuluol a'r ardal.
"Fel rhywun sydd â chysylltiadau mawr a'r pentre... roedd hynny'n siom i mi mae'n rhaid i fi ddweud, achos yn y dafarn yna y sefydlwyd undeb glowyr y glo caled cynta, a hefyd enw Cymraeg - dwi'n meddwl bod rhaid i'r perchnogion ailfeddwl er mwyn sicrhau bod diwylliant yr ardal yn cael ei barchu."
Fe fu'r cyflwynydd Tudur Owen yn dadlau dros gadw enwau Cymraeg ar un o raglenni BBC Cymru, Wales Live, ac fe gafodd y ddeiseb - sy'n rhoi'r pwyslais yn benodol ar atal newid enwau Cymraeg ar dai - ei sefydlu gan Robin Aled Davies.
"Mae o'n etifeddiaeth," meddai. "Mae o'n hanes, mae o'n gwneud ein gwlad ni'n wahanol, mae o'n gwneud be sy'n arbennig i Gymru - fel arall, waeth i ni alw y lle'n Lloegr ddim."
Eto i gyd, ym Mrynaman, fe bwysleisiodd perchennog y dafarn, Robert Megson, nad oedd neb wedi cwyno wrtho am newid yr enw i 'Pit Wheel' o gwbl.
"Y rheswm dros newid oedd i roi gwedd fodern ar y lle. Wrth gyfeirio at olwyn pwll, rydan ni'n cadw thema'r glowyr. Mae tystysgrif Undeb y Glowyr yn dal i fod ar y wal, ac mae llusernau'r glowyr yn dal i gael eu defnyddio fel goleuadau.
"Doedd dim byd yn bod ar yr hen enw, ond doedd ganddo ddim yr elfen fodern oedd ei hangen arnon ni wrth fwrw mlaen."
Mae cyflwynydd rhaglen prif newyddion y BBC, Huw Edwards, wedi cael ei feirniadu gan yr AS Llafur yn y Rhondda, Chris Bryant, am leisio ei farn ar y pwnc. Dywedodd y darlledwr o Lanelli ei fod yn sefyll dros ei dreftadaeth ddiwylliannol ar adeg pan y dylai diwylliannau lleiafrifol gael eu parchu.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mi fydd o'n destun trafod i aelodau'r Senedd maes o law - pa mor Gymreigaidd ddylai'r enwau ddal i fod, ar dir Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2018