Ystyried gorfodi gyrwyr i dalu am gael defnyddio'r ffyrdd

  • Cyhoeddwyd
M4Ffynhonnell y llun, Geograph/Lewis Clarke
Disgrifiad o’r llun,

Fe wrthodwyd cynllun dadleuol fyddai wedi ceisio lleihau tagfeydd ar yr M4 ger Casnewydd

Fe allai gyrwyr gael eu gorfodi i dalu tollau a thaliadau newydd wrth i Lywodraeth Cymru annog pobl i ddefnyddio llai o'u ceir.

Mae taliadau ychwanegol i barcio yn y gweithle a chanolfannau siopa yn cael eu hystyried hefyd.

Mae'r gweinidog trafnidiaeth wedi comisiynu adolygiad annibynnol, fydd yn edrych ar opsiynau fel codi taliadau ar yrwyr i ddefnyddio'r ffyrdd neu yrru i ganol dinasoedd a threfi mawr.

Yn ôl Ken Skates AC mae angen ystyried y camau yma er mwyn annog gyrwyr allan o'u ceir "ac at drafnidiaeth fwy cynaliadwy yng Nghymru".

Derek Turner, a fu'n gweithio i Transport for London, fydd yn arwain yr ymchwiliad ac mae disgwyl iddo gyhoeddi adroddiad yn yr hydref.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Caerdydd yn ystyried cynlluniau i leihau llif traffig yng nghanol y ddinas

Mae'r adolygiad yn edrych ar opsiynau ymhob rhan o Gymru, ac yn cyfrannu at waith y comisiwn sy'n edrych ar leihau tagfeydd ar y M4, yn ogystal â syniad Cyngor Caerdydd i godi tal dyddiol o £2 i yrwyr yn y brifddinas.

Y llynedd fe wnaeth Llywodraeth Cymru wrthod cynllun £1.6bn i adeiladu ffordd liniaru'r M4 ger Casnewydd.

Mae Arglwydd Burns yn arwain Comisiwn yn sgil y penderfyniad, ac mae eisoes wedi dweud bod angen mwy o fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, er mwyn atal y tagfeydd ar yr M4 yn y de-ddwyrain.

'Newid sylweddol'

Mewn datganiad ysgrifenedig yn cyhoeddi'r adolygiad dywedodd Mr Skates: "Mae'n rhaid i ni wneud pob dim posib i ddad-garboneiddio ein rhwydwaith trafnidiaeth, gwella ansawdd yr aer, a lleihau tagfeydd.

"Bydd cyflawni hyn yn helpu ein hamgylchedd, economi a chymdeithas.

"Mae buddsoddi mewn ac annog trafnidiaeth gyhoeddus a theithio actif yn allweddol er mwyn annog pobl i deithio yn llai aml mewn ceir.

"Serch hynny mae'n bosib bydd angen mesurau i reoli galw er mwyn sicrhau bod newid sylweddol yn digwydd - gan symud o'r ffyrdd i fodel trafnidiaeth fwy cynaliadwy.

"Oherwydd hyn rydw i wedi comisiynu adolygiad annibynnol i'r manteision a'r heriau o ddulliau rheoli galw, fel taliadau, ar gyfer defnyddwyr ffyrdd."

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r adolygiad yn ymchwil cychwynnol, wedi ei gynllunio i arwain at waith mwy manwl.