Cais i godi safle twristiaeth ar hen safle Ferodo, Caernarfon
- Cyhoeddwyd

Argraff artist o'r datblygiad ger y Fenai
Mae cais cynllunio wedi ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd ar gyfer datblygiad twristiaeth gwerth £60m ar gyrion Caernarfon.
Gobaith Maybrook Investments ydi datblygu hen safle Ferodo, yn ogystal ag adeilad Plas Brerton gerllaw.
Byddai'r datblygiad yn cynnwys dros 250 o gabanau a fflatiau gwyliau, parc dŵr, bwytai, a bar.
Yn ogystal byddai hen adeilad ffatri Ferodo'n cael ei addasu i fod yn unedau diwydiannol neu fasnachol.
"Mi fydd y datblygiad yn gweddu i'r ardal, achos mae o'n adfywio hen safle," meddai Rhys Davies o Cadnant Planning, yr asiant sy'n gyfrifol am y cais cynllunio.

Cyngor Gwynedd fydd yn penderfynu a ddylai'r cais cynllunio gael ei gymeradwyo
Byddai'r parc gwyliau yn creu dros 80 o swyddi. Os bydd cwmnïau'n symud i'r unedau masnachol, gallai hyd at 600 o bobl fod yn gweithio ar y safle medd y datblygwyr.
Mae'r syniad wedi cael croeso gan nifer o fusnesau yng Nghaernarfon.
Dywedodd Endaf Cooke, sy'n rhedeg siop sglodion yn y dref, y gallai'r cynllun rhoi hwb sylweddol i economi'r cylch.
"Mi fydd 'na fwy o fuddsoddiad - creu mwy o waith, mwy o bobl yn gwario, mwy o fusnesau newydd - mae o'n win win situation," meddai.
Ond mae rhai'n teimlo fod y pandemig wedi dangos fod economi'r ardal eisoes yn or-ddibynnol ar dwristiaeth.
'Angen cynlluniau llai'
Yn ôl Robat Idris o Gymdeithas yr Iaith, mae angen rhoi mwy o bwyslais ar gynlluniau bychain lleol sy'n gweithredu er budd y gymuned.
"Efo datblygiadau mor fawr a hwn, mae'n rhaid i chi ofyn pwy fydd yn elwa fwyaf," meddai.
Mae'r datblygwyr yn hyderus y bydd modd cael gwared â'r asbestos sydd wedi bod ar safle Ferodo ers blynyddoedd.
Mae nhw'n dweud y byddan nhw'n gallu dechrau gweithio ar y safle yn syth os y bydd Cyngor Gwynedd yn rhoi caniatâd cynllunio.

Fe gaeodd ffatri Friction Dynamics/Ferodo ei drysau yn 2008
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd28 Mai 2018