Heddlu'r De yn gwasgaru torf ym Mae Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Gathering in Cardiff BayFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr heddlu ymateb i adroddiadau o ymddygiad gwrth-gymdeithasol a oedd yn cynnwys nifer fawr o bobl yn yfed alcohol

Bu'n rhaid i Heddlu'r De wasgaru torf ym Mae Caerdydd nos Wener wedi adroddiadau o ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

Dywedodd llefarydd bod plismyn wedi cael eu galw i Gilgant Bute toc wedi hanner nos i wasgaru torf.

Mae'n debyg bod nifer wedi ymgasglu gyda'i gilydd ac yn yfed alcohol ond ni chafodd neb ei arestio.

Gerllaw yn y Roald Dahl Plass roedd nifer o ganiau diod wedi'u gadael ar lawr a chafodd lluniau o weithwyr yn clirio'r sbwriel eu postio ar Twitter.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y grŵp ei chwalu ac ni gafodd neb ei arestio

Nos Iau yr oedd ffrwgwd yn Aberogwr ym Mro Morgannwg - digwyddiad torfol a wnaeth annog y Prif Weinidog, Mark Drakeford i ddweud na fyddai'r cyfyngiadau clo yn cael eu llacio petai digwyddiadau o'r fath yn parhau.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tipyn o sbwriel wedi'i adael wedi i bobl ymgasglu ym Mae Caerdydd

Dywedodd Mark Drakeford bod golygfeydd o'r fath yn "bygwth iechyd pobl Cymru ac yn tanseilio yr aberth y mae rhan fwyaf o bobl yng Nghymru wedi gorfod ei wneud yn ystod yr argyfwng".

Dywedodd y Prif Arolygydd Andy Valentine o Heddlu'r De: "Mae ymddygiad o'r fath yn cael effaith ar y gymuned yn ehangach ac nid yw ymddygiad gwrth-gymdeithasol neu droseddu yn cael ei ganiatáu.

"Mae'n swyddogion yn ymateb i'r digwyddiadau hyn ac yn defnyddio eu pwerau, gan gynnwys gorchmynion gwasgaru ond mae milltiroedd o arfordir, parciau, a chanol trefi a dinasoedd yn her anferth [i'w plismona] ac allwn ni ddim bod ymhobman ar unwaith."

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Fe anogodd pobl i fod yn gyfrifol a dywedodd y dylai rhieni pobl ifanc a phlant sicrhau eu bod yn ymwybodol o'u symudiadau.