Angen gwella trafnidiaeth yn lle cynllun yr M4
- Cyhoeddwyd
Mae angen systemau trafnidiaeth well i roi dewis amgen yn lle'r cynllun a gafodd ei wrthod i liniaru trafferthion traffig yr M4 o amgylch Casnewydd, yn ôl panel o arbenigwyr.
Fe allai codi tâl mewn rhyw fodd hefyd fod yn ffordd o leihau tagfeydd, medd Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru.
Mae oedi difrifol yn aml yn yr ardal dan sylw yn ystod yr oriau brig.
Er hynny cafodd y cynllun ffordd liniaru ei wrthod fis Mehefin y llynedd gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.
Ond mae adroddiad y Comisiwn yn dweud y gallai pobl fod yn gyndyn i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a bydd llawer yn dal i weithio o adref wedi'r pandemig coronafeirws.
Fe benderfynodd Mr Drakeford fod y cynllun £1.6bn gwreiddiol yn rhy gostus ac roedd hefyd yn bryderus ynghylch yr effaith bosib ar yr amgylchedd, wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi argyfwng hinsawdd.
Angen mwy o ddewis
Ychwanegodd na fyddai wedi bwrw ymlaen hyd yn oed petasai'r cynllun yn fforddiadwy oherwydd y niwed posib i ardal Lefelau Gwent.
Dywed adroddiad y Comisiwn ddydd Iau fod angen "rhwydwaith o ddewisiadau amgen", gyda mwy o orsafoedd rheilffordd rhwng Caerdydd a Chyffordd Twnnel Hafren.
Mae hefyd yn dweud fod llawer o bobl yn defnyddio'r draffordd gan fod dim dewis realistig arall, yn enwedig wrth deithio i ac o Gasnewydd.
Ond mae'r ffyrdd gwahanol o weithio sydd wedi esblygu ers dechrau'r pandemig, medd y Comisiwn, yn rhoi cyfle ac amser i'r awdurdodau ystyried y sefyllfa, ac mae'r pwyllgor yn edrych yn fanylach erbyn hyn ar bosibiliadau gweithio'n hyblyg.
Prif ganfyddiadau
Mae tagfeydd ar yr M4 yn broblem yn yr oriau brig yn bennaf, wrth i bobl deithio i ac o'r gwaith
Mae'r M4 o amgylch Casnewydd ym mhedwerydd safle tabl traffyrdd dinesig mwyaf gorlawn y DU
Mae rhannau o'r draffordd yn agos iawn, neu wedi cyrraedd, ei gapasiti ymarferol
Mae mwyafrif y cerbydau'n cludo un teithiwr yn unig wrth i bobl deithio i ac o'r gwaith
Mae tua 23,000 o deithiau dyddiol rhwng Casnewydd a Bryste
Dywed y panel mai achos creiddiol y tagfeydd yw fod llawer o lefydd allweddol mor agos i'r draffordd, yn cynnwys ystadau tai, parciau manwerthu, swyddfeydd a mannau gwaith eraill, ynghyd â phrinder dewisiadau teithio ystyrlon.
"Yn absenoldeb dewisiadau trafnidiaeth fwy datblygedig, mae'r draffordd wedi bod yn ganolbwynt naturiol o ran cynllunio datblygiadau," medd yr adroddiad.
Ychwanegodd fod tagfeydd yn debygol o gynyddu, yn sgil cynlluniau twf economaidd a ffisegol Caerdydd a Chasnewydd.
"Heb ddewisiadau trafnidiaeth amgen, mae risg y gallai dyluniad llawer o'r datblygiadau yma atgyfnerthu'r ddibyniaeth ar gerbydau yn hytrach nag annog newid i drafnidiaeth gyhoeddus neu gynlluniau teithio llesol," meddai.
Daeth y panel i'r casgliad fod yna wasanaeth reilffordd dda rhwng canol Caerdydd, Casnewydd a Bryste, ond fod mwyafrif y tripiau'n golygu teithio i lefydd heblaw am ganol y dinasoedd.
