'Angen dyddiad i ail-agor canolfannau hamdden'
- Cyhoeddwyd
Mae'r pencampwr Paralympaidd y Farwnes Tanni Grey-Thompson wedi galw ar Brif Weinidog Cymru i enwi dyddiad i ailagor canolfannau hamdden yng Nghymru.
Mae hi wedi rhybuddio mewn llythyr y gallai fod "costau cymdeithasol" o £97m pe bai campfeydd yn aros ar gau am chwe mis.
Dywedodd y Farwnes Grey-Thompson fod y sector hamdden yn barod i ailagor yn ddiogel a'i fod yn rhan hanfodol o iechyd a lles Cymru ar ôl coronafeirws.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "O ystyried y risg uwch o drosglwyddo Covid-19 mewn canolfannau hamdden, dim ond pan fyddwn yng nghyfnod gwyrdd ein system goleuadau traffig y gallent gael eu hailagor yn ddiogel."
Yn ei llythyr, sydd wedi cael ei weld gan BBC Cymru, mae'r Farwnes Grey-Thompson yn dweud ei bod yn cael trafferth deall pam bod y llywodraeth yn Lloegr wedi penderfynu ei bod yn fwy diogel mynd i dafarndai, sy'n ailagor ar 4 Gorffennaf, nag i'r gampfa.
"Mae cyfleusterau hamdden yn gwybod enwau a chyfeiriadau pawb sy'n dod trwy'r drws; fe fydden nhw'n gallu cyfyngu ar y niferoedd, symud offer, sichrau bod pob gorsaf waith yn gallu cael ei glanhau ac mae yna reolau llym iawn eisoes ar y systemau awyru.
"Yn bersonol, mae meddwl am fynd i ardd gwrw yn fy mhoeni - sut fyddan nhw'n cynnal pellter corfforol, sut ydych chi'n cadw cofnod cywir o bwy sy'n mynd i mewn ac allan? Nid yw'n mynd i fod yn hawdd i'w weithredu," meddai.
Rhybuddiodd pe bai canolfannau ledled Cymru yn parhau ar gau am chwe mis arall, byddai'n arwain at golledion o tua £97m mewn "gwerth cymdeithasol", er enghraifft yr arian a a fyddai'n cael ei wario gan y Gwasanaeth Iechyd wrth drin cyflyrau sy'n ymwneud â diffyg gweithgaredd corfforol.
Colli cenhedlaeth
"Os edrychwch chi ar gymuned BAME, mae canran uchel iawn yn defnyddio cyfleusterau hamdden cyhoeddus - sef 25% o'r defnydd o 14% o'r boblogaeth ledled y DU.
"Erbyn i lawer o blant fynd yn ôl i'r ysgol byddant wedi colli 23 wythnos o addysg gorfforol felly mae yna berygl o gael cenhedlaeth o bobl ifanc sydd wir yn ei chael hi'n anodd dod dros y pandemig hwn."
Daw sylwadau'r Farwnes Grey-Thompson wrth i adroddiad gael ei gyhoeddi gan bwyllgor diwylliant, iaith a chyfathrebu'r Senedd sydd wedi ymchwilio i effaith coronafirws ar chwaraeon a gweithgaredd corfforol.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad fod pobl mewn ardaloedd tlotach yn gwneud llai o ymarfer corff yn ystod cloi i lawr na'r rhai mewn ardaloedd mwy cyfoethog, a gallai hyn ddod yn "arferiad" ar ôl cloi.
Dangosodd tystiolaeth gan y corff gweithgaredd cenedlaethol Chwaraeon Cymru fod 39% o oedolion o gefndiroedd mwy cefnog yn gwneud mwy o weithgaredd yn ystod y broses gloi o gymharu â 32% yn gwneud llai - cynnydd o 7%.
Fodd bynnag, mae gostyngiad o 4% mewn gweithgaredd ymhlith oedolion o ardaloedd tlotach, gyda 33% yn llai egnïol - ond 29% yn gwneud mwy.
Dywedodd cadeirydd dros dro y pwyllgor, Helen Mary Jones AS: "Mae'r cyferbyniad mewn lefelau ymarfer corff rhwng cymunedau yn peri pryder mawr a rhaid inni geisio sicrhau nad yw'r bwlch hwn yn tyfu, neu ddiffyg ymarfer corff yn dod yn arferiad.
"Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r mater hwn fel rhan o'i chynllun adfer ac i weithio gydag awdurdodau lleol i ddarparu cefnogaeth ddigonol i sicrhau goroesiad ymddiriedolaethau hamdden a chlybiau cymunedol ledled y wlad."
Clywodd y pwyllgor hefyd gan gyrff proffesiynol. Dywedodd Undeb Rygbi Cymru bod rygbi proffesiynol "wedi cael ac yn cael ergyd".
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod pêl-droed ar lawr gwlad yn debygol o gael ei daro'n galed, gyda gêm y merched yn cael ei tharo galetaf oll.
Mewn un nodyn cadarnhaol, dywedodd Dr Kelly Mackintosh o Brifysgol Abertawe fod lefelau ymarfer corff ymhlith menywod wedi cynyddu "ychydig" ers y cyfnod clo.
Dywedodd y gellid priodoli'r cynnydd i "lai o ryngweithio cymdeithasol a theimladau o ansicrwydd", gan ychwanegu: "Mae hwn yn beth cadarnhaol go iawn, ac fe ddylen ni anelu at barhau gyda'r positifrwydd tu hwnt i'r cyfnod clo."
Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad: "Mae ein swyddogion yn gweithio'n agos gyda Chwaraeon Cymru ar effaith Covid-19 ar gymryd rhan mewn chwaraeon, gan gynnwys y bwlch anghydradd sy'n ehangu a chyfraddau cyfranogi is plant a phobl ifanc.
"Bydd dychwelyd yn ofalus a theg i chwaraeon yn helpu i liniaru hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd30 Mai 2020