Colli cymdeithas y côr: 'Pryd gawn ni ganu eto?'

  • Cyhoeddwyd
Capel Cana, BancyfelinFfynhonnell y llun, Undeb yr Annibynwyr
Disgrifiad o’r llun,

Cyfarfod Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin yng Nghapel Cana, Bancyfelin cyn cyfyngiadau'r cyfnod clo

Mae eglwysi a chapeli Cymru'n aros i glywed pryd allan nhw ailagor, gan wybod ei bod hi'n debygol na fydd modd canu yn yr oedfaon.

Mae tystiolaeth wyddonol yn awgrymu bod canu yn cynyddu'r tebygolrwydd o ledu coronafeirws mewn torf.

Yn ôl arweinwyr capeli ac eglwysi, bydd ffyddloniaid yn gweld eisiau canu cynulleidfaol, ac mae pryder pellach am effaith y gorchymyn ar gorau led led y wlad.

Yn ystod y cyfnod clo, mae dros 47 mil o bobl wedi ymuno a grŵp Côr-ona! ar Facebook, gan bod cynifer yn gweld eisiau canu wrth i'r argyfwng barhau.

Y pryder yw y gallai'r broses o ganu ffurfio mwy o ddefnynnau resbiradol yn yr awyr ac y gallai'r feirws ledu wrth i eraill anadlu'r dafnau rheiny.

'Peidio canu mawl yn rhyfedd'

Cafodd gwasanaethau eu cynnal mewn eglwysi a chapeli yn Lloegr ddydd Sul am y tro cyntaf. Mae arweinwyr yno wedi cael cyfarwyddyd i beidio canu.

"Roedd e'n brofiad gwych bod yn ôl ddydd Sul," medd y Parchedig Aneirin Glyn o Eglwys Gymraeg Bened Sant yn Llundain, "ond doedden ni ddim yn cael canu na chwaith yn cael darparu lluniaeth wedi'r oedfa."

"'Dan ni'n hoff iawn o ganu fel Cymry ac roedd peidio canu mawl i Dduw yn rhyfedd iawn - fe wnaeth dau o'r aelodau recordio dau emyn i ni ond doedd dim hawl i ganu gyda'r recordiadau. Byddai pobl oedd yn gallu gwrando ar y gwasanaeth adre wedi gallu gwneud."

Ffynhonnell y llun, Delyth Morgans Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Mae Delyth Morgans Phillips yn gobeithio y bydd hi'n cael arwain cymanfa eto'n fuan

Un arall a fydd yn colli'r canu yw Delyth Morgans Phillips, awdur Cydymaith i Ganeuon Ffydd.

"Rwy'n deall wrth gwrs bod yn rhaid cymryd gofal ond mae peidio canu emynau yn mynd i fod yn rhyfedd iawn," meddai.

Mae Delyth hefyd yn arweinydd cymanfa ac yn aelod o gôr Corisma yng Nghwm-ann a chôr Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.

"Weithiau dwi'n arwain oedfa mewn capel bach lle nad oes digon i ganu a 'dyw cydadrodd emyn ddim agos cystal. Ond os oes 'na biano na'i fynd ato ac mae canu heb os yn codi ysbryd rhywun.

"Colli cymdeithas mae rhywun pan nad yw'r côr yn cyfarfod. Ni'n griw cymdeithasol iawn yn Corisma ac yn joio cwrdd bob pythefnos i ganu ond hefyd i roi'r byd yn ei le. Ni hefyd yn codi arian at amrywiol elusennau ac yn joio cefnogi Eisteddfod Llambed.

"O ran Côr yr Eisteddfod Genedlaethol ry'n ni wedi bod yn cyfarfod ar Zoom - a yn fan'na dwi ond yn clywed fi fy hun yn canu neu'r arweinyddes, Delyth Hopkin Evans - mae'n brofiad cwbl wahanol ac rwy' wir yn edrych ymlaen i ni gwrdd eto pryd bynnag fydd hynny."

Colli cymdeithas y côr

Colli elfen gymdeithasol pethau hefyd mae Evie Jones o Lannerch-y-medd sydd wedi arfer trefnu nifer o gymanfaoedd canu ac yn aelod o gôr Meibion y Foel.

"Does 'na ddim gweinidog yn fy nghapel i a dwi ddim wedi cael yr un oedfa ar-lein," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae'r eglwysi a'r capel ar agor ar gyfer gweddïau personol yn unig

"Ro'n i wedi cynllunio Cymanfa Ganu yng Nghoedana gerllaw ar gyfer dydd Sul nesaf - ydi mae'n siom peidio ei chynnal a dwi'n methu'r côr yn ofnadwy," ychwanega Mr Jones.

"Yn ystod yr haf fel arfer fe fyddem fel côr yn diddanu ymwelwyr yn Eglwys St John's yn Llandudno, ac yna mewn eglwys ym Metws-y-coed ac yng ngwesty Henllys Hall ym Miwmares.

"A minnau yn aelod o orsedd Eisteddfod Môn, dwi wir yn gobeithio bydd gennym 'steddfod y flwyddyn nesaf a bydd digon o amser i'r corau ymarfer - ydi mae'n haf go lwm eleni, dwi wedi canu ar hyd fy oes.

"Fi sy'n codi'r canu yng nghapel Ifan - mae rhywun yn deall ond fydd hi'n golled peidio canu clodydd i Dduw. Tybed pryd gawn ni ganu eto?"

'Canu yn lles i'r enaid'

Doedd yna ddim dewis arall ond gohirio Gŵyl Cerdd Dant 2020, meddai'r trefnydd John Eifion Jones, ond mae'n gobeithio y bydd modd cynnal yr ŵyl yn Llanfyllin yn 2021.

Disgrifiad o’r llun,

Y disgwyl yw i'r ŵyl gael ei chynnal yn Theatr y Llwyn, Llanfyllin ar 13 Tachwedd, 2021

Mae John Eifion hefyd yn arweinydd Côr Meibion y Brythoniaid sydd yn denu aelodau o ardal eang ac sydd, fel arfer, yn cyfarfod yn wythnosol yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog.

"Rhaid i bawb fod yn ddiogel, wrth gwrs, ond mae'n golled fawr peidio canu a pheidio cael dysgu darnau newydd.

"Mae rhai o aelodau'r côr yn parhau i gysylltu gyda'i gilydd yn ystod y cyfnod clo ond yn colli'n fawr iawn gweld ei gilydd.

"Ie colli cymdeithas mae rhywun yn bennaf - gobeithio yn wir y daw brechlyn yn fuan.

"Dwi innau fel pawb arall yn colli'r canu a'r cymdeithasu - mae canu yn lles i'r enaid ond rhaid bod yn ddiogel."