Salonau harddwch a'r farchnad dai yn ailagor yn llawn

  • Cyhoeddwyd
Gwen Williams a Llinos Jones yn eu salon ym MiwmaresFfynhonnell y llun, Gwen Williams
Disgrifiad o’r llun,

Gwen Williams a Llinos Jones ar noson agored yn eu salon ym Miwmares

Bydd rhagor o fusnesau'n croesawu eu cwsmeriaid cyntaf ers misoedd, wrth i fwy o gyfyngiadau coronafeirws gael eu codi o ddydd Llun ymlaen.

Mae salonau harddwch ac ewinedd, salonau lliw haul, a pharlyrau tyllu a thatŵ ymhlith y busnesau fydd yn gallu ailagor.

Hefyd, bydd arwerthwyr tai yn gallu mynd a darpar brynwyr i weld tŷ lle mae rhywun yn byw ynddo.

Ers mis Mawrth dim ond rhith-ymweliadau oedd yn bosib os oedd rhywun yn dal i fyw mewn tŷ oedd ar werth, ond mae'r rheol honno'n cael ei chodi hefyd.

'Agor o'r diwedd'

Mae'r cyfnod clo wedi bod yn arbennig o anodd i Gwen Williams, sy'n rhedeg salon trin aeliau ac amrannau yn ogystal ag ewinedd, ym Miwmares.

"O'r diwedd - mae o wedi bod yn amser mor hir ers mis Mawrth," meddai Gwen, 21, sydd wedi bod yn rhedeg ei busnes Hidden Beauty yn llawn amser ers 2019.

"Roedden ni'n meddwl ella y basan ni'n gorfod cau am fis - dau fis max, a dwi wedi bod yn paratoi i ailagor o'r dechrau fwy neu lai."

Dywedodd Gwen ei bod hi'n anodd cael y wybodaeth ddiweddaraf gan y llywodraeth, ac nad oedd yn hollol glir pa driniaethau oedd yn cael eu caniatáu o ddydd Llun ymlaen.

"Dwi wedi bod yn mynd ar wefan y llywodraeth bob dydd, ond dydy o ddim wedi bod yn glir be' 'da chi'n cael ei wneud a be' 'da chi ddim yn cael ei wneud. Sut 'dach chi fod i baratoi os ydych chi ddim yn gwybod be gewch chi wneud?"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd salonau harddwch yn Yr Alban agor eu drysau eto ar ddydd Llun, 20 Gorffennaf

Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn anodd yn ariannol, meddai Gwen, gan nad oedd y busnes yn gymwys i dderbyn unrhyw gefnogaeth gan y llywodraeth.

"Dwi'n rhentu stafell yn y Bulkeley Hotel, felly dydi'r lle ddim fel siop arferol," meddai.

"Ac am fod y busnes wedi bod yn llawn amser am lai na 12 mis, dwi ddim yn cael unrhyw help yn fanna chwaith.

"Mi ydan ni'n llawn am y tair wythnos nesaf, ond mi ydan ni'n gadael tua chwarter awr rhwng clients er mwyn gwneud yn siŵr fod popeth yn lân ar gyfer y nesaf.

"Ond 'dan ni methu disgwyl ailagor ac yn ddiolchgar iawn i bawb sydd yn planio dod yn ôl atom ni yn yr wythnosau nesa ac am fod yn gefn i ni trwy'r cyfnod clo.

"Rydym yn teimlo fod y cyfnod yma wedi dod â busnesau lleol yn agos at ei gilydd, a dangos fod pawb yma i'n gilydd mewn cyfnodau anodd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr arwerthwr tai, Melfyn Williams bod "ciw o bobl isio mynd i weld tai"

O heddiw ymlaen fe fydd hawl gan bobl sydd eisiau gweld tŷ sydd ar werth - ond ble mae pobl yn dal i fyw - fynd i ymweld unwaith eto.

Dywedodd Melfyn Williams, un o gyfarwyddwyr cwmni gwerthu tai Williams & Goodwin, bod y cyfnod clo wedi creu problemau o ran ymweliadau â thai.

"Mae o wedi creu ciw o bobl isio mynd i weld tai, felly mae o wedi bod yn dipyn o waith trefnu," meddai

"Cyn Covid os oedd lot o bobl isio gweld tŷ, mi fasan ni wedi gwneud open house, ond dydy hynny ddim yn bosib ar hyn o bryd wrth gwrs. Mae'n rhaid i ni jest byw efo'r sefyllfa am rŵan.

"Ond mae pethau'n edrych yn weddol, ac mae 'na ddigon o alw am dai.

"Mewn ffordd mae'r tri mis diwethaf yn digwydd rŵan, ac os bydd y farchnad yn dal fel hyn am ryw fis arall mi fydd yn edrych yn dda at weddill y flwyddyn ond dydyn ni ddim yn gwybod be fydd yr economi'n gwneud."