'Sgwteri trydanol yn opsiwn gwahanol i geir' yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Fe allai pobl yng Nghymru fod yn teithio ar sgwteri trydanol i'w gwaith a gweld ffrindiau yn fuan.
O ddydd Sadwrn ymlaen bydd sgwteri o'r fath yn gyfreithlon yn y DU am y tro cyntaf.
Mae rhai personol wedi'u gwahardd rhag cael eu defnyddio ar strydoedd, ond bydd hawl i rai sy'n cael eu rhentu fel rhan o gynllun gan Lywodraeth y DU gael eu defnyddio.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod hwythau yn edrych ar y posibilrwydd o sefydlu system rhentu sgwteri.
Ystyried treialon yng Nghymru
"Mae sgwteri trydanol yn cynnig y potensial am drafnidiaeth carbon-isel, gan gynnig opsiwn gwahanol i geir, yn enwedig ar gyfer teithiau mewn ardaloedd dinesig," meddai llefarydd o Lywodraeth Cymru.
"Ry'n ni wedi cychwyn sgwrs â Llywodraeth y DU i drafod y potensial am dreialon yn nhrefi a dinasoedd Cymru, ac wedi hysbysu'r cyfle i awdurdodau lleol.
"Bydd maint y treial yn dibynnu ar lefel y diddordeb gan awdurdodau lleol."
Dan reolau newydd Llywodraeth y DU bydd caniatâd i sgwteri trydanol sy'n cael eu rhentu fynd ar y ffyrdd er mwyn lleddfu'r pwysau ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y pandemig.
Mae awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn gallu sefydlu system rhannu sgwteri - tebyg i gynllun nextbike yng Nghaerdydd - fel rhan o dreial 12 mis.
Bydd angen i bawb sy'n eu defnyddio fod â thrwydded lawn neu dros dro ar gyfer car, beic modur neu moped, a bod dros 16 oed.
Ni fydd hawl eu defnyddio ar y palmant a'u cyflymder uchaf fydd 15.5mya.
Ond mae problem arall yng Nghymru - pe bai cyngor yn penderfynu ei fod eisiau cymryd rhan, byddai'n rhaid newid y gyfraith er mwyn galluogi i'r sgwteri gael eu defnyddio ar lwybrau seiclo.
Mae Llywodraeth y DU yn gobeithio y bydd y cynllun rhannu sgwteri cyntaf yn weithredol yn Middlesbrough yr wythnos nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd12 Mai 2020