Cymdeithas Cerdd Dant yn gohirio'r ŵyl flynyddol

  • Cyhoeddwyd
Côr Merched Llangwm
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd yr wyl nawr yn cael ei chynnal yn Theatr y Llwyn, Llanfyllin ar 13 Tachwedd, 2021

Mae Gŵyl Cerdd Dant 2020 wedi ei gohirio am flwyddyn oherwydd argyfwng coronafeirws.

Roedd yr ŵyl i fod i gael ei chynnal yn Llanfyllin, Powys, ar 14 Tachwedd. Mae trefnwyr Gŵyl Cerdd Dant Bro Nansi yn dweud y byddai "unrhyw benderfyniad arall wedi bod yn gwbl anghyfrifol."

Mae'r ŵyl flynyddol, gafodd ei chynnal yn Llanelli'r llynedd, yn denu cannoedd o gystadleuwyr o bob rhan o Gymru.

Gwnaed y penderfyniad mewn cyfarfod rhithiol arbennig o bwyllgor gwaith Cymdeithas Cerdd Dant Cymru ddydd Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Ffion Rees
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r wyl yn denu cannoedd o gystadleuwyr bod blwyddyn

Mae'r mudiad nawr yn ystyried y posibilrwydd o gynnal cystadlaethau rhithiol eleni.

Mae cyfarfod blynyddol y gymdeithas oedd i'w gynnal yng Nghanolfan Bro Cernyw, Llangernyw ar 10 Hydref hefyd wedi ei ohirio.

Dywedodd Llio Penri, cadeirydd pwyllgor gwaith y gymdeithas fod y penderfyniad yn un unfrydol ac y "byddai unrhyw benderfyniad arall wedi bod yn gwbl anghyfrifol.

"Iechyd a diogelwch y cyhoedd yw'r flaenoriaeth nawr.

"Yn y cyfamser mae'r posibiliadau drwy gyfryngau rhithiol yn gynhyrfus ac ar waith".

Meddai John Eifion Jones, trefnydd y Gwyliau Cerdd Dant:"

"Trist iawn yw gorfod gohirio'r Ŵyl, ond doedd dim dewis arall.

"Mae gennym gyfrifoldeb a dyletswydd gofal tra'n trefnu digwyddiad fel hyn, i sicrhau diogelwch pawb fyddai'n debygol o fynychu'r Ŵyl.

"Yn anffodus, o dan yr amgylchiadau presennol, nid yw hynny yn bosib.

"Mae wedi cymryd dros hanner can mlynedd i gael yr Ŵyl Cerdd Dant yn ôl i Sir Drefaldwyn, felly fydd disgwyl blwyddyn arall ddim yn gwneud llawer o wahaniaeth."