Golyga hynny fod yna "ddarpariaeth reilffordd annigonol i gynnig dewis gwirioneddol i'r draffordd".
Ychwanegodd fod rhwydweithiau bws hefyd ddim yn ymateb yn ddigonol i batrymau teithio, a heb eu cydlynu â gwasanaethau trên yn y mwyafrif o achosion.
Mae'r adroddiad yn awgrymu "tocynnau integredig" ac amserlen wedi'i chydlynu.
Opsiynau i gerdded neu seiclo?
Dywed yr adroddiad fod teithio llesol - cerdded neu seiclo - heb ei gynnwys yn ddigonol o fewn y rhwydwaith drafnidiaeth ehangach.
Does dim llwybr teithio llesol rhwng gorsaf reilffordd Casnewydd a phrif safleoedd cyflogaeth y ddinas, a dim llwybr seiclo i gymudwyr rhwng Caerdydd a Chasnewydd.
Mae'n dweud fod yr awdurdodau lleol, mae'n ymddangos, wedi canolbwyntio ar wella llwybrau maestrefol i ganol y dinasoedd, yn hytrach na llwybrau di-draffig rhwng y siroedd.
Effaith Covid-19
Cyn y pandemig, dywedodd y panel fod disgwyl twf yn lefelau traffig yn y tymor canolig, ond mae yna "ansicrwydd sylweddol" erbyn hyn ynghylch yr effaith yn y tymor canol a'r tymor hir.
Dywed y panel fod yna eisoes ragweld fod newidiadau sylfaenol i batrymau gwaith yn angenrheidiol, gan olygu llai o weithio'r oriau swyddfa arferol rhwng 09:00 a 17:00.
Wedi gostyngiad sylweddol ddiwedd Mawrth, mae lefelau traffig unwaith eto'n codi'n araf ac yn gyson wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio, ac mae'r arbenigwyr yn disgwyl i hynny barhau.
Dywed y bydd traffig yn cynyddu "hyd yn oed os fydd pawb sy'n gallu gweithio o adref yn parhau i wneud hynny".
Pellter cymdeithasol ar drafnidiaeth gyhoeddus
Mae pellter cymdeithasol yn golygu fod llai o bobl yn gallu teithio ar drenau a bysiau, gyda'r gostyngiad rhwng 70% a 90%.
Fe allai rhannu car hefyd fod yn fwy anodd os fydd yna ganllaw iechyd cyhoeddus i osgoi hynny.
Mae'r adroddiad felly'n darogan cynnydd yn nifer y bobl sy'n teithio mewn cerbydau ar ben eu hunain, ac mae'n anodd rhagweld pa arferion fydd yn dychwelyd i'r drefn arferol wedi'r pandemig.
Bydd rhaid ystyried:
Effaith tymor hir gweithio o adref unwaith fydd yna ddim mesurau pellter cymdeithasol.
Parodrwydd pobl i ddefnyddio gwasanaethau gorlawn yn y dyfodol.
Awydd pobl i gerdded neu seiclo i'r gwaith fwy na chyn y pandemig.
Sefyllfa ariannol y sector trafnidiaeth gyhoeddus unwaith y bydd yr argyfwng drosodd a chamau lliniaru hefyd ar ben.
Serch unrhyw dueddiadau gwahanol yn y dyfodol, mae'r panel yn dal yn rhagweld angen mwy o ddewisiadau teithio yn y tymor hir, ac yn awgrymu defnyddio cyfnod y pandemig i gynllunio dewisiadau amgen i ddefnyddio'r draffordd.
Talu i ddefnyddio'r M4?
Daw'r adroddiad i'r casgliad fod "rhyw fath o fecanwaith codi tâl yn angenrheidiol" i annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, seiclo neu gerdded.
Dywed hefyd y gallai'r arian fynd at wasanaethau trafnidiaeth, ond mae'n dweud y byddai'n anodd codi tâl cyn sicrhau mesurau trafnidiaeth eraill.
Mae disgwyl adroddiad terfynol y panel cyn diwedd y flwyddyn, a fydd yn rhestru argymhellion penodol i Lywodraeth Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2020