Ymchwiliad heddlu i 'dwyll ariannol posib' cyngor Maesteg

  • Cyhoeddwyd
Swyddfa cyngor tref MaestegFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd archwilwyr eu galw i adolygu cyfrifon Cyngor Tref Maesteg

Mae adroddiad wedi dod i'r casgliad y gallai cyngor tref fod wedi colli cannoedd o filoedd o bunnoedd oherwydd camreoli ariannol.

Cafodd yr archwilwyr eu galw i ymchwilio i Gyngor Tref Maesteg yn gynharach eleni.

Mae'r Adroddiad Archwilio Mewnol a gafodd ei anfon at y cyngor yn nodi cyfres o bryderon gan gynnwys:

  • £34,000 o wariant twyllodrus posib dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf;

  • Honiadau bod cyn-glerc y dref wedi ffugio anfonebau i wneud taliadau anghyfreithlon iddi hi ei hun;

  • Bod y cyngor wedi methu â nodi'r problemau a grëwyd gan y cyn-glerc;

  • Bod Heddlu De Cymru wedi cael eu galw i ymchwilio i weithgareddau twyllodrus posib.

Fe wnaeth yr ymchwiliad ganfod nad oedd gwariant Treth Ar Werth wedi'i adennill ers blynyddoedd lawer - roedd yr unig dderbynneb a gafodd ei ddarganfod yn dyddio'n ôl i 2008.

Trethdalwyr 'wedi eu siomi'

Wrth ysgrifennu at y cyngor, dywedodd yr archwilydd mewnol GW Davies nad oedd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn caniatáu i'r cyngor hawlio yn ôl unrhyw beth y tu hwnt i'r tair blynedd ariannol diwethaf.

"Mae'n debyg y gallai'r incwm sydd wedi cael ei golli i Gyngor Tref Maesteg fod yn gannoedd o filoedd o bunnoedd," meddai.

Mewn llythyr at glerc newydd y dref, dywedodd Mr Davies fod rheolaeth ariannol y cyngor wedi gwella ers mis Rhagfyr y llynedd a'u bod bellach yn cael eu cyflwyno'n iawn.

Dywedodd cynrychiolwyr gwleidyddol yr ardal, Huw Irranca-Davies AS (Cymru) a Chris Elmore AS (DU), mewn datganiad ar y cyd eu bod wedi eu syfrdanu gan yr adroddiad.

"Mae trigolion Maesteg yn gywir yn disgwyl i'r Cyngor Tref weithio'n ddi-baid ar eu rhan, ac i gyfrif am bob ceiniog a godir mewn trethiant lleol. Maent wedi cael eu siomi yn wael."

"Mae'r adroddiad yn rhestru cyfres o fethiannau trychinebus goruchwyliaeth ariannol a rheolaeth gyllidebol.

"Efallai bod cronfeydd sylweddol wedi cael eu colli i'r cyngor tref a thalwyr treth y cyngor lleol, ac rydym yn deall bod ymchwiliad yr heddlu i rai materion yn parhau."