Penodi AS yn dilyn marwolaeth Mohammad Asghar

  • Cyhoeddwyd
Laura Anne JonesFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Laura Anne Jones yw AS diweddaraf Cymru

Cafodd Laura Anne Jones ei chadarnhau fel Aelod o'r Senedd newydd yn dilyn marwolaeth Mohammad Asghar fis diwethaf.

Cafodd y Llywydd, Elin Jones wybod gan y Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol ar gyfer Rhanbarth Dwyrain De Cymru mai Ms Jones fyddai'n camu i'r sedd wag.

Mae Ms Jones yn olynu Mohammad Asghar fel y person nesaf ar restr ranbarthol Ceidwadwyr Cymru o ran etholiad y Cynulliad Cenedlaethol yn 2016, cyn i enw'r sefydliad newid.

Mae trefniadau'n cael eu gwneud i Ms Jones dyngu ei llw.

Dyma'r eildro i Ms Jones gynrychioli Dwyrain De Cymru, am iddi gael ei hethol yn Aelod Cynulliad rhwng 2003 a 2007, a hi oedd llefarydd Ceidwadwyr Cymru ar chwaraeon.