Hawl i addol-dai Cymru ailagor 'ond dim angen rhuthro'

  • Cyhoeddwyd
GETTYFfynhonnell y llun, Rawpixel
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai eglwysi eisoes wedi agor er mwyn caniatáu i bobl weddïo yn eu hamser eu hunain

Gall eglwysi yng Nghymru ailagor ar gyfer addoliad cyhoeddus o'r wythnos nesaf (Sul 19 Gorffennaf) ymlaen wedi i Lywodraeth Cymru lacio'r cyfyngiadau ymhellach brynhawn Gwener.

Mae Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru) a'r Eglwys yng Nghymru wedi dweud eu bod yn croesawu'r newyddion ond yn ychwanegu y bydd canllawiau pellach yn cael eu dosbarthu ddechrau wythnos nesaf.

Eisoes roedd yna ganiatâd i agor addol-dai ar gyfer gweddïau preifat, priodasau ac angladdau.

Ar gyfer addoliad cyhoeddus bydd yn rhaid sicrhau fod pellter o ddau fetr rhwng pobl a "sicrhau protocolau digonol ar gyfer hylendid a glanhau".

Rhai eglwysi methu ailagor

Bydd yn ofynnol hefyd i eglwysi a chapeli gwblhau asesiad risg cyn agor eu drysau.

O ganlyniad fydd hi ddim yn bosib i bob eglwys ailagor, medd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru, gan y bydd yn rhaid dibynnu ar wirfoddolwyr i fod ar gael i fonitro ymbellhau cymdeithasol ac i sicrhau y caiff eglwysi eu cadw'n lân.

Disgrifiad o’r llun,

'Does dim angen rhuthro i ailagor,' medd Archesgob Cymru

Mewn datganiad dywedodd yr Eglwys yng Nghymru: "Mae ymagwedd bwyllog at ailagor, sydd wedi'i seilio'n gadarn ar ganllawiau Llywodraeth Cymru, yn hanfodol.

"Yr hyn a gyhoeddwyd yw rhoi caniatâd. Nid oes unrhyw ofyniad, gan Lywodraeth Cymru nac Esgobion yr Eglwys yng Nghymru, i ailagor ar hyn o bryd.

"Er ein bod i gyd yn ymlawenhau y gallwn yn awr ddychwelyd i addoli yn ein heglwysi, rydym yn annog eglwysi lleol i beidio rhuthro i ailagor.

"Dim ond os gallwch wneud hynny'n effeithlon ac yn ddiogel o fewn y canllawiau y dylech ystyried ailagor."

Ffynhonnell y llun, stevanovicigor

Mewn neges ar eu cyfrif twitter dywedodd Cytûn fod hyn yn "newyddion da i addol-dai ond bod canllawiau i ddod."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Cytûn

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Cytûn

Ychwanegodd John Davies, Archesgob Cymru: "Mae hyn yn newyddion da hir-ddisgwyliedig a rydym yn ein groesawu ac mae'n arwydd ein bod ar ein ffordd i sicrhau adferiad o'r pandemig wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio.

"Ond ni allwn fod yn hunanfodlon nac yn ddifater. Mae'n rhaid i ni symud yn bwyllog ac yn ofalus a bydd addoliad yn wahanol i'r hyn yr ydym wedi arfer ag ef yn y gorffennol.

"Hoffwn ddiolch i'r rhai fydd yn gwneud paratoadau i'w hadeiladau fod ar agor - bydd yn golygu cryn dipyn o waith a rhoi sylw i ganllawiau technegol iawn.

"Ond diolch i chi am wneud yr ymdrech - caiff yr hyn a wnewch ei werthfawrogi'n enfawr gan y rhai nad ydynt hyd yma wedi medru cymryd rhan mewn addoliad gydag eraill."